Cymru yw'r wlad gyntaf yn y byd i ddiogelu hawl plant i chwarae yn y gyfraith.
Mae'n rhaid i bob awdurdod lleol yng Nghymru gwblhau Asesiad Digonolrwydd Chwarae (PSA) bob tair blynedd. Cyflwynwyd y PSAs cyntaf i Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2013. Rhaid i awdurdodau lleol hefyd ddatblygu Cynlluniau Gweithredu Chwarae a'u cyflwyno i Lywodraeth Cymru bob blwyddyn, ynghyd ag adroddiadau cynnydd.
Asesiadau digonolrwydd chwarae
Mae’r asesiad o ddigonolrwydd cyfleoedd chwarae i fod i ddangos data am y nifer o blant sydd yn byw o fewn yr awdurdod lleol er mwyn gwneud asesiad am y potensial ar gyfer anghenion chwarae. Mae’r data i fod i roi gwybodaeth am y nifer o blant mewn catgoriau gwahanol a all effeithio ar eu hanghenion ar gyfer chwarae.
Ewch i asesiadau digonolrwydd gofal plant a chwarae