Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Canllawiau safonau masnach


Twbercwlosis buchol

Yn y canllawiau

Deall mwy am y mesurau sydd ar waith i leihau'r risg o dwbercwlosis buchol, a phrofi gwartheg cyn eu symud fel dull i'w atal rhag lledaenu

Mae'r cyfarwyddyd hwn ar gyfer Cymru

Dan Orchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2010, mae Llywodraeth Cymru angen i'r holl wartheg ar ffermydd fod yn destun profi cyffredinol TB buchol (bTB) yn flynyddol a phrofi cyn eu symud.

Rheolau cyffredinol

Mae'r holl wartheg ar ffermydd yn destun profion cyffredinol am bTB yn flynyddol.

Dan ddeddfwriaeth gyfredol, mae angen i'r holl wartheg sy'n mynd i gael eu symud o'r safle ble maent ar hyn o bryd gael eu profi'n negyddol gan archwiliwr am bTB yn y 60 diwrnod blaenorol cyn symud y gwartheg.

Bydd symud i borfelaeth yn golygu symudiad i safle arall a bydd angen profi cyn y symudiad ac ar ôl dychwelyd, os yw'r gwartheg wedi aros ar y borfelaeth am fwy na 60 diwrnod.

Mae eich prawf cyffredinol bTB hefyd yn cyfrif fel prawf cyn symud.

Er 1 Hydref 2014, rhaid i'r holl wartheg sy'n symud rhwng safleoedd mewn awdurdod meddiannaeth unigol (SOA) gael prawf cyn-symud a phrofi'n negyddol cyn iddynt gael eu symud.

Gall ceidwaid gwartheg a'r ceidwaid hynny sydd ag SOA blaenorol wneud cais am Gytundeb Rheoli Cysylltiadau Tir Dros Dro (ILAM) gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA). Mae ILAM yn caniatáu i wartheg gael eu symud rhwng safleoedd oddi mewn i'r ILAM heb brofion cyn-symud, er bod cyfyngiadau penodol yn berthnasol.

Eithriadau i'r rheolau

  • lloeau sy'n llai na 42 diwrnod oed ar ddyddiad y symudiad
  • gwartheg sy'n symud yn uniongyrchol i'w cigyddio neu i farchnadoedd cigyddio
  • gwartheg sy'n dychwelyd o farchnad i'r daliad o ble daethant
  • symudiadau gwartheg o fewn ILAM
  • gwartheg yn teithio rhwng eu daliad cofrestredig a'r tir comin ble mae gan eu ceidwad hawliau pori
  • symud gwartheg i fan ar gyfer triniaeth filfeddygol, cyhyd ag y'i dychwelir yn uniongyrchol i'w safle gwreiddiol ar ôl y driniaeth, neu y'i lleddir neu y bydd yn mynd yn uniongyrchol i'w ladd
  • gwartheg sy'n symud yn uniongyrchol i unedau pesgi cymeradwy (eithriedig) neu farchnadoedd yn achos anifeiliaid na chafodd eu profi cyn eu symud
  • gwartheg yn symud i unedau pesgi bTB ar gyfer gwartheg dan gyfyngiadau symud am bTB
  • gwartheg yn symud i ganolfannau casglu bTB cymeradwy
  • unrhyw symudiad a gymeradwyir gan Weinidogion Cymru

Profi bTB

Gall Gweinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad i geidwad anifail/anifeiliaid buchol i ofyn i'r anifail gael ei brofi am bTB erbyn dyddiad penodol. Rhaid i'r ceidwad ddarparu pob cymorth rhesymol i'r archwiliwr er mwyn hwyluso:

  • adnabod yr anifail hwnnw a'i archwilio gan yr archwiliwr
  • llocio a sicrhau unrhyw anifeiliaid
  • gweithredu neu ddarllen unrhyw brawf perthnasol
  • prisio'r anifail ble bwriedir i'r anifail gael ei gigyddio
  • symud yr anifail i'w gigyddio

Os yw'r ceidwad yn methu sicrhau y profir anifail am bTB fel y cyfarwyddwyd, gall Gweinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad yn gwahardd symud anifeiliaid buchol i mewn i'r daliad ac i ffwrdd ohono ac eithrio dan drwydded gan archwiliwr nes bod y prawf wedi'i gwblhau.

Dan amgylchiadau penodol, gall Gweinidogion Cymru gymryd unrhyw gamau angenrheidiol i hwyluso archwilio, profi, prisio a symud anifail/anifeiliaid i ffwrdd os nad yw'r ceidwad yn profi am bTB pan gyfarwyddir iddo wneud hynny, a gallant adennill swm unrhyw dreuliau yr eir iddynt gan y ceidwad.

Os yw'r ceidwad yn methu sicrhau y profir anifail/anifeiliaid am bTB oherwydd bod yr anifeiliaid yn rhy wyllt i'w casglu neu oherwydd bod natur y tir yn golygu ei bod yn anodd casglu'r anifail/anifeiliaid yn ddiogel, yna caiff yr anifail/anifeiliaid eu trin fel bod bTB wedi effeithio arnynt a bydd rhaid cael gwared arnynt.

Profion bTB

Cyn gynted ag y bo'n ymarferol, ar ôl i ganlyniadau'r prawf gael eu darllen gan archwiliwr, rhaid iddo/iddi roi cofnod ysgrifenedig o'r canlyniadau i geidwad yr anifeiliaid.

Rhaid i geidwad unrhyw anifail a brofwyd am bTB:

  • gadw cofnodion canlyniadau'r prawf am dair blynedd a 60 niwrnod o ddyddiad y pigiad o dwbercwlin
  • cyflwyno'r cofnodion hyn pan ofynnir amdanynt gan archwiliwr
  • cofnodi manylion y prawf yng nghofnod meddyginiaethau milfeddygol y fferm

Cynghorir ffermwyr i fynd â chopi o ganlyniadau clir y prawf (a wnaed yn ystod y 60 niwrnod blaenorol, neu 30 diwrnod yn achos gwartheg o fuchesi sydd dan gyfyngiadau) gyda hwy wrth gyflwyno gwartheg a symudwyd oddi ar fferm i'w gwerthu mewn marchnad.

Fel arall, erbyn hyn gall ceidwaid ddefnyddio'r cynllun sticeri pasbort bTB newydd o'u gwirfodd, lle darperir sticer i'r ffermwr ar gyfer pob anifail sy'n profi'n glir. Mae angen rhoi'r sticer yn y pasbort a'i gwblhau gyda'r wybodaeth ddilynol cyn cael ei symud o'r daliad:

  • diwrnod un y prawf bTB
  • llofnod y ceidwad
  • enw'r practis milfeddygol a wnaeth y prawf

Cost profi

Erbyn hyn disgwylir i berchnogion buchesi dalu costau am amser yr archwiliwr milfeddygol trwyddedig wrth iddo/iddi gynnal profion cyn symud.

Deunyddiau darllen pellach

Mae rhagor o wybodaeth am bTB ar gael ar wefan GOV.UK, gan gynnwys gwybodaeth benodol am brofion cyn ac ar ôl symud.

Sylwer

Bwriedir y wybodaeth hon ar gyfer cyfarwyddyd; dim ond y llysoedd all roi dehongliad awdurdodol o'r gyfraith.

Mae'n bosibl y bydd dolenni 'Deddfwriaeth allweddol' y canllaw yn dangos fersiwn wreiddiol y ddeddfwriaeth yn unig, er y ceir dolenni i ddeddfwriaeth ddiwygio ar wahân lle y mae'n perthyn yn uniongyrchol i gynnwys canllaw. Gellir gweld gwybodaeth ynghylch gwelliannau i ddeddfwriaeth y Deyrnas Unedig ar dab 'Rhagor o Adnoddau' pob dolen; fel arfer, ymgorfforir gwelliannau i ddeddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd yn y testun.

Deddfwriaeth allweddol

Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2010

Adolygwyd / diweddarwyd ddiwethaf: Mehefin 2015

Noder

Bwriedir y wybodaeth hon fel canllaw yn unig; dim ond y llysoedd all roi dehongliad awdurdodol o'r gyfraith.

Efallai na fydd dolenni 'deddfwriaeth allweddol' y canllaw ond yn dangos fersiwn wreiddiol y ddeddfwriaeth, er bod dolenni ar wahân i rywfaint o ddeddfwriaeth ddiwygiedig sy'n uniongyrchol gysylltiedig chynnwys y canllawiau. Gellir dod o hyd i wybodaeth ar ddiwygiadau i ddeddfwriaeth y ar y tab 'Mwy o Adnoddau' ym mhob dolen.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â'r gwasanaeth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth, sy'n darparu cyngor cyfrinachol a diduedd ar faterion defnyddwyr yn rhad ac am ddim. Ewch i wefan Cyngor ar Bopeth neu ffoniwch linell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 03454 040505.

© 2021 itsa Ltd.