Yr Awdurdod Lleol yw’r awdurdod derbyn mewn perthynas â’r 5 ysgol uwchradd a 38 o’r 40 ysgol gynradd yn Ynys Môn.
Y corff llywodraethu perthnasol yw'r awdurdod derbyn mewn perthynas â'r un ysgol wirfoddol â chymorth (Ysgol y Santes Fair, Caergybi), a'r un ysgol sylfaen (Ysgol Caergeiliog).
Yr Awdurdod Lleol yw'r awdurdod derbyn mewn perthynas â'r 5 ysgol uwchradd, 36 o ysgolion cynradd cymunedol a 2 ysgol reoledig wirfoddol yn Ynys Môn.
Y corff llywodraethu perthnasol yw'r awdurdod derbyn mewn perthynas â'r un ysgol wirfoddol â chymorth (Ysgol y Santes Fair, Caergybi), a'r un ysgol sylfaen (Ysgol Caergeiliog).
Mae Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 a’r Rheoliadau cysylltiedig yn sefydlu fframwaith cyfreithiol ar gyfer derbyniadau i ysgolion. Bwriad y trefniadau ydi :
- sicrhau trefniadau derbyn lleol sy’n eglur, yn wrthrychol ac yn rhoi cyfle teg i bob plentyn gael lle boddhaol mewn ysgol
- rhoi gwybodaeth lawn i alluogi rhieni i wneud dewis goleuedig o safbwynt dewis ysgol
- sicrhau cyd-gordio trefniadau derbyn lleol a sicrhau trefniadau sydd yn hawdd i’w deall, gyda’r lleiafswm o fiwrocratiaeth a hyd y bo modd yn sicrhau cwrdd â dewis rhieni o ysgol
- sicrhau hawl statudol ac effeithiol i apelio os na chaiff rhieni eu bodloni
Yn unol â gofynion Deddf 1998 (fel y’i diwygiwyd gan adran 40 Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006) mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Y Cod Derbyn i Ysgolion sydd yn rhoi canllawiau i awdurdodau derbyn ynglŷn â chyflawni swyddogaeth derbyn o fis Gorffennaf 2013 ymlaen. Mae Polisi Ysgolion Cyngor Ynys Môn yn seiliedig ar y Cod yma.
Mae polisi mynediad ysgolion cynradd ac uwchradd Ynys Môn yn cydymffurfio a gofynion Deddf Cydraddoldeb 2010, Deddf Hawliau Dynol 1998 a Hawliau’r Plentyn a Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011, ac nid yw’n gwahaniaethu ar sail
- anabledd
- ailbennu rhywedd
- beichiogrwydd a mamolaeth
- hil
- crefydd neu gred
- rhyw neu gyfeiriadedd rhywiol
yn erbyn unigolyn yn y trefniadau a’r penderfyniadau a wneir gan yr awdurdod derbyn ynghylch pwy y dylid cynnig ei dderbyn yn ddisgybl.
Bydd ceisiadau am fynediad ar ran disgyblion ag anghenion addysgol arbennig, ond heb ddatganiad, yn cael eu hystyried ar yr un sail ag ymgeiswyr eraill.
Cais i ddosbarth meithrin ym mis Medi 2022
Cefndir
Berthnasol i blant a anwyd rhwng 1 Medi 2018 a 31 Awst 2019.
Sylwch mai'r dyddiad cau oedd 1 Chwefror 2022.
Gall rhieni wneud cais o hyd. Bydd unrhyw gais a dderbynnir yn cael ei drin fel cais hwyr.
Rydym yn eich cynghori'n gryf i ddewis ail-ddewis. Os na ddewisir ail-ddewis a bod eich dewis cyntaf yn aflwyddianus, ni ddyrennir ll
Na fydd yr awdurdod lleol yn gallu trafod argaeledd lleoedd na chanlyniad posibl unrhyw gais.
Bydd rhieni’n cael gwybod am y canlyniad dros e-bost o fewn 28 diwrnod calendr.
Ysgol Llandegfan
Os hoffech wneud cais am le yn nosbarth meithrin Ysgol Llandegfan ar gyfer mis Medi, noder mai’r dyddiad cau yw 10 Gorffennaf 2022.
Byddwch yn cael gwybod am y canlyniad dros e-bost erbyn dim hwyrach na 15 Gorffennaf 2022.
Bydd unrhyw gais a gyflwynir rhwng 11a 15 Gorffennaf 2022 yn cael ei farcio fel 'hwyr' a bydd ond yn cael ei ystyried os oes lleoedd dros ben ar gael. Byddwch yn cael gwybod am y canlyniad erbyn dim hwyrach na 18 Gorffennaf 2022.
Bydd unrhyw gais a gyflwynir ar, neu ar ôl 16 Gorffennaf 2022 ond yn cael ei ystyried os oes lleoedd dros ben ar gael. Byddwch yn cael gwybod am y canlyniad o fewn 28 diwrnod calendr.
Ysgol Talwrn ac Ysgol Corn Hir
Nid oes darpariaeth Feithrin yn Ysgol Talwrn nac yn Ysgol Corn Hir. Bydd angen i chi gysylltu â'r cylch meithrin yn uniongyrchol.
Ysgol Santes Fair ac Ysgol Caergeiliog
I wneud cais am fynediad i Ysgol Santes Fair neu Ysgol Caergeiliog, cysylltwch â'r ysgol yn uniongyrchol. Mae dolenni i wefannau'r ysgolion hyn yn adran dolenni'r dudalen we hon.
Ysgolion y tu allan i Ynys Môn
Ar gyfer unrhyw ysgol y tu allan i ffin Ynys Môn, cysylltwch ag awdurdod lleol yr ysgol.
Gwnewch gais
Gwneud cais
Agorwch y ffurflen gan ddefnyddio porwr gwe â gefnogwyd fel Safari, Google Chrome, Microsoft Edge neu Firefox.
Cais i ddosbarth derbyn ym mis Medi 2022
Berthnasol i blant a anwyd rhwng 1 Medi 2017 a 31 Awst 2018.
Sylwch mai'r dyddiad cau oedd 1 Chwefror 2022.
Gall rhieni wneud cais o hyd. Bydd unrhyw gais a dderbynnir yn cael ei drin fel cais hwyr.
Rydym yn eich cynghori'n gryf i ddewis ail-ddewis. Os na ddewisir ail-ddewis a bod eich dewis cyntaf yn aflwyddianus, ni ddyrennir ll
Na fydd yr Awdurdod Lleol yn gallu trafod argaeledd lleoedd na chanlyniad posibl unrhyw gais.
Ceisiadu hwyr a gyflwynwyd rhwng |
Hysbysu rhieni o'r canlyniad erbyn dim hwyrach na |
1 Ebrill 2022 i 15 Ebrill 2022 |
29 Ebrill 2022 |
16 Ebrill 2022 i 30 Ebrill 2022 |
13 Mai 2022 |
1 Mai 2022 ymlaen |
15 diwrnod ysgol neu 28 diwrnod calendr (pa bynnag ddaw gyntaf) |
I wneud cais am fynediad i Ysgol Santes Fair neu Ysgol Caergeiliog, cysylltwch â'r ysgol yn uniongyrchol. Mae dolenni i wefannau'r ysgolion hyn yn adran dolenni'r dudalen we hon.
Ar gyfer unrhyw ysgol y tu allan i ffin Ynys Môn, cysylltwch ag Awdurdod Lleol yr ysgol.
Gwneud cais
Agorwch y ffurflen gan ddefnyddio porwr gwe â gefnogwyd fel Safari, Google Chrome, Microsoft Edge neu Firefox.
Mynediad i blwyddyn 7 mewn ysgolion uwchradd ym mis Medi 2022
Sylwch mai'r dyddiad cau oedd 19 Rhagfyr 2021.
Gall rhieni wneud cais o hyd. Fodd bynnag, bydd unrhyw gais a dderbynnir yn cael ei drin fel cais hwyr.
Os ydych yn gwneud cais ar, neu ar ôl 26 Chwefror 2022, fe'ch hysbysir o'r canlyniad trwy e-bost o fewn 15 diwrnod ysgol.
Rydym yn cynghori rhieni i ddarllen y llawlyfr Gwybodaeth i Rieni.
Mae'r ceisiadau yma yn berthnasol i blant a anwyd rhwng 1 Medi 2010 a 31 Awst 2011.
Na fydd yr Awdurdod Lleol yn gallu trafod argaeledd lleoedd na chanlyniad posibl unrhyw gais.
Mae'r cais hwn ar gyfer blwyddyn 7 yn un o'r ysgolion canlynol yn unig.
- Ysgol Syr Thomas Jones Amlwch
- Ysgol Uwchradd Caergybi
- Ysgol Gyfun Llangefni
- Ysgol David Hughes
- Ysgol Uwchradd Bodedern
I wneud cais am fynediad i Ganolfan Addysg Y Bont, cysylltwch â'r Ganolfan yn uniongyrchol.
Ar gyfer unrhyw ysgol y tu allan i ffin Ynys Môn, cysylltwch ag Awdurdod Lleol yr ysgol.
Rhaid rhoi gwybod i'r Gwasanaeth Dysgu am unrhyw newidiadau i'r wybodaeth a roddwch ar y cais hwn yn y dyfodol trwy anfon e-bost atom. Gweler y manylion cyswllt ar y dudalen hon.
Gwneud cais Agorwch y ffurflen gan ddefnyddio porwr gwe â gefnogwyd fel Safari, Google Chrome, Microsoft Edge neu Firefox.
Dalgylchoedd ysgolion uwchradd
Ysgol Syr Thomas Jones
Amlwch
Cemaes
Carreglefn
Moelfre
Llanfechell
Penysarn
Rhosybol
Goronwy Owen
Ysgol Uwchradd Caergybi
Rhoscolyn
Rhosneigr
Y Fali
Llanfawr
Y Tywyn
Kingsland
Cybi
Santes Fair
Caergeiliog
Ysgol Gyfun Llangefni
Bodffordd
Esceifiog
Llanbedrgoch
Y Graig
Henblas
Talwrn
Corn Hir
Santes Dwynwen
Ysgol David Hughes
Biwmares
Brynsiencyn
Llanfairpwll
Llangoed
Pentraeth
Llandegfan
Y Borth
Parc y Bont
Ysgol Uwchradd Bodedern
Bodedern
Bryngwran
Y Ffridd
Llannerchymedd
Pencarnisiog
Morswyn
Rhyd Y Llan
Bydd rhieni’n cael eu hysbysu am ganlyniad eu cais dros e-bost, gan amlaf o fewn 15 diwrnod ysgol.
Na fydd yr Awdurdod Lleol yn gallu trafod argaeledd lleoedd na chanlyniad posibl unrhyw gais.
Cyn gwneud cais rydym yn argymell eich bod yn trafod newid ysgol gyda'ch Pennaeth presennol. Mae’n bwysig ystyried y canlyniadau emosiynol, cymdeithasol ac academaidd i’ch plentyn yn sgil newid ysgol cyn dechrau ystyried gwneud cais am ysgol arall.
Yn yr ysgol uwchradd, bydd angen i chi ystyried y goblygiadau posib i’ch plentyn wrth fethu â pharhau i ddilyn yr un pynciau neu opsiynau yn ogystal ag ystyried efallai na fydd eu gwaith cwrs presennol yn gymwys ar gyfer bwrdd arholi arall.
Rydym yn cynghori rhieni i ddarllen y llawlyfr ‘Gwybodaeth i Rieni’. Gweler y pennawd 'Gwybodaeth bellach i rieni' ar y dudalen we hon.
Gwneud cais
Agorwch y ffurflen gan ddefnyddio porwr gwe â gefnogwyd fel Safari, Google Chrome, Microsoft Edge neu Firefox.
Dalgylchoedd ysgolion uwchradd
Ysgol Syr Thomas Jones
Amlwch
Cemaes
Carreglefn
Moelfre
Llanfechell
Penysarn
Rhosybol
Goronwy Owen
Ysgol Uwchradd Caergybi
Rhoscolyn
Rhosneigr
Y Fali
Llanfawr
Y Tywyn
Kingsland
Cybi
Santes Fair
Caergeiliog
Ysgol Gyfun Llangefni
Bodffordd
Esceifiog
Llanbedrgoch
Y Graig
Henblas
Talwrn
Corn Hir
Santes Dwynwen
Ysgol David Hughes
Biwmares
Brynsiencyn
Llanfairpwll
Llangoed
Pentraeth
Llandegfan
Y Borth
Parc y Bont
Ysgol Uwchradd Bodedern
Bodedern
Bryngwran
Y Ffridd
Llannerchymedd
Pencarnisiog
Morswyn
Rhyd Y Llan
Trefniadau cludiant
Os rhoddir caniatâd i ddisgyblion fynychu ysgol all-ddalgylch, yn arferol mae’n ofynnol iddynt wneud trefniadau teithio eu hunain a dwyn y gost.
Mae’r Awdurdod Lleol wedi adnabod ardal ddaearyddol benodol ar gyfer bob ysgol, a elwir yn ddalgylch. Mae dalgylchoedd ysgol yn dylanwadu ar weithdrefnau mynediad a pholisïau cludiant ysgolion, fodd bynnag, nid yw byw o fewn dalgylch arbennig yn gwarantu lle yn ysgol yr ardal honno. Gellir gweld mapiau sy’n dangos ffiniau’r dalgylchoedd gan y Gwasanaeth Dysgu neu yn yr ysgol.
Mae disgyblion gan amlaf yn mynychu’r ysgol yn y dalgylch y maent yn byw ynddi a lle bydd yr Awdurdod Lleol wedi creu darpariaeth gan ystyried llety, staffio ac adnoddau eraill gan gynnwys cludiant ysgol.
Wrth wneud cais am le mewn ysgol uwchradd, dylai rhieni fod yn ymwybodol mai cyfeiriad y cartref sy’n dynodi’r dalgylch ysgol uwchradd yn hytrach na pha ysgol gynradd a fynychwyd gan eu plentyn. Mae hyn yn effeithio b’run ai yw cludiant ysgol yn ddi-dâl ai peidio i ddisgyblion.
Cyngor pwysig
Cynghorir rhieni/gofalwyr i ystyried y goblygiadau cludiant ysgol cyn mynegi dewis ysgol.
Os rhoddir caniatâd i ddisgyblion fynychu ysgol all-ddalgylch, yn arferol mae’n ofynnol iddynt wneud trefniadau teithio eu hunain a dwyn y gost.
Gweler ein Polisi Cludiant Ysgol am ragor o fanylion.
Ymweld ag ysgolion
Gallwch edrych ar yr ysgolion ar-lein, gan y bydd llawer o ysgolion eleni yn defnyddio eu gwefannau i arddangos eu hysgolion ac yn ychwanegu adnoddau i gynorthwyo disgyblion Blwyddyn 6 a’u rhieni i gael gweld i mewn i bob ysgol.
Gwybodaeth bellach i rieni
Mae’r ddogfen 'Llawlyfr Gwybodaeth i Rieni' yn rhoi gwybodaeth i rieni am bolisïau a threfniadau addysgol Awdurdod Lleol Môn yn unol â’i ddyletswydd dan ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, sy’n sefydlu fframwaith cyfreithiol ar gyfer mynediad i ysgolion.