Mae lleferydd, iaith a chyfathrebu yn feysydd datblygiad arwyddocaol i blant.
Maent yn chwarae rhan hanfodol drwy gydol ein bywydau, gan ein helpu i ddeall beth sy'n digwydd o'n cwmpas o ddydd i ddydd a mynegi ein teimladau a'n hemosiynau, a'n hanghenion sylfaenol.
Maent hefyd yn ein helpu i ddatblygu ein perthnasoedd ag eraill, cael sgyrsiau gyda'n teulu a'n ffrindiau; i feddwl, dysgu a datrys problemau, a chymaint mwy.
Offer, awgrymiadau a chyngor
Mae gan wefan Teulu Cymru gan Lywodraeth Cymru offer, awgrymiadau a chyngor ar gyfer datblygu sgiliau iaith eich plentyn.
Ewch i'r wefan Teulu Cymru i ddysgu mwy am iaith a lleferydd - bydd y ddolen yn agor tab newydd
Therapi iaith a lleferydd i blant a phobl ifanc
Mae therapyddion lleferydd ac iaith yn gweithio gyda phlant, eu teuluoedd a gweithwyr proffesiynol iechyd ac addysg mewn amrywiaeth o leoliadau sy'n cynnwys clinigau cymunedol, ysbytai, ysgolion prif ffrwd ac arbennig, meithrinfeydd, a chartrefi teuluol.
Mae'r gwasanaethau hyn ar gael drwy'r GIG.
Dysgwch fwy am therapi iaith a lleferydd i blant - bydd y ddolen yn agor tab newydd