Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Canllawiau safonau masnach


Nwyddau anniogel - atebolrwydd

Yn y canllawiau

Canllaw ynghylch canlyniadau cyflenwi nwyddau anniogel, a phwy sy'n atebol am y niwed a achosir gan y diffyg

Mae'r canllawiau hyn ar gyfer Cymru, Lloegr a'r Alban

Pan werthir nwyddau i ddefnyddwyr, rhaid i'r nwyddau fod yn ddiogel. Os nad yw'r nwyddau'n ddiogel, a'u bod yn achosi marwolaeth, anaf neu ddifrod i eiddo, yna efallai y bydd yn rhaid i'r gwneuthurwr, y manwerthwr a/neu unrhyw un arall yn y gadwyn gyflenwi fodloni cais am iawndal.

Mae'r ddeddfwriaeth yn pennu pwy sy'n atebol am ddifrod a achosir; mae hyn yn cynnwys y cynhyrchydd, unrhyw un sy'n rhoi ei enw neu frand ar y cynnyrch, mewnforwyr ac unrhyw un arall yn y gadwyn gyflenwi na all nodi o ble y daeth y cynnyrch.

Mae Deddf Diogelu Defnyddwyr 1987 yn cwmpasu agweddau sifil a throseddol ar ddiogelwch cynhyrchion. Mae'r canllawiau hyn yn ymdrin ag agweddau sifil o'r Ddeddf yn unig (mewn geiriau eraill, y posibilrwydd o hawliad am iawndal), a gelwir yr agweddau hyn yn ' atebolrwydd cynnyrch ' yn gyffredinol. Mae gwybodaeth am agweddau troseddol y Ddeddf a manylion y rheoliadau niferus sy'n ymwneud yn benodol â chynnyrch ar gael o'ch gwasanaeth safonau masnach lleol.

Yn ogystal â hawliadau o dan y Ddeddf, gall fod yn bosibl i ddefnyddwyr wneud hawliadau am dorri contract neu esgeulustod pan fydd cynnyrch yn anniogel.

Atebolrwydd cynnyrch: beth mae'n ei olygu?

Mae darpariaethau atebolrwydd cynnyrch Deddf Diogelu Defnyddwyr 1987 yn creu atebolrwydd caeth am ddifrod a achosir gan gynhyrchion diffygiol. Diffinnir difrod fel marwolaeth neu anaf personol, neu unrhyw golled neu ddifrod i unrhyw eiddo, gan gynnwys tir.

A oes unrhyw eithriadau?

Mae'r gyfraith yn cwmpasu unrhyw nwyddau, gan gynnwys cydrannau a deunyddiau crai.

Dim ond i hawlio iawndal mewn perthynas â cholli neu ddifrodi eiddo lle mae'r swm a hawlir yn isafswm o £275 y gellir defnyddio Deddf Diogelu Defnyddwyr 1987. Nid yw'r isafswm hwn yn berthnasol i geisiadau am farwolaeth neu anaf personol.

Mae atebolrwydd o dan y Ddeddf yn ymestyn yn unig i ddifrod a achoswyd gan y cynnyrch ac nid i gost adnewyddu neu atgyweirio'r cynnyrch ei hun.

Beth am gydrannau?

Os ydych yn cynhyrchu nwyddau gorffenedig, mae'n bwysig eich bod yn gallu nodi pwy a gyflenwodd y cydrannau i chi. Os yw'r cynnyrch gorffenedig yn ddiffygiol, mae hawliad yn codi ac mae'r nam yn cael ei olrhain i elfen benodol, bydd angen y wybodaeth yma i alluogi hawliad yn erbyn cyflenwr neu gynhyrchydd y gydran.

Byddai'n ddoeth hefyd i gyflenwr cydrannau gynnwys rhyw ddull o adnabod yn y cynnyrch, er mwyn osgoi cael bod yn atebol am gydran a wnaed gan gwmni arall.

Pwy sy'n atebol?

Mae'r Ddeddf yn pennu pwy sy'n atebol am ddifrod a achosir, yn gyfan gwbl neu'n rhannol, gan ddiffyg mewn cynnyrch. Mae'r rhain fel a ganlyn:

  • y ' cynhyrchydd ' (gwneuthurwr, abstractwr, ac ati yn achos deunyddiau crai) neu brosesydd
  • unrhyw berson sydd yn rhoi ei enw neu ei farc ar y cynnyrch-er enghraifft, gallai archfarchnad fod yn atebol am ddifrod a achoswyd gan ei chynhyrchion ' brand ei hunain ', er i'r cynnyrch gael ei wneud gan rywun arall ar ei ran
  • mewnforwyr
  • gellir dal unrhyw un arall yn y gadwyn gyflenwi yn gyfrifol am ddifrod os na allant nodi o ble y daeth y cynnyrch

Os bydd dwy neu ragor o bartïon yn atebol am yr un niwed, bydd eu hatebolrwydd yn cyd-redeg ac yn cynnwys sawl un (sy'n golygu y gellid gwneud cais yn erbyn naill ai un neu y ddau ohonynt).

Pwy sy'n gallu gwneud hawliad?

Gall unrhyw un sy'n dioddef niwed a achosir gan gynnyrch diffygiol wneud hawliad o dan y Ddeddf hyd yn oed os nad hwy oedd y person a brynodd y cynnyrch yn wreiddiol.

Gellir gwneud cais am ddifrod i eiddo dim ond mewn perthynas ag eiddo personol at ddefnydd preifat.

Beth yw nam?

Mae'r diffiniad o nam yn eang iawn. Mae cynnyrch diffygiol yn un lle nad yw diogelwch y cynnyrch yr hyn y mae gan bersonau hawl i'w ddisgwyl yn gyffredinol.

A oes amddiffyniad?

Mae amddiffynfeydd cyfyngedig ar gael i fusnesau sy'n wynebu hawliad o dan y Ddeddf. Mae'r rhain yn cynnwys yr hyn a elwir yn ' amddiffyn y peryglon datblygu '. Mae hyn yn golygu, pan gafodd y cynnyrch ei roi mewn cylchrediad, fod cyflwr gwybodaeth wyddonol a thechnegol yn gyfryw fel na allai unrhyw gynhyrchydd y cynnyrch, neu un tebyg iddo, fod wedi darganfod bodolaeth y diffyg.

Beth ddylwn i fod yn ei wneud?

Gwnewch yn siwr bod cyfarwyddiadau a rhybuddion ar gyfer defnyddio'r cynnyrch yn ddiogel.

Os yw'r Ddeddf yn berthnasol i'ch busnes, efallai y bydd angen i chi wirio eich trefniadau cytundebol gyda chyflenwyr a chwsmeriaid, ac efallai y bydd angen adolygu eich systemau rheoli ansawdd a chadw cofnodion. At hynny, dylech ymchwilio i bosibiliadau yswiriant ar gyfer rhwymedigaethau sy'n codi o dan y Ddeddf.

Ceisiadau am dorri contract

Pan fyddwch yn gwerthu nwyddau mae'n ofyniad cytundebol bod y nwyddau o ansawdd boddhaol ac yn ddiogel. Os nad yw'r nwyddau'n ddiogel, gall y person a'u prynodd hawlio iawndal am unrhyw ddifrod a achosir gan y nwyddau.

Yn wahanol i geisiadau o dan Ddeddf Diogelu Defnyddwyr 1987 gall y prynwr hefyd hawlio iawndal am gost trwsio neu adnewyddu'r nwyddau. Nid oes isafswm ar gyfer hawlio am dorri'r contract.

Fel arfer, dim ond y prynwr fydd yn gallu gwneud cais am dor-contract a dim ond yn erbyn y cyflenwr uniongyrchol y gellir hawlio (a fydd wedyn yn gallu hawlio yn erbyn ei gyflenwr ac yn y blaen drwy gydol y gadwyn gyflenwi). Os rydych yn cynnig warant ac y bydd y nwyddau'n ddiffygiol rhaid ichi anrhydeddu'r warant honno p'un a roesoch y nwyddau'n uniongyrchol i'r defnyddiwr terfynol eich hun. Dim ond am ddifrod y maent wedi'i ddioddef yn bersonol y gall y prynwr wneud cais.

Mae rhai amgylchiadau cyfyngedig lle gall person arall (fel derbynnydd anrheg) hefyd wneud hawliad tebyg.

Gweler ' Y gwerthiant a chyflenwad o nwyddau: eich hawliau defnyddiwr ' i gael rhagor o wybodaeth.

Hawliadau esgeuluster

Os yw person yn dioddef niwed a achosir gan gynnyrch diffygiol, mae'n bosibl y gall wneud cais am esgeulustod hefyd. Gellir gwneud y cais hwn am iawndal yn erbyn unrhyw un yn y gadwyn gyflenwi sydd wedi torri dyletswydd gofal tuag at y sawl sy'n dioddef niwed.

Ceisiadau cymysg

Yn aml bydd hawlwyr yn gwneud hawliadau amgen o dan y Ddeddf a chyfraith esgeuluster, yn ogystal â hawliad cytundebol, lle bo'n briodol. Mae'n bosibl hefyd y gellid gwneud gorchymyn iawndal pan gymerir achos troseddol am gyflenwi nwyddau anniogel.

Fodd bynnag, nid oes gan neb hawl i gael iawndal ddwywaith am yr un golled a bydd y llysoedd yn rhoi sylw i'r egwyddor yma pan yn gwneud penderfyniad ynghylch cyfanswm yr iawndal sy'n daladwy.

A allaf i gontractio allan o atebolrwydd?

Ni allwch ddianc rhag atebolrwydd o dan Ddeddf Diogelu Defnyddwyr 1987 gan unrhyw derm contract, hysbysiad neu ddarpariaeth arall.

Os ydych yn gwerthu i fusnes, gallwch gyfyngu eich atebolrwydd am dorri contract, ond dim ond i'r graddau y bo hynny'n rhesymol. Ni allwch gyfyngu eich atebolrwydd i ddefnyddwyr am werthu nwyddau anniogel yn groes i'r contract.

Ni allwch gyfyngu eich atebolrwydd am anaf personol neu farwolaeth a achosir gan eich esgeulustod. Mewn rhai achosion, mae'n bosibl y byddwch yn gallu cyfyngu ar eich atebolrwydd am ddifrod arall a achosir gan eich esgeulustod, ond dim ond i'r graddau y bo hynny'n rhesymol (ac yn aml ddim o gwbl yng nghyswllt y defnyddiwr olaf).

Deddfwriaeth allweddol 

Deddf Diogelu Defnyddwyr 1987

 

Adolygwyd/Diweddarwyd diwethaf: Chwefror 2021

 

Yn y diweddariad hwn

Dim newidiadau mawr

Noder

Bwriedir y wybodaeth hon fel canllaw yn unig; dim ond y llysoedd all roi dehongliad awdurdodol o'r gyfraith.

Efallai na fydd dolenni 'deddfwriaeth allweddol' y canllaw ond yn dangos fersiwn wreiddiol y ddeddfwriaeth, er bod dolenni ar wahân i rywfaint o ddeddfwriaeth ddiwygiedig sy'n uniongyrchol gysylltiedig chynnwys y canllawiau. Gellir dod o hyd i wybodaeth ar ddiwygiadau i ddeddfwriaeth y ar y tab 'Mwy o Adnoddau' ym mhob dolen.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â'r gwasanaeth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth, sy'n darparu cyngor cyfrinachol a diduedd ar faterion defnyddwyr yn rhad ac am ddim. Ewch i wefan Cyngor ar Bopeth neu ffoniwch linell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 03454 040505.

© 2021 itsa Ltd.