Cyngor Sir Ynys Môn

Cefnogaeth i ofalwyr ddi-dal


Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn credu bod gan ofalwyr yr hawl i:

  • gael eu trin gyda chwrteisi, parch ac urddas ac fel partner cyfartal. Rhaid ymgynghori gyda gofalwyr ac mae partneriaeth gydag asiantaethau statudol yn hanfodol
  • asesiad priodol o anghenion gofalwyr a hynny ar wahân i anghenion y person y maent yn gofalu amdano/amdani
  • ddweud na! Ni ddylid gofyn i ofalwyr ymdopi gyda sefyllfa os yw hynny’n andwyol i’w hiechyd a’u lles nhw eu hunain
  • ddisgwyl gwasanaeth sy’n darparu gwybodaeth sy’n hawdd i’w defnyddio, yn gynhwysfawr, yn gywir, yn hwylus ac yn ymatebol i anghenion unigol
  • gael bywyd eu hunain yn arbennig felly’r cyfle i dreulio amser gyda theulu a ffrindiau neu gyda’r person y maent yn gofalu amdano/amdani ond yn rhydd o’r cyfrifoldebau gofalu arferol
  • wasanaethau priodol sy’n rheolaidd, yn ddibynadwy ac yn effeithiol ond sydd hefyd yn hyblyg - gwasanaeth y gellir ymddiried ynddo. Mae hyn yn cynnwys yr hawl i help/cefnogaeth mewn argyfwng/ar fyr rybudd

Mae gofalwyr yn edrych ar ôl aelodau’r teulu neu ffrindiau sydd angen gofal, help neu gefnogaeth oherwydd gwaeledd, anabledd neu oed. Fel arfer oedolion neu bobl ifanc yw gofalwyr ac nid ydynt fel arfer yn cael tâl.

Mae’r rhan fwyaf o ofalwyr yn ynysig ac yn ddi-gefnogaeth ac ni fedr rhai gael swyddi cyflogedig, mynd ar gyrsiau hyfforddiant neu gael bywyd cymdeithasol oherwydd eu cyfrifoldebau gofalu.

Gall bod yn ofalwr dalu ar ei ganfed ond gall hefyd droi eich bywyd ben ucha’n isa neu ddweud arnoch yn raddol.

Mae gofalwyr â rhan hanfodol mewn cymdeithas ac mae gennych yr hawl i:

  • asesiad o’ch anghenion eich hun fel gofalwr (asesiad gofalwyr)
  • gwybodaeth a chyngor ar y gwasanaethau a all fod ar gael i chwi a’r person yr ydych yn gofalu amdano/amdani
  • help a chefnogaeth i’ch cynorthwyo chi yn eich rôl ofalu
  • i gael dweud eich dweud ac wrth eich sylwadau gael eu cymryd i ystyriaeth

Cymorth ar gael i ofalwyr di-dâl

Os ydych yn darparu cefnogaeth emosiynol, gofal corfforol, neu gymorth ymarferol i berthynas, ffrind neu gymydog, efallai y cewch eich ystyried yn ofalwr di-dâl. Gallwch fod o unrhyw oedran.

Mae gennych yr hawl i dderbyn gwybodaeth, cyngor a chymorth er mwyn eich cefnogi yn y rôl fel gofalwr.

Gall cymorth i ofalwyr di-dâl gynnwys:

  • cymorth i gael Asesiad Gofalwr ac i ystyried unrhyw anghenion gofal a chymorth
  • cyfleoedd i gymryd seibiant o'ch cyfrifoldebau gofalu
  • mynediad at grantiau a chymorth ariannol lle bo'n briodol
  • cymorth arbenigol i grwpiau penodol, gan gynnwys gofalwyr ifanc, gofalwyr sy'n rhieni, gofalwyr ym maes iechyd meddwl, a'r rhai sy'n gofalu am rywun sy'n byw gyda dementia neu anabledd dysgu
  • cyngor ar fudd-daliadau a hawliau lles
  • mynediad at wasanaethau cwnsela
  • cymorth i wella iechyd a lles
  • gweithgareddau lleol a grwpiau cymorth yn y gymuned

Mae'n bwysig eich bod yn cael eich adnabod fel gofalwr di-dâl gan eich meddygfa, eich gweithle neu'ch lleoliad addysgol, ac unrhyw weithwyr iechyd neu ofal proffesiynol rydych mewn cysylltiad â nhw.

Argyfwng a gwasanaeth allan o oriau

Mewn argyfwng, byddwn yn trefnu i’ch anghenion gael eu hasesu o fewn 24 awr.

Mewn argyfwng ar benwythnos a chyfnodau gwyliau, dylech gysylltu â’r gwasanaeth allan o oriau ar 01248 353 551 neu gellir derbyn cyngor gan NHS direct drwy ffonio 0845 4647.