Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Canllawiau safonau masnach


Polisïau dychweliadau

Yn y canllawiau

Dysgwch sut i ddweud wrth eich cwsmeriaid am eu hawliau cyfreithiol a'ch polisi ar ddychweliadau ar sail ewyllys da pan fyddant yn prynu nwyddau gennych chi.

Mae'r canllawiau hyn ar gyfer Cymru, Lloegr a'r Alban

Mae gan ddefnyddwyr hawliau lle mae nwyddau yn ddiffygiol neu ddim fel y'u disgrifiwyd, a gall polisïau dychwelyd manwerthwyr ychwanegu at yr hawliau hyn, ond nid eu dileu.

Nid yw'r canllawiau hyn yn berthnasol i fusnesau sy'n gwerthu i fusnesau eraill yn unig.

Oes rhaid i mi dderbyn dychweliadau?

O dan Ddeddf Hawliau Defnyddwyr 2015, gall defnyddwyr fod â hawl i gael ad-daliad, adnewyddu, atgyweirio a/neu iawndal pan fo nwyddau yn ddiffygiol neu heb eu disgrifio yn gywir; mae ganddynt hawl hefyd i gael ad-daliad a/neu iawndal lle nad oedd gan y gwerthwr hawl gyfreithiol i werthu'r nwyddau. Gweler 'Gwerthu a chyflenwi nwyddau' am wybodaeth fanylach.

Mewn achosion eraill, er enghraifft, lle mae'r defnyddiwr wedi prynu eitem o ddillad yn y maint anghywir, neu os ydynt wedi newid eu meddwl neu os yw eitem yn rhodd ddiangen-fel arfer nid oes hawl awtomatig i ddychwelyd nwyddau.

Mae ambell eithriad i'r rheol hon, gan gynnwys nwyddau sy'n cael eu gwerthu trwy archeb post neu'r  rhyngrwyd (gwerthu o bell) a nwyddau sy'n cael eu gwerthu i ddefnyddiwr yn ystod ymweliad â'u cartref ac ati. Gweler 'Contractau defnyddwyr: gwerthu o bell'  a  'Contractau defnyddwyr: gwerthiannau oddi ar y safle'  i gael rhagor o wybodaeth.

Beth y gallaf ei ddweud yn fy mholisi dychwelyd?

Gall fod yn anodd drafftio polisi dychweliadau sy'n rhoi gwybodaeth ddefnyddiol i'r defnyddiwr, yn diogelu eich buddiannau a hefyd yn bodloni gofynion y gyfraith. Am y rheswm hwn, dywedir yn aml mai'r 'hysbysiad gorau yw dim hysbysiad o gwbl' ac ni ddylai fod angen i chi ddatgan polisi dychwelyd o gwbl oni bai bod eich polisi yn cynnig mwy i'r defnyddiwr na'i hawl sylfaenol yn ôl y gyfraith.

Lle rydych chi'n cynnig mwy i'r defnyddiwr na'r gyfraith, mae'n rhaid i chi osod amodau, er enghraifft:

  • gofyniad i gynhyrchu'r dderbynneb til wreiddiol
  • gofyniad i ddychwelyd y nwyddau heb eu defnyddio ac mewn deunydd pacio heb ei agor
  • dyddiad cau ar gyfer dychwelyd
  • cynnig i gyfnewid neu gynnig nodyn credyd, ond nid i ad-dalu

Ni allwch orfodi'r amodau hyn lle mae gan y defnyddiwr hawl gyfreithiol i ddychwelyd nwyddau. Os byddwch yn nodi unrhyw beth am eich polisi neu'ch gwarant o ffurflenni, dylech sicrhau nad yw hyn yn camarwain defnyddwyr ynghylch eu hawliau cyfreithiol. Mae'n arfer da felly i ddatgan hyn yn glir, er enghraifft, 'Cynigir y polisi hwn yn ychwangeol i'ch hawliau cyfreithiol'.

Os ydych am roi gwybod i'ch cwsmeriaid am eich polisi dychwelyd cyn prynu nwyddau, dylech ofalu eich bod yn gwneud yn siwr nad ydych yn eu camarwain am eu hawliau cyfreithiol.

Dylech hefyd nodi'n glir yr hyn rydych yn ei gynnig yn ogystal â'r hawliau hynny. Byddai'r canlynol yn bolisi dychweliadau derbyniol ar gyfer siop fanwerthu sy'n gwasanaethu cwsmeriaid wyneb yn wyneb:

Eich hawliau cyfreithiol: pan fyddwch yn prynu nwyddau o fusnes, yn ôl y gyfraith mae gennych nifer o hawliau fel defnyddiwr. Mae'r rhain yn cynnwys yr hawl i hawlio ad-daliad, adnewyddu, atgyweirio a/neu iawndal lle mae'r nwyddau'n wallus neu wedi'u camddisgrifio.

Ein polisi: yn ogystal â'ch hawliau cyfreithiol, rydym hefyd yn caniatáu i chi ddychwelyd nwyddau os ydych yn syml yn newid eich meddwl. Dychwelwch y nwyddau sydd heb eu defnyddio i ni gyda'r dderbynneb til wreiddiol o fewn 14 diwrnod a byddwn yn cynnig cyfnewid neu nodyn credyd i chi.

Os ydych chi'n gwerthu o bell (er enghraifft, drwy'ch gwefan) neu i ffwrdd o'ch safle busnes (er enghraifft, yng nghartrefi defnyddwyr), yna mae gan y defnyddiwr hawliau cyfreithiol ychwanegol y mae'n rhaid eu hadlewyrchu yn eich telerau a dogfennaeth safonol (gweler 'Contractau defnyddwyr: gwerthu o bell'  a  'Contractau defnyddwyr: gwerthu oddi ar y safle'). Yn y sefyllfaoedd hyn, efallai y byddwch yn dymuno llunio polisi dychweliadau sy'n cynnwys:

  • crynodeb o hawliau cyfreithiol y defnyddiwr lle mae nwyddau'n ddiffygiol, wedi'u camddisgrifio, ac ati
  • manylion am hawl gyfreithiol y defnyddiwr i ganslo heb roi rheswm, fel arfer o fewn 14 diwrnod i ddanfon y nwyddau
  • unrhyw hawliau ychwanegol yr hoffech eu rhoi i'r defnyddiwr, megis cyfnod canslo hirach na'r lleiafswm cyfreithiol o 14 diwrnod

A allaf gyfyngu fy atebolrwydd i gwsmer?

Ni ellir cymeryd hawliau cyfreithiol defnyddwyr i ffwrdd na'u cyfyngu, ac mae unrhyw ymgais gan fasnachwr i wneud hynny drwy gyfeirio at gymal gwahardd neu hysbysiad cyffelyb yn ddi-rym ac felly nid oes modd ei orfodi.

O dan Reoliadau Diogelu Defnyddwyr Rhag Masnachu Annheg 2008 Mae hefyd yn drosedd camarwain defnyddiwr ynghylch ei hawliau cyfreithiol.

Mae'r canlynol yn enghreifftiau o ddatganiadau sy'n debygol o gamarwain defnyddwyr ynghylch eu hawliau:

  • ni roddir ad-daliadau
  • gellir dim ond cyfnewid nwyddau
  • dim ond nodiadau credyd a roddir yn erbyn nwyddau diffygiol
  • gwerthir fel y gwelir

Byddai hyd yn oed y datganiad 'dim ad-daliadau ac eithrio lle mae nwyddau'n ddiffygiol' yn anghyfreithlon, gan fod nifer o achosion lle gall defnyddiwr hawlio ad-daliad ar nwyddau nad ydynt yn ddiffygiol (fel nwyddau wedi'u cam-ddisgrifio).

A allaf ddathawlio'r rhybudd i'w wneud yn gywir?

Mae'n gamsyniad cyffredin y gellir defnyddio datganiadau fel y rhai a ddisgrifiwyd uchod os oes datganiad yn cyd-fynd â hwy fel 'Mae eich hawliau statudol yn parhau heb eu heffeithio'. Fodd bynnag, lle defnyddir dau ddatganiad croes gyda'i gilydd, maent yn dal yn debygol o gamarwain defnyddwyr ynghylch eu hawliau ac mae'r hysbysiad yn debygol o fod yn anghyfreithlon.

Gwarantau defnyddwyr

Mae Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015 yn nodi rheolau sy'n berthnasol pan fyddwch yn rhoi gwarant ar nwyddau heb godi tâl ychwanegol. Rhaid i unrhyw warant o'r fath gynnwys y manylion canlynol:

  • enw a chyfeiriad y person sy'n rhoi'r warant
  • cynnwys y warant (beth y mae'n ei gwmpasu, ym mha wledydd y mae'n berthnasol, a beth y byddwch yn ei wneud pan fydd cais yn cael ei wneud)
  • hyd y warant
  • sut i wneud hawliad
  • datganiad bod gan y defnyddiwr hawliau statudol nad yw'r warant yn effeithio arnynt

Ni allwch ddefnyddio hyd gwarant i gyfyngu ar hawliau defnyddwyr. Mae gan ddefnyddwyr hawl i ddisgwyl ansawdd boddhaol i'w nwyddau drwy gydol eu disgwyliad oes rhesymol, ar yr amod y cânt eu cynnal yn gywir ac na chânt eu camddefnyddio.

Os byddwch yn cynnig gwarant, gall defnyddwyr ofyn i chi ddarparu copi ysgrifenedig. Os cynigir nwyddau o fewn y Deyrnas Unedig, rhaid ysgrifennu'r warant yn Saesneg.

Cosbau

Gall methu â chydymffurfio â chyfraith safonau masnach arwain at gamau gorfodi ac at gosbau, a all gynnwys dirwy a/neu garchar. I gael rhagor o wybodaeth, gweler 'Safonau masnach: pwerau, gorfodi a chosbau'.

Ddeddfwriaeth allweddol

Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015

 

Adolygwyd/Diweddarwyd ddiwethaf: Mawrth 2021

 

Yn y diweddariad hwn

Dim newidiadau mawr

 

Noder

Bwriedir y wybodaeth hon fel canllaw yn unig; dim ond y llysoedd all roi dehongliad awdurdodol o'r gyfraith.

Efallai na fydd dolenni 'deddfwriaeth allweddol' y canllaw ond yn dangos fersiwn wreiddiol y ddeddfwriaeth, er bod dolenni ar wahân i rywfaint o ddeddfwriaeth ddiwygiedig sy'n uniongyrchol gysylltiedig chynnwys y canllawiau. Gellir dod o hyd i wybodaeth ar ddiwygiadau i ddeddfwriaeth y ar y tab 'Mwy o Adnoddau' ym mhob dolen.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â'r gwasanaeth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth, sy'n darparu cyngor cyfrinachol a diduedd ar faterion defnyddwyr yn rhad ac am ddim. Ewch i wefan Cyngor ar Bopeth neu ffoniwch linell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 03454 040505.

© 2021 itsa Ltd.