Llusernau awyr
Yn y canllawiau
Cyhoeddodd CTSI gôd ymarfer diwydiant yn ymwneud â llusernau awyr
Mae'r canllawiau hyn ar gyfer Lloegr, yr Alban a Chymru
Er nad oes deddfwriaeth i reoleiddio'r llusernau awyr yn benodol, mae'n rhaid iddynt gydymffurfio â'r Rheoliadau Diogelwch Cynnyrch Cyffredinol 2005. Mae yna nifer o bryderon am eu diogelwch a'u heffaith ac yn 2014 cynhyrchwyd côd ymarfer o ganlyniad i drafodaethau rhwng y Llywodraeth a'r diwydiant.
Fe'i cynhyrchwyd gan y diwydiant a'i gymeradwyo gan y Sefydliad Safonau Masnach Siartredig (CTSI).
Côd ymarfer
Côd ymarfer y diwydiant: llusernau awyr yw canllawiau ar arferion da ar gyfer y rheini sy'n dylunio, cynhyrchu, dosbarthu, manwerthu neu'n defnyddio llusernau awyr.
Os ydych yn cynhyrchu llusernau awyr, gall cydymffurfio â'r côd ymarfer helpu i fodloni gofynion y Rheoliadau Diogelwch Cynhyrchion Cyffredinol 2005.
DEDDFWRIAETH ALLWEDDOL
Rheoliadau Diogelwch Cynnyrch Cyffredinol 2005
Adolygwyd/Diweddarwyd ddiwethaf: Tachwedd 2019
Noder
Bwriedir y wybodaeth hon fel canllaw yn unig; dim ond y llysoedd all roi dehongliad awdurdodol o'r gyfraith.
Efallai na fydd dolenni 'deddfwriaeth allweddol' y canllaw ond yn dangos fersiwn wreiddiol y ddeddfwriaeth, er bod dolenni ar wahân i rywfaint o ddeddfwriaeth ddiwygiedig sy'n uniongyrchol gysylltiedig chynnwys y canllawiau. Gellir dod o hyd i wybodaeth ar ddiwygiadau i ddeddfwriaeth y ar y tab 'Mwy o Adnoddau' ym mhob dolen.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â'r gwasanaeth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth, sy'n darparu cyngor cyfrinachol a diduedd ar faterion defnyddwyr yn rhad ac am ddim. Ewch i wefan Cyngor ar Bopeth neu ffoniwch linell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 03454 040505.
© 2021 itsa Ltd.