Mae taliadau'n seiliedig ar eich gallu i dalu, felly bydd y swm y mae'n rhaid i bob person ei dalu yn wahanol.
I weithio allan eich tâl, rydym yn edrych ar eich incwm wythnosol, eich costau allan a'ch cyfalaf (cynilion a buddsoddiadau)
Nodyn: Mae polisi codi tâl Cyngor Sir Ynys Môn yn cynnwys sicrwydd ynddo y bydd pob person sy'n derbyn gofal cartref neu ofal dydd yn cael ei adael gyda'r cymorth incwm sylfaenol neu hawl credyd pensiwn gwarantedig ynghyd â 45% ar ôl talu unrhyw daliadau.
Cyfalaf
Mae cyfalaf yn cynnwys arbedion a gedwir mewn cyfrifon banc neu gymdeithas adeiladu, tystysgrifau cynilo cenedlaethol, bondiau, PEP, TESSAs, ISAs a chyfranddaliadau. Gallant fod yn eich enw chi yn unig neu ar y cyd â rhywun arall.
Mae hefyd yn cynnwys eiddo neu dir yr ydych yn berchen arno, ar wahân i'ch cartref. Bydd y gwerth cyfalaf neu eich budd chi ynddo, os yw'n eiddo ar y cyd, hefyd yn cael ei gynnwys fel ased cyfalaf.
Llai na £24,000
Os asesir bod cyfalaf person yn is na’r ffigwr hwn, yna caiff ei anwybyddu yn yr asesiad.
Dros £ 24,000
Codir hyd at uchafswm o £100 ar gyfer y gwasanaeth os oes gan berson gyfalaf o £24,000 neu fwy.
Os oes gennych lai na £24,000 o gyfalaf
Os oes gennych lai na £24,000 o gyfalaf / cynilion, dylech chi ddweud wrthym a chwblhau ffurflen asesu ariannol.
Os yw'r Cyngor o'r farn bod rhywun wedi cael gwared ar gyfalaf / arbedion yn fwriadol er mwyn bod yn gymwys i gael help tuag at gostau gofal cartref / gofal dydd, byddant yn cael eu trin fel petai’r cyfalaf yn parhau i fod ganddynt. Mae hyn yn golygu na fyddant efallai yn derbyn cymorth ariannol ac y bydd yn rhaid iddynt dalu'r uchafswm o £100.00.
Incwm
Mae hyn yn cynnwys yr holl arian yr ydych yn ei gael yn rheolaidd, er enghraifft:
- Pensiwn Ymddeoliad y Wladwriaeth, pensiynau galwedigaethol / gwaith neu bensiwn personol.
- unrhyw fudd-daliadau gan y wladwriaeth, er enghraifft Lwfans Cyflogaeth a Chymorth.
- blwydd-daliadau
- incwm rhent a dderbynnir o eiddo rydych chi'n berchen arno.
- taliadau cronfa ymddiriedolaeth.
Treuliau a ddiystyrir a ganiateir
Ar ôl adio eich incwm wythnosol at ei gilydd, caiff rhai symiau wedyn eu hanwybyddu. Y prif rai yw:
- enillion
- Credyd Treth Gwaith
- Elfen Symudedd y Lwfans Byw i'r Anabl (DLA)
- Elfen Symudedd y Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)
- Budd-dal plant
- taliadau morgais, rhent neu dreth gyngor nad ydych yn derbyn cymorth ar eu cyfer
- Pensiwn Rhyfel a Phensiwn Gweddwon Rhyfel
- taliadau o'r Gronfa Byw'n Annibynnol