Mae Cynllun Tro Da Seiriol yn seiliedig ar yr egwyddor o wirfoddolwyr yn gwneud “troeon da” i helpu unigolion, teuluoedd, neu grwpiau ag anghenion a nodwyd sy’n byw yn Ardal Seiriol.
Mae’r Ardal Seiriol yn cynnwys Biwmares, Llandegfan, Llansadwrn, Llanddona, Llangoed, Llanfaes a Penmon.
Mae’r Cynllun yn cynnig nifer o wahanol wasanaethau, gan gynnwys cludiant cymunedol:
- Mynd a chleientiaid i apwyntiadau doctor, ysbyty ac apwyntiadau eraill
- Cefnogi pobl i gael mynediad i ddigwyddiadau cymdeithasol cymunedol, dosbarthiadau ymarfer corff, clybiau, sgyrsiau, grwpiau diddordeb ac ati
- Ymgymryd â chasglu presgripsiwn o'r fferyllfa
Mae’r gwasanaethau cludiant cymunedol yn cael eu darparu gan
wirfoddolwyr. Mae gennym ni 3 wahanol fath o gerbydau:
- Bws mini 17 sedd (sy’n gallu hefyd cludo hyd at 3 defnyddiwr cadair olwyn os oes angen)
- Cludwr pobl Nissan e-NV200 trydan 7 sedd sy'n hygyrch i gadeiriau olwyn
- Ceir preifat sy'n eiddo i wirfoddolwyr
Gellir darparu cludiant 7 diwrnod yr wythnos, yn ddibynnol ar argaeledd gwirfoddolwyr.
I hawlio unrhyw wasanaeth, gan gynnwys cludiant cymunedol, bydd agen cofrestru gyda’r Cynllun Tro Da. Gellir cofrestru am ddim, ac nid yw’n eich
ymrwymo i ddefnyddio’r cynllun yn fwy nag y dymunwch.
Rhif Ffôn: (01248) 305 014 - llinellau ar agor o 9am tan 5pm Dydd Llun i Ddydd Gwener.
Mae’r Cynllun Tro Da Seiriol yn cael ei redeg gan Cynghrair Seiriol. Mae’r Cynghrair yn sefydliad sy’n cael ei redeg yn gyfan gwbl gan wirfoddolwyr yn gwasanaethu cymunedau yn yr Ardal Seiriol, a’n cwbl dim-er-elw. Ond, er mwyn galluogi’r Cynllun Tro Da i redeg, mae’n rhaid codi am gludiant gymunedol, i dalu am gostau treuliau gwirfoddolwyr, cerbyd a gweinyddol.
Ymholiadau gan sefydliadau
Rydym hefyd yn croesawu ymholiadau parthed y defnydd ac argaeledd o’r bws mini 17 sedd a chludwr pobl 7 sedd gan sefydliadau cymunedol lleol. Mae’r ddau gerbyd wedi ei leoli yn Canolfan Hamdden Biwmares a gellir derbyn wybodaeth bellach drwy gysylltu â:
Ffôn: 01248 811200
E-bost: enquiries@canolfanbeaumaris.org.uk