Yn dilyn gwybodaeth a gyflwynir i’r Gwasanaethau Cymdeithasol, trefnir ymweliad atoch gan Ymgynghorydd Byw’n Annibynnol, Therapydd Galwedigaethol neu Weithiwr Cymdeithasol er mwyn asesu sut fath o gefnogaeth / cymorth yr ydych o bosib ei angen. Gelwir y bobl yma hefyd yn Aseswyr.
Bydd cyfle i chwi drafod eich anghenion unigol ac os ydych angen cymorth gyda thasgau beunyddiol (e.e. Ymolchi, gwisgo, paratoi bwyd) neu gymorth neu gefnogaeth i adennill sgil benodol.
Gallwch drafod unrhyw gymorth / cefnogaeth yr ydych o bosib eu hangen gyda’r Asesydd ac os cytunir, caiff ei gynnwys yn eich cynllun Cefnogaeth Gofal Personol. Byddwch yn derbyn copi o’r Cynllun Cefnogaeth Gofal ac yna cewch gopi o Gynllun Darparu Gwasanaeth fydd yn cynnwys yr amser o’r dydd a dyddiadau yn ystod yr wythnos pan fydd Gweithiwr Cefnogol Ail-Alluogi yn ymweld â chwi.
Os dymunwch, gallwch ofyn i’ch gofalydd, perthynas, neu ffrind i fod yn bresennol yn ystod yr asesiad.
Byddwn yn trafod y gwasanaethau y byddwch yn eu derbyn o leiaf unwaith yr wythnos. Gelwir hyn yn adolygiad. Bydd yr adolygiad yn cynnig cyfle
i chi ddweud wrthym os yw’r gwasanaeth / cefnogaeth yma o gymorth i chi, neu os ydych yn meddwl y dylid newid y trefniadau. Fodd bynnag, bydd rhaid cytuno ar unrhyw newid gyda’r asesydd.
Cynigir y gwasanaethau canlynol yn dilyn yr asesiad, os cytunir eich bod eu hangen:
- Cyfarpar a/neu fan addasiadau i’ch eiddo i helpu â thasgau dyddiol
- Larwm Cymunedol, Gwasanaeth Telefoal Ynys Món
- Gwasanaethau Teleofal
- Gwasanaethau Cymunedol e.e. Clybiau Cinio, Cynllun Tro Da, Clybiau
- Cerdded, Clybiau Cyfrifiaduron , Dysgu Gydol Oes
- Cefnogaeth barhaus gan y Gwasanaeth Gofal Cartref