Larwm Teleofal cludadwy yw peiriant galw a fedr dderbyn negeseuon Teleofal.
Beth yw peiriant galw?
Mae’n dangos nid yn unig y math o synhwyrydd a ysgogwyd, ond hefyd leoliad y synhwyrydd ac / neu enw’r person y mae’r synhwyrydd wedi ei neilltuo iddo/iddi. Mae hyn yn golygu y gellir rhoi gwybod yn sydyn i ofalwyr ar safleoedd am unrhyw ddigwyddiadau, fel bod modd iddynt ddarparu lefel uchel o ofal gan sicrhau’r effeithlonrwydd gorau posib. Bydd hefyd o gymorth i leihau’r effaith ar ffyrdd o fyw gofalwyr anffurfiol gan ganiatáu iddynt arwain bywydau mwy annibynnol.
Sut mae’n gweithio?
Mae synwyryddion Teleofal yn cael eu neilltuo ymlaen llaw ar gyfer peiriant galw ac yn cael eu clustnodi i leoliad o fewn adeilad e.e. lolfa gymunedol neu i breswylydd penodol e.e. Mrs Smith Fflat 1. Pan fydd y synhwyrydd Teleofal yn cael ei ysgogi, bydd y teclyn peiriant galw yn dirgrynu, yn bipian ac yn goleuo sgrin lachar i roi gwybod i’r gofalwr bod rhywbeth wedi digwydd. Gall gofalwyr wedyn weld pa synhwyrydd sydd wedi achosi i’r larwm ganu a gweld ar gyfer pa ystafell / preswylydd y mae’r synhwyrydd wedi ei neilltuo ynghyd â dyddiad ac amser y larwm fel bod modd iddynt gymryd camau priodol ar fyrder.
I bwy y mae o?
Mae peiriant galw wedi ei ddylunio i gefnogi gofalwyr lleol i ddarparu gofal o safon uchel sydd ddim yn ymwthiol. Mae’n eithriadol o hawdd i’w ddefnyddio a’i gludo, ac mae’n ffordd i ofalwyr sy’n gweithio neu sy’n byw ar y safle i gael negeseuon ar unwaith o amrediad o synwyryddion Teleofal.
O ganlyniad, gall gofalwyr ar safleoedd gael gwybod yn sydyn am unrhyw ddigwyddiadau. Mae’n ddatrysiad Teleofal sy’n gost-effeithiol iawn ac mae’n osgoi’r angen am wasanaeth canolfan fonitro neu linell ffôn nad oes raid ei gael yn aml pan fo gofal amser llawn (24 awr) yn cael ei ddarparu.
Oherwydd bod y signal radio yn effeithiol am hyd at 300 o fedrau (llinell weld), mae’n arbennig o addas ar gyfer gwasanaeth gofal dementia arbenigol bychan, gofal canolraddol, anableddau dysgu, cartrefi preswyl a gofal a chyfleusterau gofal ysbaid. Gall hefyd fod o fantais sylweddol i unigolion preifat a’u gofalwyr anffurfiol y byddai’n well ganddynt, efallai, beidio â bod wedi eu cysylltu â chanolfan fonitro 24 awr.