Gwybodaeth ar dermau a gwyliau ysgol cynradd, uwchradd ac arbennig Ynys Môn.
Bydd ysgolion sy’n cau yn ystod etholiadau yn ail-agor am nifer o ddyddiau ar ddiwedd Tymor yr Haf.
Mae polisi presenoldeb a phrydlondeb yr ysgol efo gwybodaeth am dynnu disgyblion allan o ysgol yn ystod tymor ysgol.
Tymor ysgol 2025 i 2026
Tymor |
Dyddiad cychwyn |
Dyddiad diwedd |
Hydref 2025 |
1 Medi 2025 (mae ysgolion yn dechrau 2 Medi ar gyfer disgyblion ar ôl diwrnod dan reolaeth ysgol) |
19 Rhagfyr 2025 |
Gwanwyn 2026 |
5 Ionawr 2026 |
27 Mawrth 2026 |
Haf 2026 |
13 Ebrill 2026 |
20 Gorffennaf 2026 |
Gwyliau ysgol 2025 i 2026
Gwyliau |
Dyddiad cychwyn |
Dyddiad diwedd |
Hanner tymor Hydref |
27 Hydref 2025 |
31 Hydref 2025 |
Gwyliau Nadolig |
22 Rhagfyr 2025 |
2 Ionawr 2026 |
Hanner tymor Gwanwyn |
16 Chwefror 2026 |
20 Chwefror 2026 |
Gwyliau Pasg |
30 Mawrth 2026 |
10 Ebrill 2026 |
Calan Mai (gŵyl banc) |
4 Mai 2026 |
|
Hanner tymor Haf |
25 Mai 2026 |
30 Mai 2026 |
Gwyliau Haf |
21 Gorffennaf 2026 |
31 Awst 2026 |
Nid yw dyddiadau Blwyddyn Ysgol 2026 i 2027 wedi eu cadarnhau hyd yma.
Diwrnodau hyfforddi athrawon ('diwrnod hyfforddiant')
5 diwrnod hyfforddiant i’w trefnu gan yr ysgol yn ystod y flwyddyn.
Ysgolion sy'n cau ar gyfer etholiadau
Bydd ysgolion sy’n cau ar gyfer etholiadau, yn agor am y nifer hynny o ddyddiau ar ddiwedd Tymor yr Haf
Efallai na fydd y ffeil yn addas os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol. Os ydych angen fersiwn sy’n fwy hygyrch, anfonwch neges e-bost at
digidol@ynysmon.llyw.cymru gan nodi’r fformat sydd ei angen arnoch.
Gofal plant yn ystod gwyliau ysgol
Mae clybiau gofal plant ar gael yn yr ardaloedd canlynol yn ystod gwyliau’r ysgol:
- Biwmares 07955 066 217
- Bodffordd 01248 723 321
- Caergybi 07718 996 124
- Llanedwen 01248 714 700
- Llangefni 07718 996 124
Mae’r clybiau gofal plant yn agored i blant 3 i 11 oed ac yn gofrestredig gyda AGGCC
Am fwy o fanylion ynglyn â gofal plant yn gyffredinol cysylltwch â’r Teulu Môn.