Mae gan y Gwasanaethau Cymdeithasol ddyletswydd i asesu eich anghenion.
Bydd eich asesiad yn nodi’r mathau o gefnogaeth a all fod ar gael i chi. Gallant gynnwys:
-
Rhoi egwyl/ysbaid i chi megis cefnogaeth yn eich cartref neu ofal preswyl neu ofal dydd ar gyfer y person yr ydych yn gofalu amdano/amdani
-
Offer a fydd yn eich helpu chi i edrych ar ôl y person yr ydych yn gofalu amdano/amdani
-
Rhywbeth arall pwysig i chwi a fydd yn gwneud gwahaniaeth
-
Taliadau uniongyrchol y gallwch eu defnyddio i brynu gwasanaethau
Lle i gael gwybodaeth a chefnogaeth
Cysylltwch â’r Adran Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol ar 01248 752752 neu e-bostiwch asduty@ynysmon.llyw.cymru
Gall gweithiwr cymdeithasol neu asesydd proffesiynol priodol arall gynnal ymweliad cartref er mwyn:
- egluro’r sefyllfa yn llawn
- rhoddi gwybodaeth i chwi o’r gwasanaethau sydd ar gael
- cynnig cyngor a chymorth
- ymgymryd ag asesiad llawn o’ch anghenion fel gofalydd yn ogystal ag anghenion y perthynas / cyfaill sy’n ddibynnol arnoch a thrafod pa wasanaethau gall eu darparu i gyfarfod ag eich anghenion
Er mwyn ymgymryd ag asesiad llawn, fe all fod yn angenrheidiol i gynnwys pobl o broffesiynau eraill megis therapydd galwedigaethol, ymgynghorydd anabledd, neu broffesiwn iechyd cymunedol arall.
Efallai yn dilyn eich caniatâd, bydd angen i ni gysylltu â’ch meddyg.
Cynllun gofal
Byddwch yn derbyn esboniad llawn o'r gwasanaethau cymorth a ddarperir. Byddwn yn egluro unrhyw gost y gallai fod yn rhaid i chi neu'ch perthynas/ffrind dibynnol ei thalu.
Mae gennych hawl i dderbyn copi o'ch cynllun gofal a fydd yn cadarnhau'n ysgrifenedig:
- eich anghenion asesedig
- y gwasanaethau y byddwn yn eu darparu i ddiwallu'r anghenion
- amcanion y gwasanaeth
- manylion pryd y byddwch yn derbyn y gwasanaethau hyn
- pwy fydd yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau
Gofynnir i chi lofnodi'r cynllun gofal er mwyn nodi eich bod yn cytuno â'r gwasanaethau a gynigir.
Bydd y cynllun gofal hefyd yn cynnwys enw a rhif ffôn y person sy'n gyfrifol am eich gwasanaeth o'r adran neu unrhyw asiantaeth/darparwr arall.
Argyfwng a gwasanaeth allan o oriau
Mewn argyfwng, byddwn yn trefnu i’ch anghenion gael eu hasesu o fewn 24 awr.
Mewn argyfwng ar benwythnos a chyfnodau gwyliau, dylech gysylltu â’r gwasanaeth allan o oriau ar 01248 353 551 neu gellir derbyn cyngor gan NHS direct drwy ffonio 0845 4647.