Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Canllawiau safonau masnach


Arddangos prisiau mewn gwestai a thai llety

Yn y canllawiau

Mae'r gyfraith yn mynnu eich bod yn arddangos gwybodaeth am brisiau mewn ffordd benodol nad yw'n gamarweiniol i ddefnyddwyr

Mae'r canllawiau hyn ar gyfer Cymru, Lloegr a'r Alban

Os ydych yn cynnig llety fel rhan o fusnes mae'n rhaid i chi gydymffurfio â Rheoliadau Diogelu Defnyddwyr Rhag Masnachu Annheg 2008 (CPRs) a'r Rheoliadau Darparu Gwasanaethau 2009.

Rhaid i chi sicrhau nad yw eich gwybodaeth am brisiau yn gamarweiniol. Rhaid sicrhau bod gwybodaeth am brisiau ar gael i gwsmeriaid - er enghraifft, drwy arddangos rhestr brisiau mewn man amlwg a chynnwys yr wybodaeth mewn unrhyw lyfryn neu wefan. Dylai'r wybodaeth nodi prisiau sydd yn cynnwys taliadau gwasanaeth gorfodol a TAW (lle bo'n berthnasol). Os byddwch yn codi mwy na'r pris a hysbysebwyd, gallech fod yn euog o roi arwydd pris camarweiniol.

Gwybodaeth am brisiau

Rhaid i'r wybodaeth am brisiau a roddir ar gyfer llety a gwasanaethau eraill beidio â bod yn gamarweiniol a dylid ei harddangos fel ei bod ar gael cyn i ddefnyddiwr benderfynu archebu. Gellir rhoi gwybodaeth am brisiau ar sawl ffurf - er enghraifft, ar lafar, ar y rhyngrwyd, ar hysbyseb, mewn llyfryn, ar anfoneb, neu mewn datganiad o dermau.

Gallai unrhyw 'weithredu camarweiniol' (megis dangos pris is na'r hyn a godir) neu 'hepgoriad camarweiniol' (fel peidio â chynnwys treth neu dâl gwasanaeth) fod yn drosedd.

Gallwch gyflawni trosedd os yw defnyddiwr yn cael gwybodaeth anghywir am brisiau ar gyfer eich llety a/neu wasanaethau y mae'n dibynnu arnynt i fod yn gywir cyn penderfynu gwneud archeb.

Arddangos rhestr brisiau

Mae rhestr brisiau sydd wedi'i harddangos yn y dderbynfa neu wrth y fynedfa i'ch llety yn ddull cyffredin ar gyfer arddangos cyfraddau ystafelloedd. Gellid hefyd arddangos y rhestr brisiau mewn llyfrynnau, taflenni ac ar wefannau.

Awgrymir y dylai'r rhestr brisiau yr ydych yn ei harddangos gynnwys:

  • pris ystafell wely ar gyfer un person (er enghraifft, £55 y noson) os yw'r ystafelloedd i gyd yr un pris, neu'r pris isaf ac uchaf (er enghraifft, £50-60 y nos) os oes amrywiaeth o brisiau
  • pris ystafell wely i ddau o bobl
  • pris llety mewn unrhyw fath arall o ystafell
  • a yw prisiau llety yn cynnwys brecwast neu brydau eraill ai peidio

Dylech nodi ai'r prisiau a restrir yw'r pris isaf sydd ar gael (gan nodi ' o ', er enghraifft), sy'n cynrychioli ystod o brisiau (gan nodi ' pris nodweddiadol ', er enghraifft) neu'r prisiau uchaf ac isaf am fath o lety (gan nodi 'o' ac 'i', er enghraifft).

Dylech hefyd nodi a yw'r prisiau a arddangosir am gyfnod penodol-er enghraifft, 'arhosiad o dair noson o leiaf'-ac a oes unrhyw ordaliadau ar gyfer defnydd person sengl o ystafelloedd dwbl ac ati. Os yw pris yn amodol ar unrhyw amodau arbennig-er enghraifft, lle mae'n rhaid archebu'r ystafell am gyfnod penodol ymlaen llaw, neu lle rydych yn cynnig disgownt am wneud archeb sydd ddim yn dod gyda'r opsiwn o ganslo-rhaid egluro hyn hefyd.

Dylai defnyddwyr gael gwybod am y prisiau ar gyfer ystafelloedd a gwasanaethau sydd ddim yn cael eu rhestru cyn penderfynu aros ynghyd ag unrhyw ostyngiadau wedi'u negodi, cyfraddau arbennig neu ordaliadau a all fod yn berthnasol.

Dylai pob pris gynnwys unrhyw daliadau gwasanaeth gorfodol a dylid nodi yn y rhestr brisiau eu bod wedi'u cynnwys. Rhaid i chi nodi'n glir os yw prydau bwyd yn cael eu cynnwys yn y pris-er enghraifft, 'un ystafell wely £30 y nos, gan gynnwys brecwast'.

Rhaid i'r pris yr ydych yn ei arddangos gynnwys TAW. Os ydych yn gwneud cryn dipyn o fasnach gyda chwsmeriaid busnes sydd wedi cofrestru ar gyfer TAW, efallai y byddwch yn dymuno darparu manylion am brisiau sy'n eithrio TAW hefyd, ond ni ddylai'r rhain fyth fod yn amlycach na'r prisiau TAW-gynhwysol. Ar wefan, gallwch ddarparu cyfleuster (botwm, er enghraifft) i alluogi defnyddwyr i newid rhwng prisiau TAW-gynhwysol a TAW-yn-unig, ar yr amod mai'r prisiau cynhwysol yw'r rhai sy'n ymddangos yn ddiofyn.

Rhaid i'r rhestr brisiau fod mewn lle amlwg a bod yn hawdd i'w darllen.

Gordalu

Os ydych yn hysbysebu eich prisiau i'r cyhoedd - er enghraifft, ar arwydd y tu allan i'ch safle, mewn llyfryn neu ar wefan - dylech ofalu cynnwys taliadau ychwanegol nad ydynt yn rhai dewisol yn eich prisiau a hysbysebir a chadw atynt pan fyddwch yn cyflwyno eich biliau i'ch cwsmeriaid. Os byddwch yn codi mwy na'r pris a hysbysebwyd, gallech fod yn euog o roi 'arwydd o bris camarweiniol'. Mae hyn yn drosedd. Gallai hefyd fod yn dor-contract.

Os oes siawns y gallai eich prisiau amrywio yn ystod oes yr hysbyseb dylech wneud hyn yn glir-er enghraifft, prisiau gwahanol ar gyfer tymhorau uchel ac isel.

Mae'n anghyfreithlon codi tâl ychwanegol ar ddefnyddwyr am ddefnyddio cerdyn credyd neu ddebyd i dalu'r bil. Mae'r gofynion ynghylch gordaliadau yn cael eu rheoli gan Reoliadau Hawliau Defnyddwyr (Gordaliadau Talu) 2012 (gweler 'Gordaliadau talu' am ragor o wybodaeth).

Gwybodaeth bellach

I gael rhagor o wybodaeth am y CPRs yn gyffredinol, gan gynnwys esboniad o gamau gweithredu a hepgoriadau camarweiniol, gweler 'Diogelu defnyddwyr rhag masnachu annheg'.

Yn ogystal, mae'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA) wedi cynhyrchu canllawiau ar wybodaeth y mae angen i safleoedd archebu ar-lein eu darparu: 'Bod yn dryloyw gyda'ch cwsmeriaid: canllaw byr ar gyfer safleoedd archebu llety ar-lein '.

Cosbau

Gall methu â chydymffurfio â chyfraith safonau masnach arwain at gamau gorfodi ac at gosbau, a allai gynnwys dirwy a/neu garchar. I gael rhagor o wybodaeth gweler 'Safonau masnachu: pwerau, gorfodi a chosbau'.

Deddfwriaeth allweddol

Rheoliadau Diogelu Defnyddwyr Rhag Masnachu Annheg 2008

Rheoliadau Darparu Gwasanaethau 2009

Rheoliadau Hawliau Defnyddwyr (Gordaliadau Talu) 2012

 

Adolygwyd/Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 2020

 

Noder

Bwriedir y wybodaeth hon fel canllaw yn unig; dim ond y llysoedd all roi dehongliad awdurdodol o'r gyfraith.

Efallai na fydd dolenni 'deddfwriaeth allweddol' y canllaw ond yn dangos fersiwn wreiddiol y ddeddfwriaeth, er bod dolenni ar wahân i rywfaint o ddeddfwriaeth ddiwygiedig sy'n uniongyrchol gysylltiedig chynnwys y canllawiau. Gellir dod o hyd i wybodaeth ar ddiwygiadau i ddeddfwriaeth y ar y tab 'Mwy o Adnoddau' ym mhob dolen.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â'r gwasanaeth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth, sy'n darparu cyngor cyfrinachol a diduedd ar faterion defnyddwyr yn rhad ac am ddim. Ewch i wefan Cyngor ar Bopeth neu ffoniwch linell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 03454 040505.

© 2021 itsa Ltd.