Cyngor Sir Ynys Môn

Cludiant


Meddyliwch am gludiant ysgol cyn gwneud cais am le mewn ysgol

Cynghorir rhieni/gofalwyr i ystyried y goblygiadau cludiant ysgol cyn mynegi dewis ysgol. 

Os rhoddir caniatâd i ddisgyblion fynychu ysgol all-ddalgylch, yn arferol mae’n ofynnol iddynt wneud trefniadau teithio eu hunain a dwyn y gost.

Gweler ein polisi cludiant ysgol

Trefniadau cludiant

Mae’r awdurdod lleol wedi adnabod ardal ddaearyddol benodol ar gyfer bob ysgol, a elwir yn ddalgylch.

Mae dalgylchoedd ysgol yn dylanwadu ar weithdrefnau mynediad a pholisïau cludiant ysgolion, fodd bynnag, nid yw byw o fewn dalgylch arbennig yn gwarantu lle yn ysgol yr ardal honno. Gellir gweld mapiau sy’n dangos ffiniau’r dalgylchoedd gan y Gwasanaeth Dysgu neu yn yr ysgol.

Mae disgyblion gan amlaf yn mynychu’r ysgol yn y dalgylch y maent yn byw ynddi a lle bydd yr awdurdod lleol wedi creu darpariaeth gan ystyried llety, staffio ac adnoddau eraill gan gynnwys cludiant ysgol.

Wrth wneud cais am le mewn ysgol uwchradd, dylai rhieni fod yn ymwybodol mai cyfeiriad y cartref sy’n dynodi’r dalgylch ysgol uwchradd yn hytrach na pha ysgol gynradd a fynychwyd gan eu plentyn. Mae hyn yn effeithio b’run ai yw cludiant ysgol yn ddi-dâl ai peidio i ddisgyblion.