Cofrestru a chofnodion dofednod
Yn y canllawiau
Os ydych yn cadw dofednod neu golomennod rasio, mae gofynion penodol yn ymwneud â chofrestru a chadw cofnodion
Mae'r canllawiau hyn ar gyfer Cymru
Mae'n ofynnol i berchenogion/ceidwaid dofednod hysbysu/cofrestru fel ceidwaid dofednod gyda'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) a chadw cofnodion yn ymwneud â'u dofednod.
Mae'r cofnodion hyn yn cynnwys:
- symud dofednod ac wyau i safleoedd ac oddi arnynt
- cludiant a marchnata dofednod
- unrhyw driniaeth feddyginiaethol a weinyddir
- nifer y marwolaethau
- mesurau i reoli peryglon
- canlyniadau profi am salmonela
Hysbysu: Cofrestr Dofednod Prydain Fawr
Mae Rheoliadau Ffliw Adar (Mesurau Atal) (Cymru) 2006 yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy'n cadw 50 neu fwy o ddofednod ar unrhyw un safle hysbysu Gweinidogion Cymru (drwy APHA) am y canlynol:
- y cyfeiriad a rhif y daliad (os oes un) o'r fangre
- enw'r ceidwad ac, os yw'n wahanol, perchennog y dofednod a deiliad y safle
- rhywogaeth a gedwir
- math o system hwsmonaeth (cig, wyau neu wyau deor)
- nifer pob math o rywogaeth o ddofednod a gedwir yn y safle fel arfer
- cynhwysedd deor unrhyw ddeorfa
- manylion unrhyw amrywiadau stocio tymhorol a allai arwain at wahaniaethau sylweddol yn niferoedd neu rywogaethau dofednod ar y safle
- nifer pob math o rywogaeth o ddofednod sydd â mynediad i'r awyr agored
- a yw'r dofednod yn cael eu cadw ym mhresenoldeb, neu yng nghyffiniau, unrhyw gorff o ddwr sy'n denu adar gwyllt
Rhaid i geidwaid newydd gofrestru gyda Defra cyn pen mis ar ôl caffael yr adar.
Mae APHA yn annog ceidwaid sydd â llai na 50 o adar yn ei hysbysu o'u gwirfodd, gan ei gwneud yn haws ac yn gyflymach i chi gysylltu â nhw mewn sefyllfa o glefydau, ac felly caniatáu i unrhyw sefyllfa bosibl o achosion o glefydau gael ei rheoli'n well a thargedu adnoddau'n effeithiol.
Diffinnir ' dofednod ' yn y rheoliadau fel "pob aderyn sy'n cael ei fagu neu ei gadw mewn caethiwed i gynhyrchu cig neu wyau i'w bwyta, cynhyrchu cynhyrchion masnachol eraill, ar gyfer ailstocio cyflenwadau adar hela neu at ddibenion unrhyw raglen fridio ar gyfer cynhyrchu'r categorïau hyn o adar ".
Sut i gofrestru:
- Ffôn. Rhadffôn 0800 634 1112. Bydd cynghorwyr hyfforddedig yn llenwi'r ffurflen gyda chi dros y ffôn neu, fel arall, yn anfon ffurflen atoch i'w llenwi
- post/ebost. Gallwch gofrestru eich diadell drwy'r post neu e-bost gan ddefnyddio gwefan GOV.UK i lawrlwytho'r ffurflen ofynnol.
Mae'n rhaid rhoi gwybod am newidiadau i'r wybodaeth a hysbyswyd (cyfeiriad, perchennog, meddiannydd, rhywogaeth a gedwir) neu newid mewn niferoedd (gostyngiad neu cynnydd o 20%) i Lywodraeth Cymru drwy APHA (nid yw hyn yn cynnwys amrywiadau rheoli arferol).
Ffeiriau, marchnadoedd, sioeau, arddangosfeydd neu gynulliadau eraill
Caniateir casgliadau o ddofednod neu adar caeth mewn ffeiriau, marchnadoedd, sioeau, arddangosfeydd neu ddigwyddiadau eraill dan drwydded gyffredinol a gyhoeddir gan APHA ar ran Llywodraeth Cymru. Mae telerau trwyddedu yn ei gwneud yn ofynnol i drefnydd y digwyddiad / deiliad y drwydded i wneud cofnod o'r holl bobl sy'n dod â dofednod neu adar caeth eraill i grynhoad neu sy'n mynd ag adar o'r fath o grynhoad. Dylid casw'r cofnodion hyn am dri mis a rhaid iddo gynnwys y wybodaeth ganlynol:
- enw llawn
- cyfeiriad cartref
- rhif ffôn
- nifer a'r math o adar a arddangosir
- cadarnhad gan ymgeiswyr y byddant yn cydymffurfio â threfniadau bioddiogelwch
- datganiad nad yw'r adar sy'n cael eu harddangos, hyd eithaf gwybodaeth y perchennog / ceidwad:
- o wedi bod mewn cysylltiad ag unrhyw adar sydd wedi'u heintio â chlefyd adar hysbysadw
- o dod o barth rheoli clefyd adar
Cofnodion symud dofednod a/neu wyau
Mae Gorchymyn Clefydau Dofednod (Cymru) 2003 yn ei gwneud yn ofynnol i bob person:
- sy'n ymwneud â chludo neu farchnata dofednod neu wyau (gan gynnwys cigyddwr neu arwerthwr) i gadw cofnod o ran unrhyw ddofednod neu wyau sy'n cael eu cludo neu eu marchnata
- sy'n berchen ar neu'n cadw ar ddaliad unrhyw haid o ddofednod sy'n cynnwys 250 neu ragor o unrhyw rywogaeth o ddofednod i gadw cofnod o ddofednod sy'n dod i'r safle hwnnw neu'n gadael
Yn ôl yr Orchymun mae ' dofednod ' yn cael eu ddifinio fel "ffowls domestig, twrcïod, gwyddau, hwyaid, ieir gini, cwinfilod, colomennod, ratidau, ffesantod a phetris sy'n cael eu magu neu eu cadw'n gaeth er mwyn bridio, cynhyrchu cig neu wyau i'w bwyta neu ar gyfer ailstocio cyflenwadau o gêm.
Nodyn: Mae hyn yn wahanol i'r diffiniad yn Rheoliadau Ffliw Adar (Mesurau Atal) (Cymru) 2006 (gweler uchod).
Manylion y cofnodion sydd eu hangen:
- y dyddiad a'r lle y cafwyd y dofednod
- eu rhywogaeth a'u disgrifiad
- enw a chyfeiriad y sawl a'u cafwyd
- y dyddiad a'r dull gwaredu
- y man lladd, os mai dyna oedd y dull o waredu
- enw a chyfeiriad y person y trosglwyddwyd y dofednod neu'r wyau iddo (os yw'n hysbys), os mai dyna'r modd y cafodd ei waredu
Cadw a chynhyrchu cofnodion:
- rhaid cadw cofnodion am o leiaf 12 mis o ddyddiad y cludiant cofnodedig neu'r marchnata
- rhaid cynhyrchu cofnodion i arolygydd ar gais ar bob adeg resymol
Colomennod rasio
Rhaid i bob person sy'n berchen ar neu yn cadw colomennod rasio gadw cofnod o bob ras neu sioe y mae'r colomennod wedi'u cofnodi ar eu cyfer.
Rhaid brechu pob colomen rasio a gofrestrwyd ar gyfer ras neu sioe yn erbyn (paramycsofeirws 1 (achos clefyd Newcastle).
Rheoli salmonela mewn heidiau sy'n bridio a dodwy ac mewn deorfeydd
Mae Gorchymyn Rheoli Salmonela Mewn Dofednod (Cymru) 2008 yn ei gwneud yn ofynnol i feddiannydd daliad lle cedwir un neu fwy o heidiau bridio neu ddodwy o leiaf 250 o ddofednod o unrhyw rywogaeth unigol, ac unrhyw feddiannydd deorfa dofednod sydd â chyfanswm gallu deori o 1,000 wyau neu fwy, hysbysu Gweinidogion Cymru drwy APHA.
Diffiniadau yn y Gorchymyn:
- diffinnir 'dofednod' fel "adar y rhywogaeth Gallus gallus, twrciod, hwyaid neu wyddau "
- diffinnir 'diadell ddodwy' fel haid o ddofednod a gedwir i gynhyrchu wyau y bwriedir i bobl eu bwyta.
- difinnir 'diadell fridio' fel "diadell o ddofednod a gedwir i gynhyrchu wyau a fwriedir ar gyfer deori"
Mewn perthynas â heidiau bridio neu ddodwy y rhywogaeth Gallus gallus, mae'r Gorchymyn yn mynnu:
- samplo ar gyfer salmonela
- hysbysiad ymlaen llaw am ddyfodiad diadellau bridio (o leiaf bythefnos cyn y dyddiad cyrraedd disgwyliedig) i APHA
- hysbysu o o leiaf bythefnos cyn y symudiad i gyfnod gosod a diwedd y cylch cynhyrchu stociau bridio
- cofnodion o symudiadau
- cofnodion o samplu salmonela
Dylai'r gwaith samplo ar gyfer salmonela ar gyfer diadellau bridio ddigwydd ar yr adegau canlynol:
- pan fo'r adar yn gywion
- pan fydd yr adar yn bedair wythnos oed
- pythefnos cyn y dyddiad y symudir y ddiadell i uned ddodwy neu (os nad ydynt yn cael eu symud) y dyddiad y disgwylir iddynt gychwyn dodwy
- bob yn ail wythnos yn ystod y cyfnod dodwy
Dylid samplu ar gyfer salmonela mewn heidiau dodwy:
- pan fo'r adar yn gywion
- pythefnos cyn y dyddiad y symudir y ddiadell i uned ddodwy neu (os nad ydynt yn cael eu symud) y dyddiad y disgwylir iddynt gychwyn dodwy
- bob 15 wythnos yn ystod y cyfnod dodwy, gan ddechrau pan fydd yr adar rhwng 22 a 26 wythnos oed
Rhaid i'r meddiannydd gadw cofnod o'r samplau a gymerwyd a darparu'r wybodaeth a ganlyn:
- math o sampl
- dyddiad y sampl a gymerwyd
- adnabod y ddiadell a samplwyd
- oed y ddiadell a samplwyd
- labordy yr anfonwyd y sampl ato
- canlyniad unrhyw brawf ar unrhyw sampl
Mae'r uchod yn berthnasol i heidiau magu (250 o leiaf) ac i heidiau dodwy ac eithrio'r rhai lle mae'r wyau i gyd naill ai:
- ar gyfer defnydd domestig preifat
... neu
- a gyflenwir mewn meintiau bach gan y cynhyrchydd i'r defnyddiwr terfynol neu i siopau adwerthu lleol
Cofnod o symudiadau
Mae'n rhaid i feddiannydd y safle gadw cofnod o'r wybodaeth ganlynol pan fo ffowliaid domestig ac wyau (heblaw wyau i'w bwyta gan bobl) yn symud i'r daliad ac oddi yno fel a ganlyn:
- dyddiad symud
- a oedd y symudiad ar y daliad neu oddi arno
- nifer yr adar neu wyau a symudwyd
- oedran yr adar a symudwyd
- os symudir haid gyfan, dylid adnabod y haid honno
- adnabod yr adeilad (au) i mewn neu oddi yno y symudwyd yr adar neu'r wyau
- cyfeiriad daliad pen y daith (ar gyfer symudiadau i ffwrdd) neu gyfeiriad y fferm wreiddiol (ar gyfer symud anifeiliaid)
Cofnodion deorfeydd
Pan fydd wyau neu gywion yn cael eu symud i ddeorfa neu oddi yno, rhaid i'r meddiannydd gofnodi'r canlynol:
· dyddiad symud
· y nifer o wyau neu gywion a symudwyd
· pa un ai symudwyd hwy i'r ddeorfa neu oddi yno
· os symudiad hwy oddi ar y daliad, y gyrchfan daliad
· yn achos wyau a ddaethpwyd a hwy i'r ddorfa ar gyfer deori, daliad eu tarddiad
Rhaid cadw pob cofnod am ddwy flynedd a'i gynhyrchu i arolygydd pan fydd gofyn amdano.
Rheoli salmonela mewn heidiau o frwyliaid
Mae Gorchymyn Rheoli Salmonela mewn Heidiau o Frwyliaid (Cymru) 2009 yn ei gwneud yn ofynnol i ddeiliad daliad lle cedwir un neu fwy o heidiau o frwyliaid wybod am yr wybodaeth hon o fewn tri mis i sefydlu'r daliad ac i samplo am salmonela.
Diffinir ' haid o frwyliaid ' fel "haid a gedwir ar gyfer cynhyrchu cig y bwriedir i bobl ei fwyta".
Dylid cadw cofnodion o'r samplau salmonela a gymerwyd fel a ganlyn:
- y math o sampl a gymerwyd
- y dyddiad y cymerwyd y sampl
- os oes mwy nag un haid ar y daliad, adnabod yr haid y cymerwyd y sampl ohoni
- oed yr haid a samplwyd
- y labordy yr anfonwyd y sampl ato
- dyddiad y bwriedir lladd yr haid a samplwyd
- canlyniadau profion
Pan symudir adar i'r daliad neu oddi arno, rhaid i'r meddiannydd gofnodi:
- dyddiad y symud
- pa un ai oedd y symudiad i'r daliad neu oddi yno
- nifer yr adar a symudwyd
- oed yr adar a symudwyd
- rhag ofn i haid gyfan gael ei symud, nodi'r haid honno os oes mwy nag un haid ar y daliad
- adnabod yr adeilad neu'r grwp o adeiladau y symudwyd yr adar i mewn i neu oddi yno
- cyfeiriad y daliad y daethant ohono neu'r lladd-dy neu'r daliad ble anfonwyd hwy
Rhaid cadw pob cofnod am ddwy flynedd a'i gynhyrchu i arolygydd ar gais
Cofnodion cludiant
Mae Gorchymyn Lles Anifeiliaid (Cludo) (Cymru) 2007 yn ei gwneud yn ofynnol bod tystysgrif cludo anifeiliaid (ATC) yn cael ei chludo gyda dofednod sy'n dangos:
- tarddiad a pherchnogaeth y dofednod
- man ymadael
- dyddiad ac amser gadael
- pen arfaethedig eu taith
- hyd disgwyliedig y daith arfaethedig
Nodyn: Nid oes angen cofnodion trafnidiaeth ar gyfer cludo dofednod:
- sydd ddim yn digwydd mewn cysylltiad â gweithgaredd economaidd
- os cludir at filfeddyg ac oddi yno
- gan ffermwyr gyda adar eu hunain yn eu dull eu hunain o deithio dros bellter o lai na 50 km o'u daliad (31.07 milltir)
Os yw'n cludo dofednod dros 65 km, mae angen tystysgrif awdurdodi cludwyr a thystysgrif cymhwysedd i gludo anifeiliaid.
Ceir rhagor o wybodaeth am y dogfennau sy'n ofynnol i gludo dofednod yn ' Cludo da byw ar y ffordd: gwaith papur '.
Cofnodion fferm
Mae Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2007 yn ei gwneud yn ofynnol i berson sy'n gyfrifol am anifeiliaid a ffermir (anifeiliaid a fagwyd neu a gedwir ar gyfer cynhyrchu bwyd, gwlân, croen neu ddibenion ffermio eraill) i gadw cofnod o:
- unrhyw driniaeth feddyginiaethol a roddir
- nifer y marwolaethau a ganfyddir ym mhob arolygiad, sydd yn rhaid bod o leiaf unwaith y dydd
Rhaid cadw'r cofnodion hyn am dair blynedd a rhaid eu dangos i arolygydd ar gais.
Cofnodion meddyginiaeth
Mae Rheoliadau Meddyginiaethau Milfeddygol 2013 yn ei gwneud yn ofynnol i geidwaid anifeiliaid sy'n cynhyrchu bwyd gadw cofnod o'r canlynol:
- prawf o brynu meddyginiaethau milfeddygol
- enw'r cynnyrch a'r swp-rif
- swm a brynwyd
- enw a chyfeiriad y cyflenwr
- gweinyddu:
- enw'r cynnyrch
- dyddiad gweinyddu
- swm a weinyddir
- cyfnod cadw o'r gadwyn fwyd
- adnabod anifeiliaid sy'n cael eu trin
· gwaredu:
- dyddiad gwaredu
- maint y cynnyrch dan sylw
- sut a ble cafodd ei waredu
Rhaid cadw cofnodion prynu a rhoi meddyginiaethau milfeddygol am bum mlynedd. Mae rhagor o wybodaeth am ofynion cadw cofnodion mewn perthynas â phrynu, gweinyddu a gwaredu meddyginiaethau milfeddygol ar gael yn ' Cadw cofnodion meddyginiaethau milfeddygol '.
Cofnodion busnes bwyd
Mae Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006 a Rheoliad yr UE (EC) Rhif 852/2004 ar hylendid bwydydd angen gweithredwyr busnesau bwyd i gadw a chynnal cofnodion sy'n ymwneud â mesurau a roddwyd ar waith i reoli peryglon. Yn benodol, dylai'r sawl sy'n magu anifeiliaid neu'n cynhyrchu cynnyrch primaidd sy'n tarddu o anifeiliaid gofnodi'r canlynol:
- natur a tharddiad y bwyd anifeiliaid a fwydir i'r anifail
- cynhyrchion meddyginiaethol milfeddygol neu driniaethau eraill a weinyddir i'r anifeiliaid, dyddiadau eu gweinyddu a chyfnodau cadw'n ôl
- canlyniadau unrhyw ddadansoddiad a wnaed ar samplau a gymerwyd o anifeiliaid neu samplau eraill a gymerwyd at ddibenion diagnostig, sydd o bwys i iechyd pobl
- unrhyw adroddiadau neu wiriadau perthnasol sy'n cael eu cynnal ar anifeiliaid neu gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid
- achosion o glefydau a allai effeithio ar ddiogelwch y cig
Mae'n rhaid i'r cofnodion hyn fod ar gael i arolygydd ac i weithredwyr busnes bwyd ar gais.
Gall bobl eraill-megis milfeddygon, agronomegwyr a thechnegwyr fferm - helpu gweithredwyr busnesau bwyd i gadw cofnodion.
Cosbau
Gall methu â chydymffurfio â chyfraith safonau masnach arwain at gamau gorfodi ac at gosbau, a allai gynnwys dirwy a/neu garchar. I gael rhagor o wybodaeth, gweler ' Safonau masnach: pwerau, gorfodi a chosbau '.
Yn ogystal, o dan rai deddfwriaethau, lle canfyddir nad yw person yn cydymffurfio â hysbysiad, gall yr awdurdod gorfodi sicrhau cydymffurfiaeth gyda'r a bydd y person yn atebol am unrhyw gostau a ysgwyddir.
Deddfwriaeth allweddol
Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981
Gorchymyn Clefydau Dofednod (Cymru) 2003
Rheoliad yr UE (EC) Rhif 852/2004 ar hylendid bwydydd
Rheoliadau Ffliw Adar (Mesurau Atal) (Cymru) 2006
Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006
Gorchymyn Lles Anifeiliaid (Cludo) (Cymru) 2007
Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2007
Gorchymyn Rheoli Salmonela mewn Dofednod (Cymru) 2008
Gorchymyn Rheoli Salmonela Mewn Heidiau o Frwyliaid (Cymru) 2009
Rheoliadau Meddyginiaethau Milfeddygol 2013
Adolygwyd/Diweddarwyd ddiwethaf: Ionawr 2020
Noder
Bwriedir y wybodaeth hon fel canllaw yn unig; dim ond y llysoedd all roi dehongliad awdurdodol o'r gyfraith.
Efallai na fydd dolenni 'deddfwriaeth allweddol' y canllaw ond yn dangos fersiwn wreiddiol y ddeddfwriaeth, er bod dolenni ar wahân i rywfaint o ddeddfwriaeth ddiwygiedig sy'n uniongyrchol gysylltiedig chynnwys y canllawiau. Gellir dod o hyd i wybodaeth ar ddiwygiadau i ddeddfwriaeth y ar y tab 'Mwy o Adnoddau' ym mhob dolen.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â'r gwasanaeth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth, sy'n darparu cyngor cyfrinachol a diduedd ar faterion defnyddwyr yn rhad ac am ddim. Ewch i wefan Cyngor ar Bopeth neu ffoniwch linell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 03454 040505.
© 2021 itsa Ltd.