Cerbydau cludo da byw
Yn y canllawiau
Mae'n rhaid i gerbydau a ddefnyddir i gludo anifeiliaid fodloni gofynion penodol i ddiogelu'r anifeiliaid sy'n cael eu cludo
Mae'r canllawiau hyn ar gyfer Cymru
Mae'n ofynnol i gerbydau sy'n cludo anifeiliaid gael eu dylunio, eu hadeiladu, eu cynnal a'u cadw er mwyn osgoi anaf, a dioddefaint ac i sicrhau diogelwch yr anifeiliaid sy'n cael eu cludo ynddynt. Mae'r gofynion hyn yn berthnasol i gludo anifeiliaid ar y ffyrdd, ar y rheilffyrdd, ar y môr ac yn yr awyr.
Mae'r ddeddfwriaeth yn berthnasol i bobl sy'n cludo anifeiliaid asgwrn cefn byw-sy'n cynnwys da byw fferm (gwartheg, defaid, moch, geifr, ceirw a cheffylau) - mewn cysylltiad â gweithgaredd economaidd (mewn geiriau eraill busnes neu fasnach).
Y prif ofynion
Diogelir lles anifeiliaid wrth eu cludo gan Reoliad (EC) Rhif 1/2005 yr UE ar ddiogelu anifeiliaid wrth eu cludo a gweithrediadau cysylltiedig. Dygir hyn yn gyfraith yng Nghymru gan Orchymyn Lles Anifeiliaid (Cludo) (Cymru) 2007. Mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith bod cerbydau a chyfleusterau llwytho/dadlwytho yn cael eu dylunio, eu hadeiladu, eu cynnal a'u defnyddio i:
- osgoi anaf a dioddefaint, ac i sicrhau diogelwch yr anifeiliaid
- diogelu'r anifeiliaid rhag tywydd garw, tymereddau eithafol a newidiadau andwyol mewn amodau hinsawdd
- caniatáu glanhau a diheintio
- atal yr anifeiliaid rhag dianc neu ddisgyn allan a gallu gwrthsefyll straen symudiadau
- darparu rhwystrau i atal anifeiliaid rhag syrthio wrth lwytho neu ddadlwytho
- sicrhau y gellir cynnal ansawdd a maint aer sy'n briodol i'r rhywogaethau a gludir
- darparu mynediad i'r anifeiliaid er mwyn caniatáu iddynt gael eu harolygu a gofalu am
- cyflwyno arwyneb llawr sy'n wrthlithro
- cyflwyno arwyneb llawr sy'n lleihau gollyngiad o droeth neu ysgarthion
- darparu dull o oleuo sy'n ddigonol ar gyfer archwilio a gofalu am yr anifeiliaid wrth eu cludo ac wrth lwytho/dadlwytho
Rhaid darparu digon o le y tu mewn i adran yr anifeiliaid ac ar bob lefel; mae hyn er mwyn sicrhau bod digon o awyr iach uwchben yr anifeiliaid pan fyddant mewn safle sy'n sefyll yn naturiol, ac heb, ar unrhyw gyfrif, rhwystro eu symudiad naturiol.
Rhaid darparu digon o awyriad i sicrhau bod anghenion yr anifeiliaid yn cael eu diwallu'n llawn.
Rhaid defnyddio rhaniadau lle bo angen i roi cymorth, neu i atal anifeiliaid rhag symud yn ormodol wrth eu cludo, a phan fyddant yn cael eu defnyddio rhaid eu lleoli i atal anaf neu ddioddefaint diangen. Dylai rhaniadau fod o adeiladwaith caeth ac yn ddigon cryf i wrthsefyll pwysau'r anifeiliaid sy'n cael eu cludo. Dylent hefyd gael eu hadeiladu a'u lleoli fel nad ydynt yn amharu ar y system awyru a bod gosodiadau wedi'u cynllunio i'w rhedeg yn gyflym ac yn ddidrafferth.
Rhaid i gerbydau a ddefnyddir i gludo da byw fod wedi'u marcio'n glir ac yn weladwy gydag arwyddion yn dangos presenoldeb anifeiliaid byw.
Rhaid i gerbydau gario offer addas ar gyfer llwytho a dadlwytho.
Ni ddylai rampiau fod yn fwy serth nag ongl o 20 gradd (36.4% i'r llorweddol) ar gyfer moch, lloi a cheffylau; ac ongl o 26 gradd 34 munud (50% i'r llorweddol) ar gyfer defaid a gwartheg heblaw lloi.
Os yw'r llethr yn fwy serth na 10 gradd (17.6% i'r llorweddol) rhaid i'r rampiau fod wedi eu ffitio â system, megis estyll traed, sy'n sicrhau bod yr anifeiliaid yn dringo neu'n mynd i lawr heb risgiau neu anawsterau.
Mae'n rhaid i lwyfannau codi a lloriau uwch fod â rhwystrau diogelwch er mwyn atal anifeiliaid rhag disgyn neu ddianc yn ystod y gwaith llwytho a dadlwytho.
Rhaid gwneud darpariaeth addas fel y gall anifeiliaid gael eu clymu i'r tu mewn i'r cerbyd wrth eu cludo; Fodd bynnag, ni ddylid clymu anifeiliaid wrth y cyrn, gwrthwyr, coesau na chylchoedd trwyn. Rhaid i rhaffau neu ymlyniadau eraill fod yn ddigon cryf i beidio â thorri ac wedi'u cynllunio i ddileu'r perygl o dagu neu anafu; rhaid iddynt hefyd fod yn ddigon hir i adael i'r anifail orwedd a bwyta ac yfed, os oes angen. Dylai'r ffitiadau gael eu rhyddhau'n gyflym.
Mae gofynion ychwanegol yn berthnasol i gerbydau sy'n cludo da byw am dros wyth awr. Mae'n rhaid i gerbydau o'r fath hefyd gael eu harchwilio a'u cymeradwyo gan gorff a gymeradwyir gan yr awdurdod cymwys (mae rhestr o gyrff ardystio ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru).
At hynny, mae gofynion adeiladu hefyd yn berthnasol i gludo anifeiliaid yn yr awyr, ar y môr ac ar drenau. Mae rhagor o wybodaeth am les wrth gludiant mewn perthynas â'r gofynion hyn ar gael ar wefan gov.uk.
Cosbau
Gall methu â chydymffurfio â chyfraith safonau masnach arwain at gamau gorfodi ac at gosbau, a allai gynnwys dirwy a/neu garchar. I gael rhagor o wybodaeth gweler 'Safonau masnach: pwerau, gorfodi a chosbau'.
Deddfwriaeth allweddol
Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981
Rheoliad yr UE (EC) Rhif 1/2005 ar ddiogelu anifeiliaid wrth eu cludo a gweithrediadau cysylltiedig
Gorchymyn Lles Anifeiliaid (Cludo) (Cymru) 2007
Adolygwyd/Diweddarwyd diwethaf: Hydref 2020
Noder
Bwriedir y wybodaeth hon fel canllaw yn unig; dim ond y llysoedd all roi dehongliad awdurdodol o'r gyfraith.
Efallai na fydd dolenni 'deddfwriaeth allweddol' y canllaw ond yn dangos fersiwn wreiddiol y ddeddfwriaeth, er bod dolenni ar wahân i rywfaint o ddeddfwriaeth ddiwygiedig sy'n uniongyrchol gysylltiedig chynnwys y canllawiau. Gellir dod o hyd i wybodaeth ar ddiwygiadau i ddeddfwriaeth y ar y tab 'Mwy o Adnoddau' ym mhob dolen.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â'r gwasanaeth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth, sy'n darparu cyngor cyfrinachol a diduedd ar faterion defnyddwyr yn rhad ac am ddim. Ewch i wefan Cyngor ar Bopeth neu ffoniwch linell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 03454 040505.
© 2021 itsa Ltd.