Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Canllawiau safonau masnach


Cynlluniau cyffredinol wrth gefn ar gyfer clefydau da byw

Yn y canllawiau

Pwysigrwydd cynllunio wrth gefn yn lleihau effaith brigiad clefyd da byw

Mae'r canllawiau hyn ar gyfer Cymru

Mae'trychineb'yn ddigwyddiad sy'n fwy na'r gallu lleol i ddelio ag ef, tra bod'argyfwng'yn achos annisgwyl neu sydyn sy'n gofyn am weithredu ar unwaith. Gall achos o glefyd difrifol mewn anifeiliaid, fel clwy'r traed a'r genau, ffliw adar neu'r gynddaredd, gyd-fynd â'r diffiniadau o drychineb ac argyfwng.

Gall effeithiau heintiad fod â goblygiadau difrifol o ran cyfyngiadau symud a lladd nifer fawr o anifeiliaid. Mae hefyd effeithiau dynol yn deillio o glefydau milheintiol posibl (er enghraifft, y gynddaredd) o ran rheoli ôl-gysylltiad a thriniaeth feddygol gefnogol.

Po fwyaf y tebygolrwydd a/neu effaith trychineb neu argyfwng, mwyaf yw'r angen am gynllunio wrth gefn.

Beth yw cynllunio wrth gefn?

Gellir diffinio cynllunio wrth gefn fel dull o ragweld, a thrwy hynny gynnig ymatebion i ddigwyddiadau ac argyfyngau annisgwyl a anfwriadol. Mae'n seiliedig ar y risg a'r disgwyliad ar gyfer senarios posibl, y canlyniadau disgwyliedig (yn seiliedig ar brofiad efallai), paratoi i liniaru'r canlyniadau hyn, ac ailadeiladu ac iawndal ar ôl y digwyddiad. Wrth gynllunio wrth gefn yn effeithiol, mae'n gorfod mantoli costau cynllunio ar gyfer senarios posibl yn erbyn y tebygolrwydd y bydd y digwyddiadau hynny'n digwydd a difrifoldeb yr effaith.

Y gyfraith

Mae Deddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004 yn adlewyrchu rôl awdurdodau lleol (a Llywodraeth ganolog) wrth ddarparu diogelwch sifil ar lefel leol ac mae'n gosod dyletswydd statudol arnynt i gynnal cynlluniau argyfwng ar gyfer digwyddiadau neu sefyllfaoedd sy'n debygol o achosi niwed difrifol i lles pobl a'r amgylchedd - er enghraifft, clefydau anifeiliaid.

Mae Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981 yn gosod dyletswyddau statudol ar awdurdodau lleol mewn perthynas ag achosion o glefydau anifeiliaid. Mae'r rôl hon yn canolbwyntio ar atal clefydau hysbysadwy rhag ymledu ac felly cyfyngu ar effaith y clefyd ar bobl, anifeiliaid a'r amgylchedd.

Mae Deddf Lles Anifeiliaid 2006 yn gwneud perchnogion a cheidwaid anifeiliaid yn gyfrifol am sicrhau bod eu hanghenion lles yn cael eu bodloni a'i bod yn creu trosedd i berson cyfrifol achosi neu ganiatáu i anifail ddioddef yn ddiangen.

Mae rhai deddfwriaethau sy'n effeithio ar geidwaid da byw yn cyfeirio'n benodol at gynllunio wrth gefn. Er enghraifft, mae Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2007 yn ei gwneud yn ofynnol i ddarpariaethau gael eu gwneud yn achos methiant offer awtomataidd neu fecanyddol sy'n hanfodol i iechyd a lles anifeiliaid. Mae rheoliad (CE) Rhif 1/2005 yr UE ar ddiogelu anifeiliaid wrth eu cludo a gweithrediadau cysylltiedig yn ei gwneud yn ofynnol i'r rhai sy'n gwneud cais am awdurdodiad teithio hir i gyflwyno cynlluniau wrth gefn os ceir argyfwng.

Ceir rhagor o wybodaeth am gyfrifoldebau cyfreithiol ceidwaid da byw yn ystod argyfyngau clefydau neu glefydau nad ydynt yn rhai clefydau yn y codau ymarfer ar gyfer lles da byw sydd ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

Beth sy'n digwydd mewn sefyllfa o glefyd?

Mewn achos o glefyd neu argyfwng, mae gan Lywodraeth Cymru gynlluniau wrth gefn sydd wedi'u dogfennu'n dda ar gyfer sut y bydd hi a'i hasiantaethau (o fewn y Llywodraeth), ei phartneriaid gweithredol (gan gynnwys awdurdodau lleol) a'r gymuned ffermio yn ymateb. Mae'r cynlluniau'n manylu ar y trefniadau ar gyfer delio â chlefydau, eu rheoli a'u dileu. Nod y cynlluniau yw:

  • achosi'r amhariad lleiaf posibl i bob diwydiant a'r cyhoedd yn gyffredinol
  • lleihau nifer yr anifeiliaid y mae angen eu lladd am unrhyw reswm
  • lleihau'r niwed i'r amgylchedd a diogelu iechyd y cyhoedd
  • ysgafnhau'r baich ar drethdalwyr a'r cyhoedd

Mae fersiwn ddiweddaraf y cynllun wrth gefn bellach yn generig, sy'n golygu ei fod yn un ddogfen syml sy'n rhoi trosolwg clir o'r ymateb i achosion a digwyddiadau sy'n ymwneud â chlefydau ac sy'n manylu ar y paratoadau ar gyfer ymateb gweithredol.

Mewn achos o glefyd anifeiliaid mae'n debygol mai Llywodraeth Cymru fydd yr adran Lywodraeth arweiniol (ond nid yw wedi'i chyfyngu i Lywodraeth Cymru). Mae Llywodraeth Cymru, ynghyd â'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA), yn uniongyrchol gyfrifol am reoli clefydau yn lleol ac yn genedlaethol a'r ymateb i iechyd a lles anifeiliaid.

Cydlynir yr ymateb tactegol drwy Ganolfan Rheoli Clefydau Genedlaethol (NDCC) sy'n briodol i'r lefel sydd ei hangen i ddelio â'r achos neu'r digwyddiad. Mae'r NDCC yn dod â swyddogaethau polisi ynghyd a ddarparwyd gan y LGD gyda swyddogaethau gweithredol a ddarperir gan APHA a phartneriaid gweithredol eraill megis awdurdodau lleol.

Ar lefel weithredol, mae APHA yn sefydlu canolfan rheoli clefydau ganolog (CDCC). Mae'r CDCC yn strwythur rhithwir a bydd wedi'i leoli ar draws sawl safle ac yn cynnwys swyddogaethau a ddarperir ar draws yr Asiantaeth. Mae'r CDCC yn cydlynu gweithgareddau gweithredol sy'n digwydd yn y ganolfan gweithredu ymlaen (FOB) ac chanolfannau gwasanaeth cwsmeriaid sy'n gweithredu'n barhaol (CSCs). Mae'r CDCC yn dilyn cyfarwyddyd a chanllawiau polisi tactegol a nodir yn y strategaethau rheoli clefydau perthnasol, cynlluniau wrth gefn a chyfarwyddiadau gweithredol.

Mae'r FOB yn gweithredu'r dull rheoli clefydau, gan sicrhau bod partneriaid gweithredol lleol a rhanddeiliaid yn cael eu cynnwys yn briodol. Mae'r FFOB yn dilyn cyfarwyddyd tactegol a chanllawiau polisi a nodir yn y strategaethau rheoli clefydau perthnasol, cynlluniau wrth gefn a chyfarwyddiadau gweithredol. Caiff FFOB ei sefydlu'n agos at leoliad yr achos neu'r digwyddiad, gan ddarparu sylfaen weithredol ar gyfer y timau hynny sy'n ymwneud yn bennaf â gweithgareddau ar y cae. Gan ddibynnu ar natur yr achos, gellir sefydlu FOB pellach. Penodir rheolwr FOB, sy'n gyfrifol am reoli'r llety, y cyfleusterau a'r adnoddau lleol, gan gynnwys y staff, am drefnu'r ddarpariaeth ar gyfer cyrraedd, sefydlu, hyfforddi a phrosesau ymadael.

Yn unol â'u cyfrifoldebau o dan Ddeddf Argyfyngau Sifi 2004, bydd awdurdodau lleol hefyd yn paratoi cynlluniau wrth gefn i ystyried amodau ac adnoddau lleol. Fel arfer gwneir hyn gan y gwasanaeth cynllunio at argyfwng o fewn eich awdurdod lleol ac mae cynlluniau unigol ar gael i'r cyhoedd.

I gael rhagor o wybodaeth am glefydau penodol, darllenwch ein canllawiau clefydau anifeiliaid unigol.

Mae'r cynllun wrth gefn generig cenedlaethol diweddaraf ar gyfer clefydau anifeiliaid i'w weld ar wefan Llywodraeth Cymru.

Cynllunio wrth gefn ar gyfer ffermwyr

Un ffordd o ddiogelu eich da byw, eich busnes a'ch incwm yw cynllunio at y dyfodol a llunio cynlluniau wrth gefn. Mewn sefyllfa o glefyd neu ddigwyddiad, bydd personél yr awdurdod lleol a swyddogion eraill yn eich cynghori ar y sefyllfa ond efallai y byddwch yn gweld bod rhoi eich cynlluniau eich hun ar waith (yn unol ag unrhyw gyfyngiadau cyfreithiol cyfredol) yn hanfodol. Fe'ch cynghorir i gymryd y camau canlynol:

  • gwnewch eich hun yn ymwybodol o'r cynllun wrth gefn generig cenedlaethol a'r cynllun wrth gefn lleol a ddelir gan eich awdurdod lleol.
  • ystyriwch eich ymateb a'ch camau y byddech yn eu cymryd i ddiogelu, ymysg pethau eraill, eich da byw, eich incwm a'ch teulu mewn sefyllfa o glefyd. Gall hyn gynnwys siarad â ffermwyr cyfagos, er enghraifft. Rydych chi a'ch cymdogion ffermio yn adnabod eich da byw a'ch tir orau; gall cynlluniau wrth gefn eich helpu chi a'ch cymuned i osgoi achosion o glefyd a'r problemau lles cysylltiedig posibl
  • ystyriwch sut y byddwch chi a'ch cymuned yn mynd i'r afael â materion bioddiogelwch mewn sefyllfa o glefyd. Gall ei drafod yn awr (mewn grwpiau ffermio lleol, er enghraifft) eich galluogi i ddatblygu cynllun gweithredu anffurfiol a thawelu unrhyw ofnau y dylai ddigwydd mewn gwirionedd
  • cadwch eich cofnodion da byw yn ddiogel. Bydd y rhain yn hanfodol ac yn ofyniad cyfreithiol, boed ar bapur neu ar gyfrifiadur, er mwyn i'r awdurdodau allu olrhain eu clefydau'n effeithiol a bydd eu hangen os daw cyfyngiadau ar symud a thrwyddedu i rym
  • siaradwch â'ch milfeddyg am strategaethau iechyd ataliol (er enghraifft, manteision ac anfanteision brechu)
  • pwyntiau eraill i'w hystyried:
    • gofynion porthiant os oes cyfyngiadau symud yn eu lle
    • unrhyw gyfyngiadau ar symud dynol o safleoedd heintiedig (yn deulu ac yn weithwyr)
    • byddwch yn ofalus o filheintiau (gall rhai clefydau anifeiliaid heintio pobl ac mae'r rhain yn debygol o fod yn fwy cyffredin mewn sefyllfa o glefyd)
  • sicrhewch bod eich cynlluniau'n cael eu diweddaru gan fod pethau a allai effeithio arnynt yn newid yn gyson

Cyngor i geidwaid da byw yn ystod achos o glefyd neu ddigwyddiad

Mae nifer o bethau y gallwch eu gwneud mewn sefyllfa o glefyd ac er y bydd llawer o'r pethau hyn yn dibynnu ar y math o glefyd a ffactorau lleol, mae'r canlynol yn rhai pwyntiau allweddol i'w dilyn beth bynnag fo'r clefyd:

  • cadwch i fyny â'r sefyllfa ddiweddaraf o ran y clefyd drwy wrando ar ddiweddariadau Cenedlaethol a Lleol. Gall hyn fod ar ffurf rhaglenni newyddion neu ddiweddariadau gan Lywodraeth Ganolog a Llywodraeth Leol
  • byddwch yn wyliadwrus am arwyddion o'r clefyd ni waeth pa mor agos neu bell y bu'r achosion diwethaf. Cofnodwch unrhyw arwyddion o'r clefyd yn ddi-oed
  • os na chaniateir rhai mathau o symudiadau, y rheswm yw eu bod yn peri risg. Sylwch ar y cyfyngiadau symud hyn. Peidiwch â chymryd cyfleoedd
  • mae gan geidwaid da byw rôl rheng flaen hanfodol o ran canfod clefydau a helpu i'w reoli a'i ddileu. Cymerwch o ddifrif eich cyfrifoldeb am sicrhau y cydymffurfir â'r cyfyngiadau llym ar fioddiogelwch a symud
  • peidiwch â rhoi'r diwydiant ffermio ehangach mewn perygl; mae gennym oll ddiddordeb cyffredin mewn cael ffermio yn ôl i fusnes-fel-arfer cyn gynted ag y bo modd
  • gofynnwch i eraill arsylwi bioddiogelwch a dilyn y rheolau. Lleihewch nifer yr ymwelwyr ar eich fferm a sicrhau eu bod yn lân ac yn diheintio ar eich safle. Amddiffyn eich da byw a'ch busnes
  • os ydych yn ansicr ynghylch unrhyw beth neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â'ch gwasanaeth safonau masnach lleol

Deddfwriaeth allweddol

Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981

Deddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004

Rheoliad UE (CE) Rhif 1/2005 ar ddiogelu anifeiliaid wrth eu cludo a gweithrediadau cysylltiedig

Deddf Lles Anifeiliaid 2006

Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2007

 

Adolygwyd/Diweddarwyd ddiwethaf: Medi 2020

Noder

Bwriedir y wybodaeth hon fel canllaw yn unig; dim ond y llysoedd all roi dehongliad awdurdodol o'r gyfraith.

Efallai na fydd dolenni 'deddfwriaeth allweddol' y canllaw ond yn dangos fersiwn wreiddiol y ddeddfwriaeth, er bod dolenni ar wahân i rywfaint o ddeddfwriaeth ddiwygiedig sy'n uniongyrchol gysylltiedig chynnwys y canllawiau. Gellir dod o hyd i wybodaeth ar ddiwygiadau i ddeddfwriaeth y ar y tab 'Mwy o Adnoddau' ym mhob dolen.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â'r gwasanaeth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth, sy'n darparu cyngor cyfrinachol a diduedd ar faterion defnyddwyr yn rhad ac am ddim. Ewch i wefan Cyngor ar Bopeth neu ffoniwch linell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 03454 040505.

© 2021 itsa Ltd.