Enw gwasanaeth cefnogi iechyd meddwl Cyngor Sir Ynys Môn yw Cefnogaeth Meddwl Môn.
Mae'r gwasanaeth yn cynnig cymorth cymunedol i bobl sy'n byw yn Ynys Môn.
Pwy all ymuno
Gallwch ymuno gydag unrhyw un o’n gweithgareddau (cyn gymaint ac yr hoffwch a dweud y gwir) cyn belled a’ch bod wedi cael eich cyfeirio atom nail ai gan eich:
- meddyg
- ymwelydd iechyd
- y tîm Grant Cymorth Tai
- Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr
Beth rydyn ni'n ei wneud
Rydym yn cynnig amrywiaeth eang o gefnogaeth yn y gymuned ar gyfer ein cleientiaid yn ogystal ag ystod eang o weithgareddau grŵp a ddyluniwyd i helpu i wella iechyd meddwl ac iechyd corfforol a llesiant. Byddwn yn gofyn i chi arfarnu eich cynnydd o safbwynt eich llesiant wrth i chi gymryd rhan yn y gweithgareddau er mwyn gweld a yw’r hyn yr ydych yn ei wneud yn eich helpu i wella eich iechyd a’ch llesiant.
Gellir gwneud trefniadau i’ch cludo o wahanol leoliadau er mwyn eich helpu i gyrraedd y cyfarfod os oes angen. Gallwch drafod hyn yn ystod ein cyfarfod cyntaf gyda chi.
Bydd staff ar gael bob amser fydd yn ymuno yn y gweithgareddau bob dydd.
Mae croeso i gymaint â phosib o’n cleientiaid ymuno â ni.
Cysylltu â ni
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, neu eich bod yn dymuno cymeryd rhan yn unrhyw un o’n gweithgareddau, a wnewch chi gysylltu gyda’n tîm gweithgareddau ar 0300 853 155.
Byddwch yn ymwybodol y gall y gweithgareddau newid neu cael eu canslo, a hynny weithiau ar fyr rybydd, ac felly gofynnwn i chwi gadw llygaid ar y rhaglen yn gyson.