Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Canllawiau safonau masnach


Amserau siwrnau cludiant anifeiliaid fferm

Yn y canllawiau

Os ydych yn cludo anifeiliaid fel rhan o'ch busnes, mae'r gyfraith yn benodol ynghylch hyd y daith a'r cerbydau y gellir eu defnyddio

Mae'r canllawiau hyn ar gyfer Cymru

Wrth cael eu cludo mewn cysylltiad â gweithgaredd economaidd (mewn geiriau eraill, busnes neu fasnach) ni chaniateir i geffylau (ac eithrio ceffylau cofrestredig *), gwartheg, defaid, geifr a moch gael eu cludo am fwy nag wyth awr oni bai bod y gofynion ychwanegol ar gyfer cerbydau cyflawni teithiau hir yn cael eu bodloni.

[*Ceffylau domestig cofrestredig yw'r rheini sydd wedi'u cofrestru gyda chymdeithas brîd gydnabyddedig fel y British Horse Database yn Weatherby's. Nid yw 'Ceffylau domestig cofrestredig' yn golygu'r rhai hynny gyda phasbortau ceffyl yn unig.]

Yn y cyrchfan olaf, mae'n rhaid i anifeiliaid gael eu dadlwytho, dyfrio a gorffwys am o leiaf 48 awr. Gall marchnadoedd da byw cymeradwy olygu safleoedd ymadael os yw'r anifeiliaid wedi teithio i'r farchnad am lai na 100 cilometr neu os ydynt wedi body yno am o leiaf chwe awr gyda digon o ddeunydd gorffwys a dwr. Os nad yw hynny'n wir, yna mae'n rhaid ychwanegu'r amser a dreulir yn teithio i'r farchnad at y daith o'r farchnad i sefydlu'r amser ar gyfer y daith.

Diffiniad ' siwrnai '

Ystyr ' siwrnai ' yw'r ffordd y mae cludiant yn cael ei weithredu'n gyfan gwbl o ' fan ymadael ' i ' fan pen y daith ', gan gynnwys llwytho yn y man ymadael, unrhyw drosglwyddiad yn ystod y daith, unrhyw ddadlwytho, gorffwys/llety a llwytho sy'n digwydd ar bwyntiau canolraddol ar y daith, nes i bob anifail gael ei ddadlwytho ar ddiwedd y siwrnai.

' Man gadael ' yw'r man lle caiff yr anifail ei lwytho yn gyntaf i gyfrwng cludo, ar yr amod bod wedi'i letya yno am o leiaf 48 awr. Gellir hefyd ystyried bod canolfannau cynulliad a gymeradwyir gan yr Undeb Ewropeaidd (UE), gan gynnwys marchnadoedd da byw, yn fannau gadael (gweler ' Sut mae marchnad da byw yn effeithio ar amseroedd teithio? ' isod). ' Safle pen y daith ' yw'r lle y mae anifail yn cael ei ddadlwytho o ddull cludo a naill ai'n cael ei letya am o leiaf 48 awr cyn yr amser gadael neu'n cael ei ladd.

Beth yw'r prif ofynion?

Mae lles anifeiliaid wrth eu cludo yn cael ei ddiogelu gan ddeddfwriaeth yr UE ar ddiogelu anifeiliaid mewn trafnidiaeth a gweithrediadau cysylltiedig.

Rhaid i unrhyw berson sy'n cludo anifeiliaid ar deithiau o dros 65 km (tua 40 milltir) fel rhan o weithgaredd economaidd gael awdurdodiad cludwr dilys i wneud hynny. Mae unrhyw un sy'n cludo gwartheg, defaid, moch, geifr, ceffylau domestig neu ddofednod ar y ffordd dros 65 km hefyd yn gorfod bod â thystysgrifau cymhwysedd dilys ar gyfer gyrwyr a chynorthwywyr cerbydau ffordd.

Dylai bob person sy'n mynd ag anifeiliaid ar daith, beth bynnag fo'u hyd, ddefnyddio'r arferion cludo da canlynol bob tro:

  • cynllunir y daith yn briodol chediwr yr amser at ei leiaf
  • gwirior anifieiliaid gan ddiwallu eu hangenion yn ystod y daith
  • mae'r anifeiliaid yn ffit i deithio
  • mae'r cerbyd a'r cyfleusterau llwytho a dadlwytho yn cael eu dylunio, eu hadeiladu a'u cynnal er mwyn osgoi anaf a dioddefaint
  • mae'r rhai sy'n trin anifeiliaid wedi'u hyfforddi neu'n gymwys yn y dasg ac nid ydynt yn defnyddio trais nac unrhyw ddulliau sy'n debygol o achosi ofn, anaf neu ddioddefaint diangen
  • rhoddir dwr, bwyd a gorffwys i'r anifeiliaid yn ôl yr angen, ac fod arwynebedd ac uchder llawr ddigonol

Beth yw'r amser teithio hiraf a ganiateir ar gyfer da byw ar y ffordd?

Wyth awr, ac eithrio fel y nodir isod. Mae hyn yn berthnasol i geffylau, gwartheg, defaid, geifr a moch.

Yn ogystal, bydd rhaid i gludwyr anifeiliaid asgwrn cefn sy'n gwneud teithiau o dros wyth awr ar y ffordd sicrhau bod eu cerbydau neu gynwysyddion da byw yn cael eu harchwilio a'u cymeradwyo yn unol â meini prawf penodol megis systemau yfed ar gerbydau, systemau awyru a monitro tymheredd. Pan fo cerbydau'n bodloni'r holl ddarpariaethau ychwanegol, ac wedi'u harchwilio a'u cymeradwyo, gellir ymestyn yr amserau teithio, fel y dangosir yn y ddogfen atodedig ar amserau siwrneiau a chyfnodau gorffwys i anifeiliaid fferm a cheffylau heb eu cofrestru.

Mae darpariaethau gwahanol yn gymwys pan fo'r cyfrwng cludo drwy, neu yn cynnwys, yr awyr a/neu'r môr

Rhanddirymiadau ar gyfer ffyrdd o deithio ar y ffordd ar deithiau o dan 12 awr

Caniateir un daith yn y DU o hyd at 12 awr yn barhaus er mwyn cyrraedd y gyrchfan derfynol heb fod angen i'r cerbyd fodloni'r darpariaethau ychwanegol sy'n ofynnol ar gyfer siwrneiau mwy. Nid yw hyn yn berthnasol i geffylau, gwartheg, defaid, geifr a moch. Am fwy o wybodaeth gweler y canllawiau Lles anifeiliaid wrth eu cludo a gyhoeddwyd gan adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA).

Sut mae marchnad da byw yn effeithio ar amseroedd teithio?

Gall marchnadoedd da byw a gymeradwyir fel canolfannau cynulliad gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) ar ran Llywodraeth Cymru fod yn fannau ymadael os yw'r anifeiliaid sydd i'w cludo naill ai:

  • wedi teithio i'r farchnad llai na 100 km (60 milltir)
    ... neu
  • wedi cael ei letya yn y farchnad gyda ddillad gwely digonnol, heb eu clymu os yn bosibl, a'u dyfrio, am o leiaf chwe awr

O dan yr amgylchiadau hyn y bydd taith newydd yn dechrau.

Os yw'r anifeiliaid wedi teithio dros 100 km (60 milltir), neu wedi bod yn y farchnad am lai na chwe awr, yna mae'n rhaid ychwanegu'r amser a dreulir yn teithio i'r farchnad at y daith o'r farchnad i ganfod hyd y daith.

Gwybodaeth pellach

Am fwy o wybodaeth gwelwch yr adran o wefan GOV.UK ar rheoliadau lles ar gyfer cludiant byw.

Cosbau

Gall methu â chydymffurfio â chyfraith safonau masnach arwain at gamau gorfodi ac at gosbau, a allai gynnwys dirwy a/neu garchar. I gael rhagor o wybodaeth, gweler ' Safonau masnach: pwerau, gorfodi a chosbau '.

DEDDFWRIAETH ALLWEDDOL 

Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981

Rheoliad yr UE (EC) Rhif 1/2005 ar ddiogelu anifeiliaid wrth eu cludo a gweithrediadau cysylltiedig

Gorchymyn Lles Anifeiliaid (Cludo) (Cymru) 2007

 

Adolygwyd/Diweddarwyd ddiwethaf: Ionawr 2019

Noder

Bwriedir y wybodaeth hon fel canllaw yn unig; dim ond y llysoedd all roi dehongliad awdurdodol o'r gyfraith.

Efallai na fydd dolenni 'deddfwriaeth allweddol' y canllaw ond yn dangos fersiwn wreiddiol y ddeddfwriaeth, er bod dolenni ar wahân i rywfaint o ddeddfwriaeth ddiwygiedig sy'n uniongyrchol gysylltiedig chynnwys y canllawiau. Gellir dod o hyd i wybodaeth ar ddiwygiadau i ddeddfwriaeth y ar y tab 'Mwy o Adnoddau' ym mhob dolen.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â'r gwasanaeth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth, sy'n darparu cyngor cyfrinachol a diduedd ar faterion defnyddwyr yn rhad ac am ddim. Ewch i wefan Cyngor ar Bopeth neu ffoniwch linell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 03454 040505.

© 2021 itsa Ltd.