Cyngor Sir Ynys Môn

Cynnig Gofal Plant Cymru ar gyfer plant 3 a 4 oed


Gall rhieni a gwarcheidwaid wneud cais am hyd at 30 awr yr wythnos o gyfuniad o addysg feithrin a gofal plant.

Gall gofalwyr maeth a gofalwyr sy’n berthnasau (perthynas neu ffrind nad yw’n rhiant plentyn) wneud cais hefyd.

Mae 30 awr yr wythnos yn cynnwys:

  • o leiaf 10 awr o addysg feithrin
  • hyd at 20 awr o ofal plant

Gwneud cais

Bydd angen i bob rhiant a hoffai gael gofal plant a ariennir gan Gynnig Gofal Plant Cymru wneud cais trwy’r gwasanaeth digidol cenedlaethol.

Gwnewch gais am y Cynnig Gofal Plant Cymru

Llinell gymorth

Os hoffech siarad â rhywun am eich cais gallwch ffonio’r llinell gymorth genedlaethol ar 03000 628 628

Gwarchodwyr plant ym Môn

Am restr o warchodwyr plant ar Ynys Môn, e-bostiwch gofalplantachwaraemon@ynysmon.llwy.cymru