Cyngor Sir Ynys Môn

Strategaeth TGCh i ysgolion


Teacher in computer classDiben y dudalen yma yw cysoni gwybodaeth a phrosesau ar gyfer cyflwyno’r gwasanaeth TGCh Môn i ysgolion Môn mewn arddull effeithiol ac effeithlon.

Yma cewch hyd i wybodaeth am ddiweddariadau, cysylltiadau a phrosesau yn ymwneud a TGCh sector addysg Ynys Môn.

Gallwch greu tocyn gyda’r Ddesg Gymorth TG ac edrych ar eich tocynnau blaenorol, am faterion fel:

  • problemau gyda'ch cyfrifiadur
  • problemau rhwydwaith
  • problemau gyda system ffôn yr ysgol

Gallwch hefyd archwilio canllawiau sut-i a dysgu arferion gorau o'n sylfaen wybodaeth.

Desg Gymorth TG

Cyswllt allweddol

Ffôn

(01248) 752 525

E-bost ymgynghorol​

Rheolwr prosiect Hwb​: markherbert@ynysmon.llyw.cymru​

Mae Hwb, y Platfform Dysgu Digidol Cenedlaethol, yn gartref i gasgliad cenedlaethol o gyfarpar ac adnoddau digidol i gefnogi dysgu ac addysgu yng Nghymru.​

Mae Ynys Môn yn datblygu ei strategaeth Hwb yn unol â’r egwyddorion allweddol canlynol:​

  • Cefnogi dull cenedlaethol o gynllunio a gweithredu.
  • Ei gwneud yn bosibl rhannu sgiliau dulliau ac adnoddau rhwng athrawon yng Nghymru​.
  • Cefnogi addysgu a dysgu drwy’r Gymraeg a'r Saesneg​.
  • Cynnig offer ac adnoddau cyfartal am ddim i’w defnyddio yn y dosbarth gan athrawon a dysgwyr yng Nghymru.

Mae Hwb yn ei gwneud yn bosibl i ddysgwyr ac athrawon gael mynediad i adnoddau ar-lein yn unrhyw le, ar unrhyw bryd, ac o amrywiaeth o ddyfeisiau. Mae hefyd yn darparu adnoddau i helpu athrawon i greu a rhannu eu hadnoddau a’u haseiniadau eu hunain.

Mae’r casgliad yn cynnwys:​

  • offer ac adnoddau a grëwyd neu a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru a/neu ei hasiantau​
  • offer ac adnoddau a drwyddedwyd neu a brynwyd gan Lywodraeth Cymru​
  • offer ac adnoddau a ddarparwyd gan ffynonellau dibynadwy​
  • adnoddau a grëwyd gan athrawon

Archebu offer

Y prif nod yw creu ynys iach a llewyrchus lle gall teuluoedd ffynn. Mae hyn yn cynnwys sicrhau y gall pobl Ynys Môn wireddu eu potensial tymor hir.

Hon fydd strategaeth ddigidol ar gyfer ysgolion gyntaf erioed Ynys Môn sy'n gosod ein gweledigaeth ac sy'n cael ei thanategu gan ein hegwyddorion cyffredinol a meysydd blaenoriaeth allweddol er mwyn darparu gwasanaethau TGCh i’n hysgolion.

Strategaeth Ddigidol ar gyfer Ysgolion 2022 i 2024