Canllaw i fasnachwyr ar labelu esgidiau
Yn y canllawiau
Rhaid labelu esgidiau â'r prif ddeunydd a ddefnyddiwyd i wneud y rhan uchaf, y leinin a'r hosan, a'r sawdl allanol.
Mae'r canllawiau hyn ar gyfer Cymru, Lloegr a'r Alban
Rhaid i esgidiau gael eu labelu gydag awgrym o'r prif ddeunydd y mae'r uwch, leinin a hosan, a'r gwadn allanol yn cael eu gwneud ar ffurf pictogramau (symbolau) neu eiriau.
Dylid atodi'r label ar o leiaf un eitem o esgidiau fesul pâr a gall ymddangos ar y pecynnu hefyd.
Y gyfraith
Mae Rheoliadau Esgidiau (Arwydd o Gyfansoddiad) 1995 yn berthnasol i esgidiau o bob disgrifiad, yn amrywio o sandalau syml i esgidiau hyd glun, ac eithrio:
- esgidiau ail-law neu dreuliedig
- esgidiau amddiffynnol
- esgidiau sy'n cynnwys asbestos
- esgidiau y bwriedir eu defnyddio wrth chwarae (er enghraifft, gwisg ffansi) gan blant o dan 14
Pwy sy'n gyfrifol am y labelu?
Cyfrifoldeb y gweithgynhyrchydd neu'r mewnforiwr yw sicrhau bod yr esgidiau wedi'u labelu'n gywir a rhoi labeli cywir nad ydynt yn gamarweiniol.
Cyfrifoldeb y manwerthwr yw sicrhau bod yr esgidiau y maent yn eu gwerthu wedi'u labelu'n gywir, yn unol â'r rheoliadau. Felly, argymhellir bod manwerthwyr yn sefydlu system ar gyfer gwirio labelu esgidiau cyn mynd ar werth, a bod y gwiriadau hyn yn cael eu cofnodi. Gall manwerthwyr gael gwybodaeth am gyfansoddiad eu hesgidiau oddi wrth weithgynhyrchwyr neu fewnforwyr.
Gofynion labelu
Rhaid i'r label nodi, yn Saesneg neu ar ffurf pictogram clir, pa ddeunydd sy'n gwneud 80% o:
- arwynebedd arwyneb yr uwch
- arwynebedd arwyneb y leinin a'r hosan (mae hyn yn golygu leinin yr uwch a'r gwadn fewnol, sy'n gyfystyr â'r tu mewn i'r esgid)
- y gwadn allanol
Lle defnyddir deunyddiau lluosog, rhaid nodi'r ddau brif ddeunydd yng nghyfansoddiad yr esgidiau.
Rhaid i'r label fod wedi'i gysylltu ag o leiaf un eitem o esgidiau ym mhob pâr a gellir ei osod ar ffurf printio, gludo, boglynnu neu ddefnyddio label atodedig; rhaid iddo fod yn weladwy, yn sownd yn ddiogel ac yn hygyrch. Gall y label hefyd ymddangos ar y pecynnu ond rhaid iddo fod ar yr esgidiau ei hun.
Os defnyddir pictogramau mewn siop fanwerthu rhaid arddangos hysbysiad sy'n egluro i'r defnyddwyr beth mae'r symbolau yn ei olygu. Mae'n rhaid i'r hysbysiad fod yn ddigon mawr fel bod defnyddwyr yn gallu gweld a deall y wybodaeth.
Os defnyddir labeli pictogram lle gwerthir esgidiau o'r lle ni fydd defnyddwyr yn gallu cael gafael ar (er enghraifft, archebu drwy'r post neu werthu ar y rhyngrwyd) rhaid hysbysu'r defnyddiwr yn glir o ystyr y pictogramau a ddefnyddir.
Y pictogramau ar gyfer y rhannau o'r esgidiau
Rhannau o'r esgidiau |
pictogram |
Uchaf: |
 |
Leinin a hosan: |
 |
y gwadn allanol: |
 |
Y pictogramau ar gyfer y deunyddiau a ddefnyddir wrth gyfansoddi esgidiau
Cyfansoddiad |
pictogram |
Lledr: |
 |
Lledr wedi'i orchuddio: |
 |
Tecstilau: |
 |
Deunyddiau eraill: |
 |
Deddfwriaeth arall
Os gwneir unrhyw honiadau camarweiniol ynglyn ag esgidiau, efallai y ceir achosion o dorri gofynion Rheoliadau Diogelu Defnyddwyr Rhag Masnachu Annheg 2008 hefyd. Gweler ' Diogelu defnyddwyr rhag masnachu annheg ' am ragor o wybodaeth am y Rheoliadau hyn.
Cosbau
Gall methu â chydymffurfio â chyfraith safonau masnach arwain at gamau gorfodi a chosbau, a all gynnwys dirwy a/neu garchar. I gael rhagor o wybodaeth, gweler ' Safonau masnach: pwerau, gorfodi a chosbau '.
Deddfwriaeth allweddol:
Rheoliadau Labelu Esgidiau (Nodi Cyfansoddiad) 1995
Rheoliadau Diogelu Defnyddwyr rhag Masnachu Annheg 2008
Adolygwyd / diweddarwyd ddiwethaf: Gorffenaf 2019
Noder
Bwriedir y wybodaeth hon fel canllaw yn unig; dim ond y llysoedd all roi dehongliad awdurdodol o'r gyfraith.
Efallai na fydd dolenni 'deddfwriaeth allweddol' y canllaw ond yn dangos fersiwn wreiddiol y ddeddfwriaeth, er bod dolenni ar wahân i rywfaint o ddeddfwriaeth ddiwygiedig sy'n uniongyrchol gysylltiedig chynnwys y canllawiau. Gellir dod o hyd i wybodaeth ar ddiwygiadau i ddeddfwriaeth y ar y tab 'Mwy o Adnoddau' ym mhob dolen.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â'r gwasanaeth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth, sy'n darparu cyngor cyfrinachol a diduedd ar faterion defnyddwyr yn rhad ac am ddim. Ewch i wefan Cyngor ar Bopeth neu ffoniwch linell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 03454 040505.
© 2021 itsa Ltd.