Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Canllawiau safonau masnach


Dofednod mewn marchnadoedd: trin a chludo

Yn y canllawiau

Beth mae'r gyfraith yn ei ddweud am les, trin a chludo dofednod, yn enwedig mewn marchnadoedd

Mae'r canllawiau hyn ar gyfer Cymru

Mae'n ofynnol i ddofednod gael eu trin a'u cludo mewn ffordd benodol. Mae hyn yn cynnwys cludo dofednod yn ddiogel, eu cefnogi gyda dwylo a sicrhau bod digon o le ac awyriad.

Wrth gludo dofednod, defnyddiwch gerbydau sy'n addas i'r pwrpas yn unig. Mae angen awdurdodi'r cludwr i gludo dofednod ar deithiau dros 65 km ac a dan wyth awr (mae rheolau gwahanol yn gymwys ar gyfer cludo anifeiliaid am fwy nag wyth awr). Rhaid i yrwyr neu hebryngwyr sy'n gyfrifol am gludo dofednod a ffermir dros 65 km fod â thystysgrif cymhwysedd ddilys. Mae teithiau dros 50 km yn gofyn am gwblhau tystysgrif cludo anifeiliaid ar gyfer pob taith a'i chadw am chwe mis.

Trin a lles

Tair rheol syml ar gyfer trin dofednod yn well:

1. Defnyddiwch ddwy law:

Handling poultry 1

2. Amgaewch yr adenydd a chefnogwch holl bwysau'r aderyn yn eich dwylo:

Handling poultry 2

3. Gofynnwch am gymorth gyda chaeadau bocsys a drysau cawell:

Handling poultry 3

Dyma'r ffordd gywir o drin dofednod mewn marchnad. Mae cyngor pellach ar gael gan yr arolygydd iechyd anifeiliaid, os oes un ar ddyletswydd yn y farchnad.

Ni ddylai'r rhai sy'n trin dofednod:

  • godi, cario neu lusgo dofednod wrth y pen, y gwddf, yr adain neu'r gynffon
  • glymu dofednod wrth y gwddf, y goes neu'r adain
  • defnyddio un llaw yn unig wrth ddal, codi a chario dofednod. Dylech bob amser ddefnyddio'r ddwy law i gefnogi'r aderyn
  • gario dofednod mewn sach neu fag. Rhaid i chi ddefnyddio cynwysyddion anhyblyg yn unig gyda digon o le ac awyriad
  • gario dofednod gyda'u pennau i lawr
  • gludo dofednod mewn cynwysyddion â mathau eraill o dda byw
  • amlygu dofednod anffit i'w gwerthu
  • achosi dioddefaint i ddofednod ar unrhyw adeg

Wrth gludo dofednod cofiwch:

  • mae'n rhaid i ddofednod fod yn addas ar gyfer y daith arfaethedig
  • mae dofednod ac anifeiliaid yn gorboethi'n gyflym yn ystod tywydd cynnes mewn cerbydau. Peidiwch â'u gadael yn eich cerbyd gan y gallent farw. Gallai methu â chydymffurfio â'r cyngor penodol hwn arwain at erlyniad am achosi dioddefaint diangen
  • dylai'r dull o deithio gael ei ddylunio, ei adeiladu, ei gynnal a'i weithredu er mwyn osgoi anaf a dioddefaint a sicrhau diogelwch yr anifeiliaid
  • rhaid i gynwysyddion anhyblyg fod yn ddigon o ran maint, cryfder a dyluniad i atal y dofednod rhag cael anaf a dioddefaint diangen tra eu bod tu mewn
  • dylai cynwysyddion gael eu cario i fyny bob amser a dylech wneud yn siwr nad yw pennau, coesau ac adenydd yn gallu ymwthio allan
  • rhaid i'r cynwysyddion fod wedi'u labelu i ddangos eu bod yn cynnwys adar byw a'u marcio ag arwydd sy'n dangos lle mae'r cynwysyddion yn sefyll.
  • rhaid i chi beidio â gorlenwi'r cynhwysydd a dylech osgoi eu hysgwyd neu eu siglo. Dylid sicrhau cynwysyddion er mwyn atal dadleoli
  • rhaid i chi sicrhau bod cyflenwad digonol o awyr iach bob amser yn y cynhwysydd
  • rhaid cymryd rhagofalon angenrheidiol i gyfyngu ar y troeth a'r ysgarthion sy'n syrthio ar anifeiliaid a leolir o dan y cynhwysydd pan gaiff cynwysyddion eu llwytho ar ben ei gilydd

Teithiau masnachol

Rhaid i unrhyw un sy'n cludo dofednod mewn cysylltiad â gweithgaredd economaidd:

  • ar deithiau dros 65 km sy'n cymryd llai nag wyth awr:
    • gael awdurdodiad cludwr taith byr (math 1) a roddwyd gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA)
    • gwblhau tystysgrif cludo anifeiliaid (ATC)
    • meddu ar dystysgrif cymhwysedd (ar gyfer gyrwyr neu chynorthwywyr)
  • ar deithiau dros 65 km sy'n cymryd mwy nag wyth awr (a ddiffinnir fel taith hir):
    • rhaid fod wedi derbyn awdurdodiad cludo teithiau hir (math 2) gan APHA
    • rhaid fod ganddynt dystysgrif cymeradwyo cerbydau/cynwysyddion ddilys
    • meddu ar dystysgrif cymhwysedd (ar gyfer gyrwyr neu chynorthwywyr)
    • lenwi ATC (oni bai bod angen log taith yn lle hynny)
    • sicrhau bod cynlluniau wrth gefn ar waith mewn achos o argyfwng

Sylwer: Mae taith yn cychwyn o fan lle llwythir anifeiliaid yn gyntaf ac wedi eu lletya am o leiaf 48 awr.

Ar 1 Ionawr 2021, mae gofynion ychwanegol yn ymwneud ag awdurdodi cludwyr, tystysgrifau cymhwysedd, cymeradwyo cerbydau / cynwysyddion a logiau teithio wrth gludo anifeiliaid o'r DU i Aelod-wladwriaethau'r UE neu trwy'r UE i wlad y tu allan i'r UE. Ni fydd yr UE bellach yn cydnabod fersiynau o'r dogfennau hyn a gyhoeddwyd gan y DU. Am fwy o wybodaeth gweler 'Cludo da byw ar y ffordd: gwaith papur'.

I gael rhagor o fanylion am y gofynion cyfreithiol sy'n ymwneud â chludo anifeiliaid, cysylltwch ag APHA ar 0300 303 8268 neu ebostiwch WIT@apha.gov.uk

Gwybodaeth bellach

Gellir dod o hyd i rywfaint o wybodaeth gyffredinol am ddal, trin a chludo yn nogfen Cod Ymarfer Llywodraeth Cymru er Lles Ieir Cig ac Ieir Bridio Cig.

Ceir gwybodaeth ychwanegol yn nogfen DEFRA Lles Anifeiliaid Wrth eu Cludo: Cyngor i Gludwyr Dofednod.

Cosbau

Gall methu â chydymffurfio â chyfraith safonau masnach arwain at gamau gorfodi ac at gosbau, a allai gynnwys dirwy a/neu garchar. I gael rhagor o wybodaeth gweler 'Safonau masnach: pwerau, gorfodi a chosbau'.

Deddfwriaeth allweddol

Gorchymyn Lles Anifeiliaid Mewn Marchnadoedd 1990

Gorchymyn Lles Anifeiliaid (Cludo) (Cymru) 2007

Deddf Lles Anifeiliaid 2006 

 

Adolygwyd/Diweddarwyd diwethaf: Mawrth 2021

 

Yn y diweddariad hwn

Dolen i wybodaeth ar gludo da byw i'r UE (neu drwyddo)

Noder

Bwriedir y wybodaeth hon fel canllaw yn unig; dim ond y llysoedd all roi dehongliad awdurdodol o'r gyfraith.

Efallai na fydd dolenni 'deddfwriaeth allweddol' y canllaw ond yn dangos fersiwn wreiddiol y ddeddfwriaeth, er bod dolenni ar wahân i rywfaint o ddeddfwriaeth ddiwygiedig sy'n uniongyrchol gysylltiedig chynnwys y canllawiau. Gellir dod o hyd i wybodaeth ar ddiwygiadau i ddeddfwriaeth y ar y tab 'Mwy o Adnoddau' ym mhob dolen.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â'r gwasanaeth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth, sy'n darparu cyngor cyfrinachol a diduedd ar faterion defnyddwyr yn rhad ac am ddim. Ewch i wefan Cyngor ar Bopeth neu ffoniwch linell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 03454 040505.

© 2021 itsa Ltd.