
Mae Teulu Môn yn wasanaeth am ddim, cynhwysol, sy’n rhoi cyngor, gwybodaeth a chymorth i deuluoedd ym Môn. Mae hyn yn cynnwys teuluoedd lle mae aelod o’r teulu yn y carchar.
Pan fo aelod o’r teulu yn y carchar, gwyddwn fod hyn yn gallu effeithio’n fawr ar fywyd y teulu.
Gobeithiwn y gallwn ddarparu gwybodaeth, cyngor neu gymorth sy’n gallu cefnogi’r teulu cyfan trwy’r amser anodd yma.
Mae gennym swyddog pwrpasol sy’n gallu helpu teuluoedd sydd wedi eu heffeithio oherwydd fod rhywun yn y carchar:
- Arian – colli incwm a gorfod talu am ymweliadau i’r carchar
- Iechyd – cefnogaeth o ran yr effaith y mae cael aelod o’r teulu yn y carchar yn gallu ei chael ar faterion iechyd / iechyd meddwl / diet
- Addysg – cefnogaeth a chysylltu gydag addysg ynglŷn â chwaraetriwant ac egluro sut mae carchariad wedi effeithio ar addysg y plentyn
- Diogelwch – cefnogaeth i blant sy’n gorfod delio â stigma, bwlio a phryfocio. Rydym yn cydnabod y gall hyn fod yn anodd i chi fel y rhiant / gofalwr
Os ydych yn teimlo y byddai’r wybodaeth, cyngor a chymorth yma o fantais i’ch teulu, yna siaradwch â’r Swyddog FABI (Teuluoedd wedi eu Heffeithio gan Garchariad) trwy gysylltu â Teulu Môn.