Cyngor Sir Ynys Môn

Apelio penderfyniad am le mewn ysgol


Lle mae eich dewis ysgol wedi bod yn aflwyddiannus, cewch gynnig yr hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad hwn. Nid oes hawl i apelio am fynediad i'r meithrin.

Bydd manylion yn cael eu cynnwys yn yr e-bost penderfyniad y byddwch wedi'i dderbyn.

Pan fydd angen i chi ddweud wrthym eich bod yn apelio

Os ydych yn dymuno apelio, bydd angen i chi roi gwybod i ni o fewn 10 diwrnod ysgol.

Yna cewch wybod am ddyddiad ac amser eich gwrandawiad apêl (a gynhelir o fewn 30 diwrnod o'ch penderfyniad i apelio), sut i gyflwyno rhagor o wybodaeth yn ymwneud â'ch achos a chael eich gwahodd i fod yn bresennol.

Bydd achos y cyngor dros wrthod yn cael ei gyflwyno i banel annibynnol o dri pherson nad ydynt wedi'u cysylltu â'r ysgol dan sylw na'r cyngor. Yna cewch chi (a'r panel) gyfle i ofyn unrhyw gwestiynau a chyflwyno eich rhesymau eich hun dros apelio.

Beth ddylech chi ei wneud mewn gwrandawiad apêl

Wrth gyflwyno apêl, rydych yn cyflwyno achos i'ch plentyn fynd i ysgol benodol a dylai'r achos fod yn seiliedig ar pam y dylai eich plentyn fynychu'r ysgol honno.

Bydd y gwrandawiad apêl mor anffurfiol â phosibl ond os ydych yn teimlo bod angen cyngor arnoch ar sut i gyflwyno'ch achos, dylech geisio hyn yn annibynnol. Mater i bob unigolyn yw hyn, ond nid yw llawer o rieni yn ystyried hyn yn angenrheidiol.

Ni all aelodau'r cyngor, swyddogion yr awdurdod lleol, Aelodau Seneddol na gwleidyddion lleol fynd gyda chi i'ch gwrandawiad apêl, gan y gallai hyn arwain at wrthdaro buddiannau, annhegwch i apelyddion eraill a rhoi pwysau gormodol ar y panel.

Yn ystod y broses apelio, gallwch ddewis ysgol arall ar gyfer eich plentyn o hyd. Cysylltwch â'r tîm mynediad ysgolion (e-bost a chyfeiriad). Noder nad yw derbyn ysgol arall yn effeithio ar eich hawl i apelio.

Penderfyniad y panel apêl

Mae penderfyniad y panel yn derfynol ac yn rhwymo pob parti ym mhob apêl mynediad ysgolion.

Gall yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus ymchwilio i gwynion ysgrifenedig am gamweinyddu ar ran panel apêl mynediad. Mae camweinyddu yn ymdrin â materion fel methu â gweithredu'n annibynnol ac yn deg, yn hytrach na chwynion lle mae person yn teimlo bod y penderfyniad a wneir yn anghywir.

Dim ond y llysoedd all wrthdroi penderfyniad panel apêl lle mae'r apelyddion neu'r awdurdod derbyn yn llwyddo i wneud cais am adolygiad barnwrol o'r penderfyniad hwnnw.

Beth sy’n digwydd yn yr apêl

Bydd eich apêl yn cael ei chlywed yn breifat.

Os oes llawer o apeliadau yn ymwneud ag un ysgol gellir gwneud cam cyntaf yr apêl fel grŵp a bod rhieni eraill yn bresennol sydd hefyd wedi apelio.

Cam 1

  • Bydd y swyddog cyflwyno yn esbonio pam y gwrthododd yr awdurdod derbyn eich cais/y ceisiadau (er enghraifft, byddai'r ysgol yn rhy orlawn).
  • Bydd gan y rhiant gyfle i gwestiynu rhesymau'r awdurdod derbyn dros wrthod.

Os bydd y panel yn penderfynu ar hyn o bryd nad oedd angen gwrthod lle, er enghraifft, os na fyddai'r ysgol yn rhy orlawn, bydd y gwrandawiad yn dod i ben, a bydd y rhiant yn cael gwybod bod yr apêl wedi bod yn llwyddiannus.

Os bydd y panel yn penderfynu bod rhesymau dros wrthod ar y sail y byddai'r ysgol yn rhy llawn, yna bydd ail gam yn dilyn. Bydd y rhain bob amser yn apeliadau unigol (preifat).

Cam 2

  • Bydd y rhiant yn esbonio pam y dylai eu plentyn gael lle yn yr ysgol er ei bod yn llawn.
  • Bydd y panel a'r awdurdod derbyn yn cael cyfle i gwestiynu rhesymau'r rhieni.
  • Yna bydd yr awdurdod derbyn yn crynhoi'r achos.
  • Byddwch hefyd yn cael cyfle i grynhoi'ch achos.

Bydd y panel yn gwrando ar bob ochr i'r achos a gall ofyn cwestiynau ar unrhyw adeg os oes angen eglurhad neu mwy o wybodaeth arno i ddod i benderfyniad.

Dylid anfon penderfyniad y panel drwy hysbysiad ysgrifenedig o fewn 5 diwrnod gwaith. Gall apeliadau grŵp gymryd mwy o amser.

Gwybodaeth am apeliadau gan Lywodraeth Cymru

Gweler gwefan Llywodraeth Cymru am ragor o wybodaeth am apeliadau.