Mae gan y Gwasanaethau Cymdeithasol ddyletswydd i asesu eich anghenion.
Bydd eich asesiad yn nodi’r mathau o gefnogaeth a all fod ar gael i chi. Gallant gynnwys:
- Rhoi egwyl/ysbaid i chi megis cefnogaeth yn eich cartref neu ofal preswyl neu ofal dydd ar gyfer y person yr ydych yn gofalu amdano/amdani
- Offer a fydd yn eich helpu chi i edrych ar ôl y person yr ydych yn gofalu amdano/amdani
- Rhywbeth arall pwysig i chwi a fydd yn gwneud gwahaniaeth
- Taliadau uniongyrchol y gallwch eu defnyddio i brynu gwasanaethau
Lle i gael Gwybodaeth a Chefnogaeth
Cysylltwch â’r Adran Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol ar 01248 752752 neu e-bostiwch asduty@ynysmon.llyw.cymru
Gall gweithiwr cymdeithasol neu asesydd proffesiynol priodol arall gynnal ymweliad cartref er mwyn:
- egluro’r sefyllfa yn llawn
- rhoddi gwybodaeth i chwi o’r gwasanaethau sydd ar gael
- cynnig cyngor a chymorth
- ymgymryd ag asesiad llawn o’ch anghenion fel gofalydd yn ogystal ag anghenion y perthynas / cyfaill sy’n ddibynnol arnoch a thrafod pa wasanaethau gall eu darparu i gyfarfod ag eich anghenion
Er mwyn ymgymryd ag asesiad llawn, fe all fod yn angenrheidiol i gynnwys pobl o broffesiynau eraill megis Therapydd Galwedigaethol, Ymgynghorydd Anabledd, neu Broffesiwn Iechyd Cymunedol arall. Efallai yn dilyn eich caniatâd, bydd angen i ni gysylltu â’ch meddyg.
Mewn argyfwng, byddwn yn trefnu i’ch anghenion gael eu hasesu o fewn 24 awr. Mewn argyfwng ar benwythnos a chyfnodau gwyliau, dylech gysylltu â’r Gwasanaeth Allan o Oriau ar 01248 353551 neu gellir derbyn cyngor gan NHS direct drwy ffonio 0845 4647.