Gall Gwasanaeth Cwnsela Ysgolion Gwynedd a Môn cynnig cymorth i chi gyda llawer o broblemau emosiynol neu faterion sy’n wynebu pobl ifanc megis:
- tristwch
- hyder
- bwlio poen
- galar
- hapusrwydd
- dryswch
- chwerwedd
- iselder
- dicter
- pryder
- ofn
- parch
Er mwyn i bobl ifanc dderbyn cwnsela gan cwnselydd hyfforddedig mae’n angen iddyn nhw gael eu cyfeirio (bod person mewn awdurdod yn argymell bod y person ifanc yn derbyn cwnsela gan weithiwr proffesiynol) neu gallent hunangyfeirio eu hunain.
Gweler isod am ffyrdd o gael eich cyfeirio
- Gall person ifanc cael ei gyfeirio gan asiantaethau megis TAP (Tîm o Amgylch y Plant) neu swyddogion lles yr ysgol fel nyrs yr ysgol
- Gall y person ifanc mynd at unrhyw weithiwr proffesiynol arall sy’n gweithio gyda disgyblion
- Gall berson ifanc hunan gyfeirio ei hun
Dysgwch fwy am gael cwnsela
Pwysig
Cofiwch, os ydych yn teimlo fel hoffech chi siarad gydag oedolyn ynglŷn â’ch problemau mae modd trafod y rheini gyda pherson mewn awdurdod yn eich ysgol (megis athro/athrawes neu nyrs ysgol).
Mae modd i chi wneud hyn yn gyfrinachol ac yn breifat heb orfod cael eich cyfeirio at y gwasanaeth cwnsela.
- Cyfle i siarad gyda rhywun annibynnol
- Cymorth i ddelio gyda phroblemau emosiynol
- Datblygu hunanymwybyddiaeth
- Cymorth i ddeall a delio gydag emosiynau negyddol
- Ffynhonnell hunan-rym a dyfeisgarwch personol
Mae pob mater a drafodir rhwng y cwnselydd a’r person ifanc yn hollol gyfrinachol.
Dim ond gyda chaniatâd y person ifanc y gellir trafod materion y tu allan i’r sesiwn cwnsela.
Nid oes rhaid cael caniatâd y rhieni er mwyn i berson ifanc dros 14 dderbyn cwnsela os ydy’r person ifanc yn bodloni cymhwysedd Gillick ar gyfer cwnsela.
Yr unig achosion lle mae’n rhaid datgelu gwybodaeth yw:
- os yw’r person ifanc mewn perygl
- os yw’r person ifanc wedi bygwth niweidio ei hunan neu unrhyw un arall