Mae gan ofalwyr yr hawl i dderbyn ysbaid ystyrlon er mwyn darparu seibiant oddi wrth gyfrifoldebau gofalu a chael cyfle i wella ansawdd eu bywydau. Gall hyn gynnwys cyfleoedd i fynd i siopa, ymweld â ffrindiau, neu ddilyn unrhyw weithgaredd hamddena, addysg neu hyfforddiant, cychwyn parhau neu ddychwelyd i waith.
Mae ystod o wasanaethau ar gael i’ch helpu mewn amgylchiadau o’r fath. Ein bwriad yw trefnu a darparu gwasanaethau cefnogol, hyblyg yn ystod unrhyw amser yn y dydd, penwythnosau ac ambell waith yn ystod y nos gan amrediad o ddarparwyr gwahanol sydd wedi eu cymeradwyo.
Gofal ysbaid yn y cartref preswyl
Os ydych angen seibiant oddi wrth ofalu neu os ydych yn mynd i ffwrdd ar wyliau, gellir darparu gofal ysbaid yn y cartref preswyl neu nyrsio i’r person sy’n ddibynnol arnoch.
Taliadau uniongyrchol
Mae gennych yr hawl i dderbyn taliadau uniongyrchol gan Cyngor Sir Ynys Môn er mwyn eich galluogi i brynu gwasanaethau cefnogol eich hun yn unol ag eich anghenion sydd wedi eu hasesu.
Gall yr aelod o staff sy’n ymgymryd â’r asesiad neu’r swyddog adolygu gofalwyr gynnig mwy o wybodaeth a chyngor a rhestr o asiantaethau wedi eu cymeradwyo sy’n gallu darparu gwasanaethau cefnogol.
Gwasanaethau ar gael
O dan Strategaeth Gofalwyr yng Nghymru, darperir cymorth ariannol gan Lywodraeth y Cynulliad sydd wedi galluogi datblygiad y gwasanaethau canlynol:
- gwasanaethau cefnogol ac ysbeidiau hamddena oddi wrth ofalu trwy Cynnal Gofalwyr
- gwasanaethau gofal a chefnogaeth trwy Gofal Croesffyrdd Gogledd Cymru
- ysbaid dros nos a phenwythnosau i rieni plant a phobl ifanc gydag anableddau a neu salwch tymor hir
- cefnogaeth ac ysbeidiau hamdden ar gyfer Gofalwyr Ifanc trwy Gynllun Gofalwyr Ifanc Gweithredu dros Blant
Cofrestrwch gyda Chynnal Gofalwyr
Gallwch gofrestru fel gofalydd gyda Chynnal Gofalwyr er mwyn derbyn eu gwasanaethau ac i elwa o gyfarfod gofalwyr eraill a rhannu profiadau. Gall gwasanaeth Cynnal Gofalwyr ddarparu:
- gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth ar ofalu’n gyffredinol
- gweithgareddau cymdeithasol a hamdden i roi cyfle i chwi gael ysbaid oddi wrth ofalu
- cyngor ar ofalu am eich iechyd a’ch lles eich hunan
- gweithgareddau hyfforddiant a therapiwtig
- grwpiau cefnogol sydd ar gael ar Ynys Môn
- cymorth i drefnu gofal i’ch perthynas/cyfaill sy’n ddibynnol arnoch tra byddwch yn mynychu gweithgareddau eraill
- cynllunio ar gyfer gwasanaeth mewn argyfwng