Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Canllawiau safonau masnach


Alcohol

Yn y canllawiau

Canllaw i sicrhau na werthir alcohol dan oed, a'r goblygiadau os gwneir gwerthiant

Mae'r canllawiau hyn ar gyfer Cymru a Lloegr

Dylai pawb sy'n gysylltiedig â gwerthiannau o siopau sy'n gwerthu alcohol a rhai trwyddedig fod yn ymwybodol o'u rhwymedigaethau o dan y Ddeddf Trwyddedu 2003 sy'n ymwneud ag atal gwerthu alcohol i blant.

Mae'n hanfodol eich bod yn cadw o fewn y gyfraith a bod gennych systemau ar waith a fydd yn amddiffyniad cyfreithiol i honiad bod alcohol yn cael ei werthu dan oed. Os byddwch yn gwerthu alcohol i unigolyn sydd o dan 18 oed gallech gael eich erlyn a'ch dirwyo, a gallai eich trwydded i werthu alcohol fod mewn perygl.

Atal gwerthu alcohol i blant: Trosolwg

Mae Deddf Trwyddedu 2003 yn nodi cyfres o amcanion y mae'n ofynnol i awdurdod trwyddedu eu hyrwyddo. "Yr amcanion trwyddedu yw:

  • (a) atal trosedd ac anrhefn;   
  • (b) diogelwch y cyhoedd;   
  • (c) atal niwsans cyhoeddus; ac
  • (ch) amddiffyn plant rhag niwed.

Mae'r amcan "amddiffyn plant rhag niwed" yn cynnwys atal gwerthu a chyflenwi alcohol i blant. Mae'r gyfraith yn nodi'r fframwaith sy'n anelu at gyflawni'r amcan hwn.

Dylai deiliad trwydded y fangre, y goruchwylydd mangre dynodedig (y mae'n rhaid iddo fod yn ddeiliad trwydded bersonol), unrhyw ddeiliaid trwydded personol eraill, a staff o fewn mangre sydd wedi'i thrwyddedu a mangre sydd gyda thrwydded, fod yn ymwybodol o'u rhwymedigaethau o dan y Ddeddf Trwyddedu 2003 sy'n ymwneud ag atal gwerthu alcohol i blant.

Cyfrifoldeb deiliad trwydded y safle a'r goruchwylydd safleoedd dynodedig yw cadw o fewn y gyfraith a bod â systemau ar waith a fydd yn gweithredu fel amddiffyniad cyfreithiol i honiad bod alcohol wedi'i werthu i unigolyn o dan yr oedran cyfreithiol gofynnol.

Mae hysbysiad cosb am anhwylder (PND) yn fath o hysbysiad cosb benodedig y gall swyddog yr heddlu, swyddog cymorth cymunedol yr heddlu neu 'berson achrededig' ei roi i berson sy'n gwerthu alcohol i rywun o dan 18 oed. Bwriedir iddo ddarparu dull cyflym ac effeithiol o ddelio â rhai mathau o droseddu-fel dewis arall yn lle erlyn, a gellir ei roi os mai'r person sy'n gwerthu yw'r person y thu ôl i'r bar (neu'r aelod o staff mewn mangre trwyddedig). Y tâl cosb cyfredol yw £90.

Caiff awdurdod cyfrifol, fel yr heddlu neu safonau masnach, ofyn i'r awdurdod trwyddedu adolygu'r drwydded oherwydd problem yn y fangre sy'n gysylltiedig ag unrhyw un o'r pedwar amcan trwyddedu. Gallai'r drwydded gael ei hatal neu ei dirymu. Nid yw'r gorchymyn atal hwn yn effeithio ar weithgareddau trwyddadwy eraill a gweithgareddau nad ydynt yn rhai trwyddadwy.

Y gyfraith

Mae Deddf Trwyddedu 2003 yn nodi'r troseddau, yr amddiffyniadau a'r cosbau sy'n gysylltiedig â gwerthu alcohol dan oed.

GWERTHU ALCOHOL I BLANT

Mae person yn cyflawni trosedd os yw'n gwerthu alcohol i unigolyn o dan 18 oed.

Os ydych yn cael eich cyhuddo o drosedd mae gennych yr amddiffyniad eich bod yn credu bod yr unigolyn yn 18 oed neu drosodd, a'ch bod naill ai wedi cymryd pob cam rhesymol i ddarganfod oedran yr unigolyn neu na allai neb yn rhesymol amau o'i ymddangosiad ei fod dan 18. Ystyr 'camau rhesymol' yw gofyn i'r unigolyn am dystiolaeth o'i oedran, ac y byddai'r dystiolaeth yn argyhoeddi person rhesymol.

Os ydych yn cael eich cyhuddo o drosedd oherwydd ymddygiad rhywun arall - aelod o'r staff, er enghraifft - mae gennych yr amddiffyniad eich bod yn arfer pob diwydrwydd dyladwy i osgoi cyflawni'r trosedd. (Mae'r adran 'Cadw o fewn y gyfraith' isod yn esbonio beth mae hyn yn ei olygu.)

CANIATÁU GWERTHU ALCOHOL I BLANT

Mae person sy'n gweithio mewn mangre sydd mewn safle sy'n ei awdurdodi i atal alcohol rhag cael ei werthu i unigolyn o dan 18 oed yn cyflawni trosedd os yw'n caniatáu i alcohol gael ei werthu'n fwriadol.

GWERTHU ALCOHOL I BLANT YN GYSON

Mae''n drosedd i 'berson cyfrifol' (deiliad trwydded y fangre) werthu alcohol yn anghyfreithlon i unigolyn o dan 18 oed yn yr un fangre ar ddau neu fwy o achlysuron gwahanol o fewn cyfnod o dri mis yn olynol.

Diffinnir 'gwerthiant anghyfreithlon' fel lle mae'r person sy'n gwneud y gwerthiant yn credu bod yr unigolyn o dan 18 oed neu nad oedd gan y person sail resymol dros gredu bod yr unigolyn yn 18 oed neu drosodd. Mae 'sail resymol' yn golygu gofyn i'r unigolyn am dystiolaeth o'i oedran ac y byddai'r dystiolaeth hon, ar ôl ei ddarparu, yn argyhoeddi person rhesymol, neu na fyddai neb yn amau'n rhesymol o ymddangosiad yr unigolyn ei fod o dan 18 oed.

Gall corff gorfodi, fel yr heddlu neu safonau masnach, wneud cais am hysbysiad cau – sy'n gwahardd gwerthu alcohol yn y safle - fel dewis arall yn lle erlyn; gall hyd yr hysbysiad hwn amrywio o 48 i 336 o oriau. Pan fo deiliad trwydded mangre yn cael ei gollfarnu o dramgwydd o werthu alcohol yn barhaus i blant, caiff y llys atal y drwydded sy'n awdurdodi gwerthu alcohol yn y fangre honno am gyfnod o hyd at dri mis.

GWAHARDD GWERTHU HEB ORUCHWYLIAETH GAN BLANT

Mae deiliad trwydded y fangre, goruchwylydd dynodedig y safle, neu berson cyfrifol arall 18 oed neu drosodd, yn cyflawni trosedd os yw'n caniatáu i unigolyn o dan 18 gael gwerthu neu gyflenwi alcohol oni bai bod y gwerthiant wedi'i gymeradwyo'n benodol a bod y person yn cael ei oruchwylio. Mae eithriadau os yw alcohol yn cael ei werthu neu ei gyflenwi i'w fwyta gyda phryd bwrdd. Mae angen i chi wirio oedrannau eich staff a sicrhau eich bod yn cydymffurfio â'r gyfraith.

Digwyddiadau dros dro

Os ydych chi am drefnu digwyddiad dros dro lle bydd 'gweithgaredd trwyddedig' - fel gwerthu alcohol - yn digwydd mewn adeilad didrwydded, rhaid i chi wneud cais i'ch cyngor lleol am rybudd digwyddiad dros dro. Rhaid arddangos copi o'r rhybudd yn glir yn y digwyddiad. Mae yna gyfyngiadau a gofynion y mae'n rhaid i chi fod yn ymwybodol ohonynt cyn i chi wneud eich cais; cysylltwch â'ch cyngor am ragor o wybodaeth.

Mae troseddau o dan Ddeddf Trwyddedu 2003, gan gynnwys y rhai sy'n ymwneud â chyfyngiadau oedran, hefyd yn berthnasol i ddigwyddiadau dros dro.

Gwerthiant alcohol drwy procsi

Mae 'gwerthiant procsi' yn derm a ddefnyddir i ddisgrifio prynu alcohol ar ran plant.

Mae person yn cyflawni trosedd os yw'n prynu neu'n ceisio prynu alcohol ar ran rhywun sydd o dan 18 oed. Mae'n drosedd hefyd i berson brynu neu geisio prynu alcohol i rywun o dan 18 oed i'w yfed ar safle trwyddedig. Fodd bynnag, mae'n gyfreithlon i rywun sy'n 18 oed neu'n hyn brynu cwrw, gwin neu seidr ar gyfer rhywun 16 neu 17 oed i'w yfed gyda phryd bwrdd ar safleoedd trwyddedig, cyn belled â bod y person ifanc yn cael ei hebrwng ar y pryd gan berson 18 oed neu drosodd.

Er mai'r person sy'n prynu neu'n ceisio prynu alcohol ar gyfer plentyn sy'n cyflawni'r drosedd, mae gennych ddyletswydd o dan yr amcan trwyddedu "amddiffyn plant rhag niwed" i atal gwerthiannau o'r fath rhag digwydd.

Cadw o fewn y gyfraith

Er mwyn cadw o fewn y gyfraith ac felly bodloni'r amddiffyniadau cyfreithiol, mae'n rhaid i chi gyflwyno polisi dilysu oedran a chael systemau effeithiol i atal gwerthiannau i bobl o dan yr oedran cyfreithiol gofynnol. Dylai'r systemau hyn gael eu monitro a'u diweddaru'n rheolaidd fel bo'r angen i nodi a rhoi unrhyw broblemau neu wendidau ar waith, neu i gadw i fyny ag unrhyw ddatblygiadau mewn technoleg.

Mae nodweddion arfer gorau allweddol system effeithiol yn cynnwys y canlynol.

GWIRIADAU DILYSU OEDRAN

Cyflwynodd Gorchymyn Deddf Trwyddedu 2003 (Amodau Trwyddedu Gorfodol) 2010 amodau sy'n gymwys i bob mangre drwyddedig. Un o'r rhain yw os yw eich safle yn gwerthu neu'n cyflenwi alcohol, mae'n rhaid i chi gael polisi gwirio oedran.

Gofynnwch i bobl ifanc gynhyrchu prawf o'u hoed bob amser. Mae'r Sefydliad Safonau Masnach Siartredig, y Swyddfa Gartref a Chyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu yn cefnogi Cynllun Safonau Prawf Oedran Cenedlaethol y DU (PASS), sy'n cynnwys nifer o ddarparwyr cardiau. Gallwch fod yn hyderus bod cerdyn sy'n cael ei gyhoeddi o dan y cynllun ac sy'n dwyn yr hologram PASS yn brawf derbyniol o oedran.

Gellir hefyd dderbyn pasport neu drwydded yrru cerdyn-llun, ond gwnewch yn siwr bod y cerdyn yn cyfateb i'r person sy'n ei ddefnyddio a bod y dyddiad geni yn dangos eu bod o leiaf yr oedran cyfreithiol isaf. Gellir defnyddio cardiau adnabod milwrol fel prawf oedran ond, fel gyda mathau eraill o adnabod, gwnewch yn siwr fod y llun yn cyfateb i'r person sy'n cyflwyno'r cerdyn a'i fod yn gwirio'r dyddiad geni. Dylech fod yn ymwybodol y gall cardiau adnabod milwrol gael eu dal gan bobl 16 ac 17 oed sy'n rhan o'r gwasanaethau.

Nid oes rhaid i chi dderbyn pob un o'r ffurfiau uchod o adnabod ac efallai mai'r peth gorau fyddai eithrio unrhyw fath o ddogfen nad yw eich staff yn gyfarwydd â hi.

Efallai y bydd rhai pobl ifanc yn cyflwyno cardiau adnabod ffug felly mae'n ddoeth i wirio golwg a theimlad cerdyn hefyd. Er enghraifft, dylai'r hologram PASS fod yn rhan annatod o gerdyn PASS ac nid yn ychwanegyn.

Os na all yr unigolyn brofi ei fod o leiaf yr oedran cyfreithiol isaf - neu os oes gennych unrhyw amheuaeth-dylid gwrthod y gwerthiant.

Gweler Canllawiau Huniaethiad ffug y Swyddfa Gartref i gael rhagor o wybodaeth.

GWEITHREDU HER 21 NEU POLISI HER 25

Mae hyn yn golygu, os yw'r person yn ymddangos i fod o dan 21 neu 25 oed, y bydd gofyn iddynt gadarnhau eu bod o leiaf yr oedran cyfreithiol lleiaf drwy ddangos prawf oedran dilys. Gallwch ymgorffori hyn yn eich polisi dilysu oedran.

HYFFORDDI STAFF

Sicrhewch fod eich staff wedi'u hyfforddi'n briodol. Dylen nhw wybod pa gynhyrchion sydd wedi'u cyfyngu i oedran, beth yw'r cyfyngiad oedran a'r camau y mae'n rhaid iddyn nhw eu cymryd os ydyn nhw'n credu bod rhywun dan oed yn ceisio prynu. Mae'n bwysig eich bod yn gallu profi bod eich staff wedi deall yr hyn sy'n ofynnol ganddynt o dan y ddeddfwriaeth. Gellir gwneud hyn drwy gadw cofnod o'r hyfforddiant a gofyn i'r aelod o staff lofnodi i ddweud ei fod wedi ei ddeall. Yna, dylid gwirio'r cofnodion hyn a'u llofnodi'n rheolaidd gan y rheolwyr neu'r perchennog. Dylid dweud wrth aelodau o staff y gallent hwy eu hunain fod yn bersonol gyfrifol os ydynt yn gwerthu i bobl ifanc yn groes i'r gofynion cyfreithiol.

CADW COFNOD GWRTHOD

Dylid cofnodi pob gwrthodiad (dyddiad, amser, digwyddiad, disgrifiad o ddarpar brynwr). Bydd cadw log gwrthod yn helpu i ddangos eich bod yn mynd ati i wrthod gwerthu a bod â system effeithiol ar waith. Dylai'r cofnodion gael eu harchwilio gan y rheolwr / perchennog i sicrhau bod pob aelod o staff yn eu defnyddio.

Amgaeir cofnod gwrthod enghreifftiol .

Mae gan rai tiliau system gwrthod wedi'i hadeiladu i mewn iddynt. Os ydych yn defnyddio system sy'n seiliedig ar y til, dylech sicrhau bod modd adalw'ch gwrthodiad yn ddiweddarach. Dylech hefyd fod yn ymwybodol bod rhai gwrthodiadau'n cael eu gwneud cyn sganio'r cynnyrch.

CYNLLUN Y SIOP A'R CYNNYRCH

Dylai safleoedd trwyddedig ystyried cynllun eu siop a lleoli'r alcohol mewn man lle gellir ei fonitro'n hawdd, megis yn nes at y cownter neu hyd yn oed y tu ôl iddo.

YSGOGIADAU TIL

Os ydych yn meddu ar system EPoS yna efallai y bydd yn bosibl ei defnyddio i atgoffa staff o gyfyngiadau oedran drwy gyfrwng prydlon.

ARWYDDION

Arddangoswch posteri yn dangos terfynau oedran a datganiad ynghylch gwrthod gwerthiannau o'r fath. Gall hyn atal darpar brynwyr a gweithredu i atgoffa staff.

TELEDU CYLCH CYFYNG (CCTV)

Gall system teledu cylch cyfyng weithredu fel dull o atal a lleihau nifer yr achosion o werthu i rai dan oed. Bydd hefyd yn eich helpu i fonitro 'mannau dall' yn eich siop os nad yw'n bosibl newid y cynllun neu adleoli'r cynhyrchion y tu ôl i'r cownter, neu'n agosach ato.

Byddwch yn wyliadwrus. Byddwch yn ymwybodol o unrhyw bobl ifanc y tu allan i'ch safle neu gerllaw a allai geisio prynu alcohol eu hunain neu a allai geisio perswadio person hyn i'w brynu ar ei ran.

Gwerthiannau ar-lein

Os ydych chi'n gwerthu trwy bellter, fel ar-lein neu drwy gatalog, dylech sefydlu system effeithiol sy'n gallu gwirio oedran darpar brynwyr. Gweler 'Gwerthiannau ar-lein o gynhyrchion â chyfyngiadau oedran' i gael mwy o wybodaeth

Gwybodaeth bellach

Mae canllawiau manwl wedi'u llunio gan y Swyddfa Gartref o dan adran 182 o Ddeddf Trwyddedu 2003.

Am arweiniad ar labelu a chyfansoddiad alcohol, gan gynnwys cynhyrchion alcohol isel, gweler 'Diodydd alcoholig, gwirodydd a bwyd'; ac ar gyfer mesur gofynion, stampiau ar sbectol, ac ati gweler 'Gwerthu alcohol mewn adeilad trwyddedig'.

Cosbau

Gall methu â chydymffurfio â'r gyfraith trwyddedu arwain at gamau gorfodi a chosbau a all gynnwys dirwy a/neu garchar. I gael rhagor o wybodaeth, gweler 'Safonau masnach: pwerau, gorfodi & chosbau'.

Deddfwriaeth allweddol

Deddf Trwyddedu 2003

Gorchymyn Deddf Trwyddedu 2003 (Amodau Trwyddedu Gorfodol) 2010

 

Adolygwyd/Diweddarwyd ddiwethaf: Rhagfyr 2020

Noder

Bwriedir y wybodaeth hon fel canllaw yn unig; dim ond y llysoedd all roi dehongliad awdurdodol o'r gyfraith.

Efallai na fydd dolenni 'deddfwriaeth allweddol' y canllaw ond yn dangos fersiwn wreiddiol y ddeddfwriaeth, er bod dolenni ar wahân i rywfaint o ddeddfwriaeth ddiwygiedig sy'n uniongyrchol gysylltiedig chynnwys y canllawiau. Gellir dod o hyd i wybodaeth ar ddiwygiadau i ddeddfwriaeth y ar y tab 'Mwy o Adnoddau' ym mhob dolen.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â'r gwasanaeth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth, sy'n darparu cyngor cyfrinachol a diduedd ar faterion defnyddwyr yn rhad ac am ddim. Ewch i wefan Cyngor ar Bopeth neu ffoniwch linell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 03454 040505.

© 2021 itsa Ltd.