Clinigau ffrwythlondeb IVF

Rhaid i glinigau sy'n cynnig triniaeth ffrwythlondeb gadw at gyfraith defnyddwyr
Mae'r canllawiau hyn ar gyfer Cymru, Lloegr a'r Alban
Cododd yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA) bryderon yn 2020 am ymarferion rai clinigau ffrwythlondeb, megis darparu gwybodaeth aneglur am brisiau a hysbysebu cyfraddau llwyddiant camarweiniol. Nododd hefyd ddiffyg ymwybyddiaeth gyffredinol bod cyfraith defnyddwyr yn berthnasol i'r sector.
Canllawiau'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd
Mae'r CMA - gan weithio'n agos gyda rheoleiddiwr y sector, yr Awdurdod Ffrwythloni Dynol ac Embryoleg (HFEA) - bellach wedi cyhoeddi Canllawiau ar gyfer Clinigau Ffrwythlondeb ar Gyfraith Defnyddwyr: Helpu Clinigau Ffrwythlondeb i Gydymffurfio â'u Rhwymedigaethau Cyfraith Defnyddwyr. Mae'n nodi barn y CMA ar sut mae cyfraith defnyddwyr yn berthnasol i glinigau yn y sector ffrwythlondeb.
Mae'n rhaid i glinigau:
- darparu'r wybodaeth sydd ei hangen ar gleifion fel y gallant wneud cymhariaeth wirioneddol o glinigau, gan gynnwys ar gyfraddau prisiau a llwyddiant
- sicrhau nad ydynt yn camarwain cleifion - er enghraifft, ynghylch effeithiolrwydd eu triniaethau a'r hyn y byddant yn ei dalu
- sicrhau nad ydynt yn cam-werthu triniaethau, fel triniaethau 'ychwanegol'; mae'r rhain yn bethau ychwanegol dewisol a gynigir gan rai clinigau a all gostio hyd at £2,500 y cylchred
- sicrhau bod termau ac arferion yn deg
Adolygiad cydymffurfio
Yn dilyn cyhoeddi'r canllawiau uchod, cynhaliodd y CMA adolygiad i asesu cydymffurfiaeth clinigau ffrwythlondeb â'r gyfraith. Ym mis Medi 2022, cyhoeddodd ganfyddiadau'r adolygiad cydymffurfio.
Safonau masnach
I gael rhagor o wybodaeth am waith gwasanaethau safonau masnach - a chanlyniadau posibl peidio â cadw at y gyfraith - gweler 'Safonau masnach: pwerau, gorfodaeth a chosbau'.
Yn y diweddariad hwn
Ychwanegwyd ddolen at ganfyddiadau adolygiad cydymffurfio'r CMA.
Adologwyd / diweddarwyd ddiwethaf: Medi 2022
Deddfwriaeth Allweddol
Rheoliadau Diogelu Defnyddwyr rhag Masnachu Annheg 2008
Rheoliadau Contractau Defnyddwyr (Gwybodaeth, Canslo a Thaliadau Ychwanegol) 2013
Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015
Noder
Bwriedir y wybodaeth hon fel canllaw yn unig; dim ond y llysoedd all roi dehongliad awdurdodol o'r gyfraith.
Efallai na fydd dolenni 'deddfwriaeth allweddol' y canllaw ond yn dangos fersiwn wreiddiol y ddeddfwriaeth, er bod dolenni ar wahân i rywfaint o ddeddfwriaeth ddiwygiedig sy'n uniongyrchol gysylltiedig chynnwys y canllawiau. Gellir dod o hyd i wybodaeth ar ddiwygiadau i ddeddfwriaeth y ar y tab 'Mwy o Adnoddau' ym mhob dolen.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â'r gwasanaeth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth, sy'n darparu cyngor cyfrinachol a diduedd ar faterion defnyddwyr yn rhad ac am ddim. Ewch i wefan Cyngor ar Bopeth neu ffoniwch linell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 03454 040505.
© 2022 itsa Ltd.