Cyngor Sir Ynys Môn

Strategaeth moderneiddio cymunedau dysgu a datblygu'r Gymraeg


Mae ar Gyngor Sir Ynys Môn eisiau i bob plentyn, unigolyn ifanc a dysgwr, lle bynnag y maent gyrraedd eu potensial a bod yn barod i chwarae eu rhan fel dinasyddion cyfrifol a phencampwyr cymunedol.

Yn y cyd-destun hwn, mae’r Cyngor yn dymuno sicrhau bod ysgolion modern yn addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain ac yn gwneud y defnydd gorau o dechnoleg fodern.

Bydd hyn yn:

  • arwain at safonau uwch
  • ymateb i’r newidiadau sy’n digwydd yn y gymdeithas, mewn cymunedau ac yn yr economi
  • gwella deilliannau ar gyfer plant a phobl ifanc ac yn arbennig torri’r cysylltiad rhwng amddifadedd a chyflawniad isel

Mae’r cyngor hefyd yn dymuno bod yn rhagweithiol mewn sicrhau bod plant, lle bo modd, yn cael eu haddysgu o fewn eu dalgylch leol.

Er mwyn cyflawni hyn, mae angen cyfundrefn ysgol sy’n fwy effeithiol ac effeithlon – un sy’n sicrhau bod ysgolion wedi eu lleoli yn y lle cywir ac yn cael eu harwain gan brifathrawon ysbrydoledig sydd â digon o amser arweinyddiaeth i gwblhau’r dasg.

Gweler y strategaeth - bydd y ddolen yn agor tab newydd

Rhaglen Amlinellol Strategol Cyngor Sir Ynys Môn 2024 i 2033

Mae’r rhaglen yma’n amlinellu cynlluniau posib y Cyngor ar gyfer ysgolion Môn am y 9 mlynedd nesaf. Mae’r ddogfen wedi ei chyhoeddi ar y cyd gyda rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru. Cafodd Rhaglen Amlinellol Strategol Cyngor Sir Ynys Môn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru ar ddiwedd Mawrth 2024. Yn dilyn hynny, cafodd y Rhaglen Amlinellol Strategol ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru ac yna Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn Awst 2024.

Mae'r ddogfen hon yn dempled allanol a gynhyrchwyd gan Lywodraeth Cymru.

Efallai na fydd y ffeil yn addas os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol. Os ydych angen fersiwn sy’n fwy hygyrch, anfonwch neges e-bost at digidol@ynysmon.llyw.cymru gan nodi’r fformat sydd ei angen arnoch.