Cyngor Sir Ynys Môn

Gofalwyr di-dal

Gall gofalwyr di-dâl fod o unrhyw oedran. Rydych chi'n ofalwr di-dâl os ydych chi'n gofalu'n rheolaidd am rywun na allai ymdopi heb eich cymorth.

Gallai hyn fod yn aelod o'r teulu, partner neu ffrind sy'n sâl, yn anabl, yn hŷn, sydd â phroblem iechyd meddwl, neu sydd â phroblemau gyda chyffuriau neu alcohol.

Nid ydych chi'n cael eich talu am y cymorth hwn. Mae hyn yn wahanol i weithwyr gofal neu gynorthwywyr gofal, sy'n cael eu talu i ofalu am bobl.