Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Canllawiau safonau masnach


Cynhyrchu eich bwyd anifeiliaid anwes eich hun

Yn y canllawiau

Cydnabyddwch y goblygiadau cyfreithiol pan yn gwneud bwydydd anifeiliaid anwes yn y cartref gan gynnwys yr angen i gofrestru/cymeradwyo

Mae'r canllawiau hyn ar gyfer Cymru

Mae'r canllaw hwn yn ymdrin â gweithgynhyrchu bwyd anifeiliaid anwes, gyda phwyslais arbennig ar gynhyrchu bwyd anifeiliaid anwes a danteithion yn eich cartref eich hun-er enghraifft, bisgedi cwn cartref.

Cyn dechrau gweithgynhyrchu unrhyw fwyd anifeiliaid anwes, cysylltwch â'ch gwasanaeth safonau masnach lleol am gyngor gan na ddylai busnesau bwyd anifeiliaid, gan gynnwys gweithgynhyrchwyr bwyd anifeiliaid anwes, weithredu heb gael eu cofrestru na'u cymeradwyo (fel y bo'n briodol) gyda'u hawdurdod lleol (y gwasanaeth safonau masnach fel arfer).

Yn ogystal, mae deddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol i'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA), fel yr awdurdod cymwys, gymeradwyo safleoedd gweithgynhyrchu lle mae bwyd anifeiliaid anwes yn defnyddio neu'n ymgorffori cynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid-er enghraifft, wyau, cig, llaeth, menyn, mêl. Mae hyn yn cynnwys mangreoedd sy'n gweithgynhyrchu bwyd anifeiliaid anwes mewn tai domestig, hyd yn oed os defnyddir cynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid a ystyrir yn addas i'w bwyta gan bobl.

Rhaid i'r bwyd anifeiliaid anwes gael ei labelu â gofynion labelu gorfodol, y cyfeirir atynt weithiau fel 'datganiad statudol'.

Beth yw bwyd anifeiliaid anwes?

Bwyd anifeiliaid anwes yw unrhyw gynnyrch a gynhyrchir gan weithgynhyrchydd bwyd anifeiliaid anwes (hyd yn oed os caiff ei gynhyrchu yn eich cartref eich hun)-boed wedi'i brosesu, wedi'i brosesu'n rhannol neu heb ei brosesu – i'w lyncu gan anifeiliaid anwes ar ôl ei roi ar y farchnad. Fel arfer mae bwyd anifeiliaid anwes ar ffurf cymysgedd bras, ciblau/bisgedi, neu fel bwyd gwlyb mewn tuniau neu godennau ond mae hefyd yn cynnwys, er enghraifft, cacennau cwn a danteithion tebyg eraill, a bwyd amrwd (wedi'i rewi neu'n ffres).

Mae deddfwriaeth bwyd anifeiliaid yn berthnasol yn bennaf i fwydo ar gyfer 'anifeiliaid sy'n cynhyrchu bwyd', sy'n golygu da byw a ffermir, gan gynnwys cwningod a cheffylau. Fodd bynnag, mae hefyd yn cynnwys bwyd anifeiliaid ar gyfer yr hyn a elwir yn 'anifeiliaid nad ydynt yn cynhyrchu bwyd'. Mae hyn yn nodweddiadol yn golygu creaduriaid sy'n byw'n rhydd yn y gwyllt, sy'n dwyn ffwr, anifeiliaid anwes, ac anifeiliaid sy'n cael eu cadw mewn swau, syrcasau a labordai. Diffinnir anifail anwes fel unrhyw 'anifail nad yw'n cynhyrchu bwyd' sy'n perthyn i rywogaeth sy'n cael ei fwydo, ei fagu neu ei gadw ond na chaiff ei ddefnyddio fel arfer i'w fwyta gan bobl.

Gweithgynhyrchu bwyd anifeiliaid anwes

Mae'r diwydiant bwyd anifeiliaid anwes yn cael ei reoleiddio'n agos iawn (gweler 'Deddfwriaeth allweddol' isod), ac mae'r ddeddfwriaeth hon yr un mor berthnasol i'r hyn y gellir ei ddisgrifio fel gweithgynhyrchu bwyd anifeiliaid anwes masnachol ar raddfa ddiwydiannol ac i weithgynhyrchwyr ar raddfa lai, gan gynnwys yng nghartref preifat person neu mewn uned fach.

Egwyddor drosfwaol y ddeddfwriaeth yw bod yn rhaid cynhyrchu bwyd anifeiliaid, gan gynnwys bwyd anifeiliaid anwes, mewn amodau hylan, a bod y cynnyrch gorffenedig yn ddiogel, nad yw'n niweidiol i anifail na iechyd dynol a gellir ei olrhain yn llawn. Disgrifir y prif ddarnau o ddeddfwriaeth sydd i'w hystyried wrth weithgynhyrchu bwyd anifeiliaid anwes, hyd yn oed yn eich cartref eich hun, isod.

Mae Rheoliad (EC) Rhif 183/2005 gosod gofynion ar gyfer hylendid bwyd anifeiliaid yn mynnu bod diogelwch a hylendid bwyd anifeiliaid yn cael eu hystyried ym mhob cam o'r broses o gynhyrchu bwyd anifeiliaid anwes, lle bynnag y gellir gwneud hynny. Mae'r rheoliad yn nodi sut mae'n rhaid i holl gynhyrchwyr bwyd anifeilaiid anwes gydymffurfio a'r safonau gweithredu. Mae'r rheoliad yn crynhoi'r gofynion o ran hylendid bwyd anifeiliaid o ran:

  • cyfleusterau ac offer
  • personél
  • cynhyrchu
  • rheoli ansawdd gan gynnwys dadansoddi peryglon a phwynt rheoli critigol (system rheoli diogelwch bwyd HACCP)
  • storio a chludo
  • cadw cofnodion, gan gynnwys olrhain
  • cwynion a galw cynnyrch yn ôl

Rhaid i bob gwneuthurwr bwyd anifeiliaid anwes hefyd gydymffurfio â rheoliad (EC) Rhif 767/2009 ar osod ar y farchnad a defnyddio bwyd anifeiliaid. Mae'r ddeddfwriaeth hon yn ymdrin â materion fel:

  • gofynion diogelwch a marchnata. Dylid rhoi sylw arbennig i'r rhywogaeth a'r math o anifail anwes yr ydych yn cynhyrchu bwyd ar ei gyfer
  • gofynion labelu, cyflwyno a phecynnu llym, gan gynnwys datganiadau dadansoddol
  • cyfrifoldebau'r gwneuthurwr
  • cadarnhau unrhyw hawliadau, gan gynnwys hawliadau maethol
  • gwaharddiad ar gamarwain prynwyr
  • gwaharddiad ar wneud hawliadau meddyginiaethol

Mae'r rheoliad hwn hefyd yn ymdrin â sylweddau annymunol a maethol penodol ddibenion-er enghraifft:

  • y lefelau uchaf o halogion amrywiol a ganiateir mewn bwyd anifeiliaid anwes (er enghraifft, arsenig, plwm, deuocsinau a phlaladdwyr penodol)
  • sylweddau penodol y mae'n rhaid peidio â'u defnyddio mewn bwyd anifeiliaid

Mae Rheoliad (EC) Rhif 1831/2003 ar ychwanegion i'w defnyddio mewn maethiad anifeiliaid yn cynnwys darpariaethau ar gyfer rheoli ychwanegion mewn bwyd anifeiliaid anwes. Mae'r rheolaethau hyn yn ymwneud â'r ychwanegion (gan gynnwys fitaminau, lliwyddion, cyflasynnau a rhwymwyr) sydd wedi'u hawdurdodi i'w defnyddio mewn bwyd anifeiliaid ac maent yn ymdrin â materion megis:

  • categoreiddio ychwanegion bwyd anifeiliaid
  • awdurdodi ychwanegion bwyd anifeiliaid
  • labelu a phecynnu ychwanegion bwyd anifeiliaid
  • darpariaethau sy'n ymwneud â chofrestr o ychwanegion

Mae Rheoliad (EC) Rhif 1069/2009 gosod rheolau iechyd o ran sgil-gynhyrchion anifeiliaid a chynhyrchion deilliedig na fwriedir iddynt gael eu bwyta gan bobl yn ymwneud â sgil-gynhyrchion anifeiliaid-er enghraifft, deunydd sy'n tarddu o anifeiliaid sy'n cynnwys y rhannau hynny o anifeiliaid y bernir eu bod yn ddiangen i'w bwyta gan bobl neu sydd ddim fel arfer gan bobl yn y DU, ac sy'n deillio o anifeiliaid a archwiliwyd ac a basiwyd fel rhai sy'n addas i bobl fwyta cyn eu lladd. Gall hefyd gynnwys cynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid-er enghraifft, wyau, llaeth, menyn, mêl, ac ati.

Dosberthir deunyddiau anifeiliaid neu gynhyrchion anifeiliaid o'r math hwn, sydd ddim wedi'u bwriadu i'w bwyta gan bobl, fel ' sgil-gynhyrchion anifeiliaid ' o dan y rheoliad hwn (categori ABP 3 fel arfer). Rhaid i ddeunydd o'r fath fod yn rhydd o unrhyw glefyd trosglwyddadwy, sydd felly'n eithrio deunydd rhag marw, anifeiliaid heintiedig neu anabl. Mae angen cymeradwyaeth gan yr APHA ar gyfer gweithgynhyrchwyr bwyd anifeiliaid anwes sy'n defnyddio categori ABP 3. Mae hyn yn cynnwys mangreoedd sy'n gweithgynhyrchu bwyd anifeiliaid anwes mewn tai domestig neu unedau bach, p'un a yw'n defnyddio cig sy'n addas i'w fwyta gan bobl neu'n SGILGYNHYRCHION categori 3

Rhaid i chi beidio â gwneud bwyd anifeiliaid anwes gan ddefnyddio:

  • ABP categori 1 neu 2
  • gwastraff arlwyo
  • deunydd gan anifeiliaid a basiodd archwiliad am glefyd cyn ei farwolaeth ond a fethodd arolygiad ar ôl marwolaeth

Mae Gwybodaeth a chanllawiau ar y ddeddfwriaeth berthnasol i'w gweld ar wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Cofrestru neu gymeradwyo gan yr awdurdod lleol

Mae Rheoliad (EC) Rhif 183/2005 gosod gofynion ar gyfer hylendid bwyd anifeiliaid yn ei gwneud yn ofynnol i fusnesau bwyd anifeiliaid gael eu cymeradwyo neu eu cofrestru gyda'u hawdurdod lleol, fel y bo'n briodol (gweler sut i wneud cais am gymeradwyaeth neu gofrestriad ar wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd). Mae hyn yn berthnasol i Holl gweithgynhyrchwyr bwyd anifeiliaid anwes, waeth beth fo'u maint, a rhaid iddynt beidio â gweithredu heb gofrestriad/cymeradwyaeth o'r fath.

Mae Rheoliad (EC) Rhif 183/2005 yn cynnwys amodau amrywiol sy'n nodi bod rhaid i weithgynhyrchwyr bwyd anifeiliaid anwes gydymffurfio ag ef. Mae gofynion Atodiad II i'r Rheoliad (gweler y ddolen isod - 'Deddfwriaeth allweddol') mewn perthynas â phob math o weithgynhyrchu bwyd anifeiliaid anwes.

Mae'n rhad ac am ddim i gofrestru gyda'ch awdurdod lleol. Os bydd angen cymeradwyaeth yna bydd rhaid talu ffi.

Cymeradwyaeth gan APHA ar gyfer cynhyrchion sy'n ymgorffori cynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid

Os yw gweithgynhyrchu bwyd anifeiliaid anwes, hyd yn oed yn eich cartref eich hun, yn cynnwys cynhwysion o gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid a hyd yn oed os yw'r cynhyrchion hyn yn addas i'w bwyta gan bobl-er enghraifft, defnyddio cynhwysion a brynir yn uniongyrchol o archfarchnad-yna mae angen cymeradwyaeth APHA (yn ychwanegol at gofrestriad neu gymeradwyaeth awdurdod lleol). Mae hyn yn deillio o'r ffaith unwaith y gwneir y penderfyniad i ddefnyddio bwydydd dynol sy'n cynnwys cynhyrchion sy'n tarddu o anifeiliaid wrth weithgynhyrchu bwyd anifeiliaid anwes, yna daw'r deunydd hwn yn RHSA. Mae bob amser angen cymeradwyaeth gan APHA fel gorsaf bwyd anifeiliaid anwes i drin ABP.

Er mwyn i gymeradwyaeth gael ei rhoi mewn cartref domestig, er enghraifft, rhaid sicrhau gwahaniad llwyr o'r cynhwysion bwyd anifeiliaid anwes o fwyd a fwriedir i'w fwyta gan bobl ym mhob cam o'r broses brosesu er mwyn diogelu iechyd pobl ac anifeiliaid. Gellir sicrhau gwahaniad o'r fath drwy gael cyfleusterau cwbl ar wahân-er enghraifft, cegin, man gwaith a man storio pwrpasol-neu drwy wahanu amser yn llym gyda rhaglen lanhau wedi'i dogfennu'n llawn. Mae angen i beryglon gael eu rheoli gan gynllun HACCP sydd wedi'i ddogfennu ac wedi'i ategu gan raglenni gofynnol.

Un o ofynion cymeradwyaeth APHA yw system profi microbiolegol barhaus ar gyfer salmonela a Enterobacteriaceae. Rhaid cwblhau hyn mewn labordy sydd wedi'i achredu gan y UKAS yn unol ag ISO 17025 at ddibenion ABP. Gellir chwilio am labordai sy'n cydymffurfio ar wefan UKAS.

Mae canllawiau pellach ar ddefnyddio sgil-gynhyrchion anifeiliaid i wneud bwyd anifeiliaid anwes i'w gweld ar wefan GOV.UK.

Mae yna ffi statudol am gael cymeradwyaeth APHA.

Labelu

Rhaid labelu bwyd anifeiliaid anwes gyda'r gofynion labelu gorfodol cyffredinol a gofynion labelu gorfodol penodol fel sy'n ofynnol gan reoliad yr UE (EC) Rhif 767/2009 Ar rhoi ar y farchnad a defnyddio bwyd anifeiliaid.

Ceir gwybodaeth fanwl am y gofynion labelu a chyflwyniad labelu bwyd anifeiliaid anwes yn 'Manwerthu bwyd anifeiliaid anwes'.

Canllawiau ar weithgynhyrchu bwydydd anifeiliaid anwes diogel

Yn y DU mae cydnabyddiaeth ffurfiol ar waith ar gyfer Canllaw FEDIAF ar Arfer Da ar gyfer Gweithgynhyrchu Bwydydd Anifeiliaid Anwes Diogel, a chynhyrchwyd gan FEDIAF (Fédération Européenne de l'Industrie des Aliments pour Animaux Familiers -a elwir hefyd yn Ffederasiwn Diwydiant Bwyd Anifeiliaid Anwes Ewrop). Prif nod y ddogfen hon yw darparu canllawiau i sicrhau bod bwyd anifeiliaid anwes yn addas ac yn ddiogel at ddibenion bwydo anifeiliaid anwes, tra'n bodloni gofynion perthnasol y ddeddfwriaeth ar yr un pryd. Mae'r canllaw yn ymdrin â chynhyrchu, storio a dosbarthu bwyd anifeiliaid anwes a weithgynhyrchwyd yn y DU yn ogystal â mewnforion i'r DU ond ni ddylid ei ddefnyddio i gymryd lle'r gofynion rheoliadol cenedlaethol.

Cosbau

Gall methu â chydymffurfio â chyfraith safonau masnach arwain at gamau gorfodi ac at gosbau, a allai gynnwys dirwy a/neu garchar. I gael rhagor o wybodaeth, gweler 'Safonau masnach: pwerau, gorfodi a chosbau'.

Deddfwriaeth allweddol 

Rheoliad (EC) Rhif 1831/2003 ar ychwanegion i'w defnyddio mewn maethiad anifeiliaid

Rheoliad (EC) Rhif 183/2005 gosod gofynion ar gyfer hylendid bwyd anifeiliaid

Rheoliad (EC) Rhif 767/2009 ar osod ar y farchnad a defnyddio bwyd anifeiliaid

Rheoliad (EC) Rhif 1069/2009 gosod rheolau iechyd mewn perthynas â sgil-gynhyrchion anifeiliaid a chynhyrchion deilliedig na fwriedir iddynt gael eu bwyta gan bobl (rheoliad sgil-gynhyrchion anifeiliaid)

Rheoliad (EU) Rhif 142/2011 gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 1069/2009 a Chyfarwyddeb 97/78/EC

Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Gorfodi) (Cymru) 2014

Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Cyfansoddi, Marchnata a Defnyddio) (Cymru) 2016

Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid, Samplu ac ati a Gorfodi) (Cymru) 2016

Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid a Phasbort Anifeiliaid Anwes (Ffioedd) (Cymru) 2018

 

Adolygwyd/Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 2020

 

Noder

Bwriedir y wybodaeth hon fel canllaw yn unig; dim ond y llysoedd all roi dehongliad awdurdodol o'r gyfraith.

Efallai na fydd dolenni 'deddfwriaeth allweddol' y canllaw ond yn dangos fersiwn wreiddiol y ddeddfwriaeth, er bod dolenni ar wahân i rywfaint o ddeddfwriaeth ddiwygiedig sy'n uniongyrchol gysylltiedig chynnwys y canllawiau. Gellir dod o hyd i wybodaeth ar ddiwygiadau i ddeddfwriaeth y ar y tab 'Mwy o Adnoddau' ym mhob dolen.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â'r gwasanaeth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth, sy'n darparu cyngor cyfrinachol a diduedd ar faterion defnyddwyr yn rhad ac am ddim. Ewch i wefan Cyngor ar Bopeth neu ffoniwch linell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 03454 040505.

© 2021 itsa Ltd.