Mae gan ofalwyr yr hawl i dderbyn ysbaid ystyrlon er mwyn darparu seibiant oddi wrth gyfrifoldebau gofalu a chael cyfle i wella ansawdd eu bywydau. Gall hyn gynnwys cyfleoedd i fynd i siopa, ymweld â ffrindiau, neu ddilyn unrhyw weithgaredd hamddena, addysg neu hyfforddiant, cychwyn parhau neu ddychwelyd i waith.
Mae ystod o wasanaethau ar gael i’ch helpu mewn amgylchiadau o’r fath. Ein bwriad yw trefnu a darparu gwasanaethau cefnogol, hyblyg yn ystod unrhyw amser yn y dydd, penwythnosau ac ambell waith yn ystod y nos gan amrediad o ddarparwyr gwahanol sydd wedi eu cymeradwyo. Os ydych angen seibiant oddi wrth ofalu neu os ydych yn mynd i ffwrdd ar wyliau, gellir darparu gofal ysbaid yn y cartref preswyl neu nyrsio i’r person sy’n ddibynnol arnoch.
Mae gennych yr hawl i dderbyn Taliadau Uniongyrchol gan yr Awdurdod Lleol er mwyn eich galluogi i brynu gwasanaethau cefnogol eich hun yn unol ag eich anghenion sydd wedi eu hasesu.
Gall yr aelod o staff sy’n ymgymryd â’r asesiad neu’r Swyddog Adolygu Gofalwyr gynnig mwy o wybodaeth a chyngor a rhestr o asiantaethau wedi eu cymeradwyo sy’n gallu darparu gwasanaethau cefnogol.
O dan Strategaeth Gofalwyr yng Nghymru, darperir cymorth ariannol gan Lywodraeth y Cynulliad sydd wedi galluogi datblygiad y gwasanaethau canlynol ar yr Ynys.
- gwasanaethau cefnogol ac ysbeidiau hamddena oddi wrth ofalu trwy Cynnal Gofalwyr
- gwasanaethau gofal a chefnogaeth trwy Gofal Croesffyrdd Gogledd Cymru
- ysbaid dros nos a phenwythnosau i rieni plant a phobl ifanc gydag anableddau a neu salwch tymor hir
- cefnogaeth ac ysbeidiau hamdden ar gyfer Gofalwyr Ifanc trwy Gynllun Gofalwyr Ifanc Gweithredu dros Blant
Gallwch gofrestru fel gofalydd gyda Chynnal Gofalwyr er mwyn derbyn eu gwasanaethau ac i elwa o gyfarfod gofalwyr eraill a rhannu profiadau. Gall Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr ddarparu’r canlynol.
- gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth ar ofalu’n gyffredinol
- gweithgareddau cymdeithasol a hamdden i roi cyfle i chwi gael ysbaid oddi wrth ofalu
- cyngor ar ofalu am eich iechyd a’ch lles eich hunan
- gweithgareddau hyfforddiant a therapiwtig
- grwpiau cefnogol sydd ar gael ar Ynys Môn
- cymorth i drefnu gofal i’ch perthynas / cyfaill sy’n ddibynnol arnoch tra byddwch yn mynychu gweithgareddau eraill
- cynllunio ar gyfer gwasanaeth mewn argyfwng