Bydd y gwasanaeth cefnogi cynnar yn darparu i deuluoedd y plant o enedigaeth hyd at bum mlwydd oed sydd ag anableddau difrifol a / neu gymhleth gyda chefnogaeth gyfannol i fynd i’r afael â phob agwedd o fywyd bob dydd.
Bydd gweithiwr allweddol yn cael ei ddyrannu i’r teulu. Bydd y gweithiwr allweddol yn helpu’r teulu i nodi eu cryfderau a’u gwendidau, blaenoriaethau a nodau yn y tymor byr a hirdymor.
Sefydlir ffeil deulu i gofnodi eu cynnydd a dathlu cerrig milltir o ddatblygiad y plentyn a siwrnai y teulu.
Bydd y gweithiwr allweddol yn cydlynu mewnbwn iechyd, gofal cymdeithasol a gwasanaethau addysg, gan sicrhau bod y plentyn a llais y teulu wrth wraidd unrhyw benderfyniadau sy’n effeithio arnynt, a bod y gwasanaeth yn gweithio ar y cyd i lunio cynllun sengl ar gyfer y plentyn, cynllun datblygu unigol.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â thîm Teulu Môn. Mae manylion cyswllt ar y dudalen hon.
Canllawiau egwyddorion ar gyfer cefnogaeth cynnar
- Lle bynnag y bo’n bosibl, mae plant, pobl ifanc a’u teuluoedd yn gallu byw ‘bywydau cyffredin’.
- Mae natur unigryw y plant, pobl ifanc a theuluoedd yn cael ei werthfawrogi a darperir ar ei gyfer.
- Mae proses asesu, cynllunio ac adolygu amlasiantaethol unigol yn cael ei darparu a’i chyflwyno mewn partneriaeth gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd.
- Mae darpariaeth gwasanaethau yn gyfannol, cydgysylltiedig a di-dor.
- Mae parhad gofal yn cael ei gynnal drwy gyfnodau gwahanol o fywyd plentyn a thrwy eu paratoi ar gyfer bod yn oedolyn.
- Mae dysgu a datblygiad plant a phobl ifanc yn cael eu monitro a’u hyrwyddo.
- Mae plant, pobl ifanc a theuluoedd yn gallu gwneud dewisiadau gwybodus.
- Mae plant, pobl ifanc a theuluoedd yn ymwneud â ffurfio, datblygu a gwerthuso’r gwasanaethau maent yn eu defnyddio.
- Mae arferion gwaith a systemau amlasiantaethol yn cael eu hintegreiddio.
- Gall plant, pobl ifanc a theuluoedd fod yn hyderus bod y bobl sy’n gweithio gyda nhw wedi cael hyfforddiant, sgiliau, gwybodaeth a phrofiad priodol.