Bydd Uned Cyfnod Sylfaen newydd ar safle Ysgol y Graig sydd werth £10.5m yn agor ar 1 Medi 2024.
Dechreuodd y gwaith ar yr adeilad newydd ym mis Ionawr 2023.
Papur cynnig
Ar Ionawr 20, 2020, penderfynodd Pwyllgor Gwaith Cyngor Sir Ynys Môn i gymeradwyo’r cynnig i 'gynyddu capasiti Ysgol y Graig i gymryd disgyblion Ysgol Talwrn, cau Ysgol Talwrn ac adolygu dalgylchoedd Ysgol y Graig ac Ysgol Talwrn ac awdurdodi Swyddogion i gynnal ymgynghoriad statudol ar y cynnig'.
Gweler y papur cynnig
Penderfyniad y Pwyllgor Gwaith
Yn dilyn cyfnod o ymgynghori statudol, penderfynodd Pwyllgor Gwaith Cyngor Sir Ynys Môn ar Ragfyr 17, 2020 i:
- cymeradwyo'r cynnig i gynyddu capasiti Ysgol y Graig i gymryd disgyblion o Ysgol Talwrn, cau Ysgol Talwrn ac adolygu dalgylchoedd Ysgol y Graig ac Ysgol Talwrn
- awdurdodi Swyddogion i symud i ran nesaf y broses a nodir yng Nghod Trefniadaeth Ysgolion 2018 a chyhoeddi rhybudd statudol am gyfnod o 28 diwrnod yn gynnar yn y Flwyddyn Newydd
- wdurdodi Swyddogion i ymgymryd ag ymatebion i'r rhybudd statudol gan lunio adroddiad gwrthwynebiadau (os oes gwrthwynebiadau) i'w ystyried ymhellach gan y Pwyllgor Gwaith yn y Flwyddyn Newydd
- awdurdodi Swyddogion i ailgyhoeddi'r Asesiad Effaith ar y cynnig fel rhan o asesu effaith barhaus y cynnig ar gydraddoldeb, y Gymraeg a'r gymuned
Gweler y penderfyniad
Adroddiad gwrthwynebu
Yn dilyn cyfnod gwrthwynebu statudol, penderfynodd Pwyllgor Gwaith Cyngor Sir Ynys Môn ar Fawrth 15, 2021 i 'gymeradwyo’r cynnig gwreiddiol, sef i gynyddu capasiti Ysgol y Graig i gymryd disgyblion o Ysgol Talwrn, cau Ysgol Talwrn ac adolygu dalgylchoedd Ysgol y Graig ac Ysgol Talwrn'.
Gweler yr adroddiad
Oedi dyddiad gweithredu’r rhybudd statudol
Yn ei gyfarfod ar 21 Mawrth 2023, penderfynodd y Pwyllgor Gwaith i:
- gymeradwyo oedi dyddiad gweithredu’r cynnig, sef i 'gynyddu capasiti Ysgol y Graig i gymryd disgyblion o Ysgol Talwrn, cau Ysgol Talwrn ac adolygu dalgylchoedd Ysgol y Graig ac Ysgol Talwrn' i 1 Medi, 2024
- yn amodol ar yr uchod, bydd Swyddogion yn hysbysu’r 'partïon perthnasol' o’r penderfyniad i ohirio dyddiad gweithredu’r cynnig ar gyfer Ysgol y Graig
Ewch i’r cyfarfod ar 21 Mawrth 2023
Adolygu dalgylchoedd
Adolygwyd dalgylchoedd y ddwy ysgol gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 18 Gorffennaf 2023 a penderfynwyd cymeradwyo Opsiwn 2 sef cyfuno dalgylch presennol Ysgol Talwrn gyda dalgylch Ysgol y Graig.
Ewch i’r cyfarfod ar 18 Gorffennaf 2023
Ffotograffau o ddatblygiad