Mae mabwysiadu plentyn yn golygu dod yn deulu iddo am oes.
Mae'r broses yn cynnwys:
- cyfnod o hyfforddiant ac asesu cyn cael eich cymeradwyo
- adnabod anghenion y plentyn, a chanfod teulu sy'n cwrdd â'r anghenion hynny
- cyfnod o gyflwyno a symud i mewn
- cymeradwyo'r mabwysiadu gan y llys - dod yn rhieni cyfreithiol y plentyn.
Gall y broses o gael cymeradwyaeth ac aros fod yn hir. Mae'r gwasanaeth wedi helpu llawer o fabwysiadwyr a phlant lleol i gael bywyd newydd gyda'i gilydd fel teulu.
Gwasanaeth mabwysiadu Gogledd Cymru
Mae Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru'n wasanaeth sy'n cyfuno timau mabwysiadu yn Ynys Môn, Gwynedd, Wrecsam, Sir y Fflint, Sir Ddinbych a Conwy. Rydym yn gweithio gyda'n gilydd i ganfod teuluoedd lleol ar gyfer plant yng ngogledd Cymru.
Cysylltu â Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru os oes gennych ddiddordeb mewn mabwysiadu, angen cefnogaeth ychwanegol neu os ydych eisiau gofyn unrhyw gwestiynau.
Ewch i'r wefan Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru