Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Canllawiau safonau masnach


Hylendid bwyd ar gyfer ffermwyr a thyfwyr

Yn y canllawiau

Gall peidio â mabwysiadu gweithdrefnau hylendid bwyd sylfaenol arwain at halogi neu niwed

Mae'r canllawiau hyn ar gyfer Lloegr

Rhaid i ffermwyr a thyfwyr ddilyn gweithdrefnau hylendid sylfaenol i sicrhau bod peryglon fel halogiad sy'n deillio o bridd, dwr, gwrteithiau, plaladdwyr, y driniaeth o wastraff ac ati yn cael eu hatal. Rhaid cadw cofnodion sy'n berthnasol i ddiogelwch bwyd hefyd.

Mae Rheoliad yr UE (EC) Rhif 852/2004 ar hylendid bwydydd wedi'i anelu at sicrhau bod y rheolaethau ledled y gadwyn fwyd yn cael eu cryfhau; mae'n cael ei weithredu a'i orfodi yn Lloegr gan Reoliadau Diogelwch Bwyd a Hylendid (Lloegr) 2013. Yn benodol, bwriad y ddeddfwriaeth yw moderneiddio, atgyfnerthu a symleiddio deddfwriaeth hylendid bwyd yr UE, er mwyn cymhwyso rheolaethau effeithiol a chymesur ledled y gadwyn fwyd o gynhyrchu sylfaenol i werthu neu gyflenwi i'r defnyddiwr terfynol (a elwir yr ymagwedd fferm i'r fforc).

Pa fathau o fusnesau sy'n cael eu cynnwys?

Diffinnir busnesau bwyd a gweithredwyr busnesau bwyd yn Rheoliad UE (EC) 178/2002 gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop a gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd:

  • diffinnir ' busnes bwyd ' fel "unrhyw ymgymeriad, boed hynny ar gyfer elw neu beidio ac yn gyhoeddus neu'n breifat, sy'n cyflawni unrhyw gam o gynhyrchu, prosesu a dosbarthu bwyd"
  • diffinnir ' gweithredydd busnes bwyd ' fel "y personau naturiol neu gyfreithiol sy'n gyfrifol am sicrhau y bodlonir gofynion cyfraith bwyd o fewn y busnes bwyd sydd o dan ei reolaeth"

Felly, er enghraifft, mae unrhyw ffermydd da byw, ffermydd pysgod, ffermydd âr, pigo cynnyrch eich hun, gerddi marchnad neu gwenynwyr sy'n cynhyrchu bwyd i'w fwyta gan bobl.

Un o ofynion Rheoliad yr UE yw bod yn rhaid i'r holl fusnesau bwyd, gydag ychydig o eithriadau, gael eu cymeradwyo neu eu cofrestru gyda'u hawdurdod lleol. Mae mwy o wybodaeth am gofrestru neu gymeradwyo busnes bwyd ar gael ar wefan GOV.UK.

Amodau

Mae'r dull fferm i fforc y ddeddfwriaeth yn cynnwys gofynion ar gyfer cynhyrchwyr cynradd. Mae Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 yr UE yn cynnwys amryw o amodau a chanllawiau ar arferion hylendid da, y bydd yn rhaid i fusnesau bwyd, gan gynnwys ffermwyr a thyfwyr, gydymffurfio â hwy fel y bo'n briodol. Mae'r gofynion ar gyfer ffermwyr a thyfwyr yn weithdrefnau hylendid weddol sylfaenol. Fel busnesau bwyd, bydd yn rhaid iddynt sicrhau bod peryglon yn cael eu rheoli'n briodol.

O dan rheolau hylendid bwyd, bydd angen i chi gymryd camau i:

  • atal halogiad sy'n deillio o'r aer, dwr, pridd, bwyd, cynnyrch milfeddygol, taenu tail, plaladdwyr, gwastraff, ac ati
  • cadw anifeiliaid y bwriedir eu cigydda i'w bwyta gan bobl yn lân (o leiaf yn union cyn eu lladd a chofio ystyriaethau lles eraill)
  • atal anifeiliaid a phlâu rhag achosi halogiad
  • ystyried canlyniadau profion sy'n berthnasol i iechyd anifeiliaid a phobl
  • ddefnyddio meddyginiaethau / cynhyrchion amddiffyn planhigion yn briodol
  • defnyddio dwr glân i atal halogiad
  • cadw'n lân, ac os oes angen, diheintio'r cyfleusterau, yr offer a'r cerbydau a ddefnyddir i gynhyrchu, paratoi, storio a chludo bwyd a phorthiant

Mae'r ddeddfwriaeth yn mynnu eich bod yn cadw cofnodion sy'n berthnasol i ddiogelwch bwyd, gan gynnwys natur a tharddiad eich bwyd anifeiliaid, gan gynnwys:

  • natur a tharddiad eich bwyd anifeiliaid
  • eich defnydd o gynhyrchion amddiffyn planhigion a bywleiddiaid
  • unrhyw gynhyrchion milfeddygol a weinyddir a'u dyddiadau tynnu'n ôl
  • unrhyw achosion o glefyd neu blâu a allai effeithio ar ddiogelwch bwyd (gwybodaeth sy'n ofynnol ar gyfer olrhain)
  • canlyniadau unrhyw ddadansoddiadau a gyflawnwyd
  • statws iechyd yr anifeiliaid rydych chi'n ei hanfon i'w lladd
  • defnyddio hadau a addaswyd yn enetig
  • unrhyw lanhau a diheintio a wneir (er enghraifft, mannau storio a pheiriannau)

Mae cofnodion da yn helpu i'ch diogelu chi a'ch busnes os bydd bwyd anifeiliaid neu ddigwyddiad diogelwch bwyd dynol cysylltiedig yn digwydd ac mae'n hanfodol er mwyn olrhain tarddiad unrhyw broblem yn gyflym.

Bydd y rhan fwyaf o'r wybodaeth rydych chi angen ei chadw ar gael eisoes fel anfonebau, derbynebau, cofnodion chwistrellu ac ati neu fel rhan o ofynion cynlluniau gwarant fferm neu gnwd ac ni ddylai fod angen i chi greu llawer o gofnodion newydd.

Os oes angen i chi gofnodi gwybodaeth ychwanegol, efallai y vydd yn ddefnyddiol i chi gwblhau dyddiadur fferm neu lyfr nodiadau.

Cosbau

Gall methu â chydymffurfio â chyfraith safonau masnach arwain at gamau gorfodi ac at gosbau, a allai gynnwys dirwy a/neu garchar. I gael rhagor o wybodaeth, gweler 'Safonau masnach: pwerau, gorfodi a chosbau'.

Deddfwriaeth allweddol 

Rheoliad yr UE (EC) Rhif 178/2002 gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop a gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd

Rheoliad yr UE (EC) Rhif 852/2004 ar hylendid bwydydd

Rheoliadau Diogelwch a Hylendid Bwyd (Lloegr) 2013

 

Adolygwyd/Diweddarwyd ddiwethaf: Medi 2020

Noder

Bwriedir y wybodaeth hon fel canllaw yn unig; dim ond y llysoedd all roi dehongliad awdurdodol o'r gyfraith.

Efallai na fydd dolenni 'deddfwriaeth allweddol' y canllaw ond yn dangos fersiwn wreiddiol y ddeddfwriaeth, er bod dolenni ar wahân i rywfaint o ddeddfwriaeth ddiwygiedig sy'n uniongyrchol gysylltiedig chynnwys y canllawiau. Gellir dod o hyd i wybodaeth ar ddiwygiadau i ddeddfwriaeth y ar y tab 'Mwy o Adnoddau' ym mhob dolen.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â'r gwasanaeth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth, sy'n darparu cyngor cyfrinachol a diduedd ar faterion defnyddwyr yn rhad ac am ddim. Ewch i wefan Cyngor ar Bopeth neu ffoniwch linell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 03454 040505.

© 2021 itsa Ltd.