Cyngor Sir Ynys Môn

Cynllun Ysgolion Iach Ynys Môn


Healthy schools logoMae Cynllun Ysgolion Iach Ynys Môn yn rhan o Rwydwaith Cynlluniau Ysgolion Iach Cymru.

Mae tîm Ysgolion Iach Ynys Môn yn cefnogi pob un o ysgolion yr awdurdod lleol i gyflawni ymagwedd ysgol gyfan ar gyfer hyrwyddo iechyd a lles. Mae saith pwnc iechyd allweddol:

  • Bwyd a ffitrwydd (yn cynnwys agweddau megis y ddarpariaeth fwyd a diod, bwyta’n iach a choginio ymarferol, hydradu, addysg gorfforol a chwarae actif).
  • Iechyd a lles meddyliol ac emosiynol (yn cynnwys agweddau megis asesiadau lles disgyblion, darpariaeth gyffredinol ac wedi’i thargedu, lles staff ac atal bwlio).
  • Datblygiad personol a pherthnasoedd (yn cynnwys addysg perthnasoedd a rhywioldeb).
  • Defnyddio a chamddefnyddio sylweddau (yn cynnwys agweddau megis meddyginiaeth, ysmygu, alcohol a chyffuriau).
  • Yr amgylchedd (cysylltu gyda’r Rhaglen Eco Ysgolion, Masnach Deg ac amgylchedd yr ysgol).
  • Diogelwch (yn cynnwys agweddau megis diogelu, diogelwch ar y we, diogelwch yn yr haul, diogelwch y ffyrdd).
  • Hylendid (yn cynnwys agweddau megis rheoli heintiau, hylendid y geg, golchi dwylo, hylendid yn y toiled, hylendid bwyd).

Ymagwedd ysgol gyfan

I ddatblygu a gwreiddio ymagwedd ysgol gyfan ar gyfer pob pwnc iechyd, rhoddir sylw i’r agweddau canlynol:

  • Arweinyddiaeth a chyfathrebu – polisi a gweithdrefnau, hyfforddiant staff, cysylltiadau â mentrau lleol a chenedlaethol.
  • Cwricwlwm – sicrhau bod adnoddau perthnasol yn cael eu defnyddio a chysylltiadau gyda’r Cwricwlwm newydd i Gymru, ynghyd â darpariaeth tu allan i oriau.
  • Ethos a’r amgylchedd – yn cynnwys llais a chyfranogiad y plentyn, cyfranogiad staff ac amgylchedd sy’n cefnogi iechyd a lles.
  • Cynnwys y teulu a’r gymuned – cynnwys rhieni/gofalwyr/teuluoedd a llywodraethwyr, a chysylltiadau gyda sefydliadau partner lleol.

Mae gan bob ysgol ar Ynys Môn swyddog ysgolion iach penodedig sydd yn rhoi cefnogaeth uniongyrchol i gydlynwyr ym mhob ysgol er mwyn hyrwyddo a gwreiddio’r pynciau allweddol hyn yng nghymuned yr ysgol.

Mae ysgolion yn symud ymlaen trwy’r cynllun drwy greu cynlluniau gweithredu a chwblhau achrediadau ar ddiwedd pob cyfnod. Yna, bydd ysgolion yn parhau i symud ymlaen trwy ennill y Dyfarniad Ansawdd Cenedlaethol. Mae’r Dyfarniad Ansawdd Cenedlaethol yn ddyfarniad uchel ei fri, sy’n cael ei asesu’n annibynnol ac mae’n dathlu ymrwymiad ysgol i iechyd a lles ei disgyblion, ei staff a chymuned gyfan yr ysgol.

Sut mae’r Tîm Ysgolion Iach yn cefnogi ysgolion?

  • Ymweliadau cefnogol ag ysgolion i greu cynlluniau gweithredu ar gyfer y 7 pwnc iechyd allweddol.
  • Cwblhau achrediadau camau lleol, lle bydd ysgolion yn ennill plac cydnabyddiaeth.
  • Gweithio gydag asiantaethau partner a chyfeirio ysgolion at gefnogaeth berthnasol.
  • Darparu a hwyluso hyfforddiant staff ar bynciau iechyd amrywiol.
  • Datblygu adnoddau a phecynnau cymorth i gefnogi’r gwaith o ddarparu’r cwricwlwm.
  • Datblygu templedi ar gyfer polisïau perthnasol.
  • Rhannu a benthyg adnoddau i gefnogi’r pynciau allweddol hyn.
  • Trefnu digwyddiadau rhwydweithio ar gyfer ysgolion a sefydliadau partner.
  • Rhannu gwybodaeth trwy e-fwletinau, newyddlenni a’r cyfryngau cymdeithasol.

Os yw eich ysgol yn dymuno derbyn rhagor o gymorth gyda’r cynllun, cysylltwch â’ch Swyddog Ysgolion Iach.