Hwb yw’r llwyfan digidol ar gyfer dysgu ac addysgu yng Nghymru.
Mae’n darparu mynediad at ystod o offer ac adnoddau dwyieithog a digidol sydd wedi'u hariannu'n ganolog i’w ddefnyddwyr:
- Cwricwlwm i Gymru
- gwybodaeth ar ddysgu proffesiynol
- miloedd o adnoddau dwyieithog
- gwybodaeth ynglŷn â diogelwch ar-lein
Fel Llywodraethwr, gall eich clerc neu bencampwr digidol eich ysgol ddyrannu cyfrif Hwb i chi, a fydd hefyd yn caniatáu i chi gael mynediad at “Microsoft Office 365” a “Google for Education” am ddim.
Cysylltwch â LlywodraethwyrGovernors@ynysmon.gov.uk os ydych angen cymorth â hyn.