Cymorth ariannol ar gyfer myfyrwyr 16+
Gall disgyblion o deuluoedd gydag incwm isel sy’n dymuno aros yn yr ysgol y tu draw i’r oedran gadael ysgol statudol hawlio Lwfans Cynnal Addysg Llywodraeth Cynulliad Cymru. Am wybodaeth bellach cysylltwch ag ysgol uwchradd eich plentyn neu ymwelwch â gwefan LCA Cymru
Mae gwefan LCA Cymru yn rhoi help a gwybodaeth i:
- Fyfyrwyr. Darganfyddwch sut y gallech gael lwfans wythnosol drwy barhau mewn addysg.
- Rhieni a gwarcheidwaid. Darganfyddwch sut y gall LCA helpu myfyrwyr gyda chostau parhau â’u haddysg o ddydd i ddydd.
- Canolfannau Dysgu (Colegau, Ysgolion a sefydliadau eraill). Darganfyddwch beth y mae LCA yn ei olygu i’ch myfyrwyr a’ch rôl chi.
Mewnrhwyd - dim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd gwe allanol.
Cyllid myfyrwyr
Mae Cyllid Myfyrwyr Cymru, sydd wedi ei leoli yng Nghyffordd Llandudno, nawr yn gyfrifol am brosesu, asesu a thalu cyllid i fyfyrwyr ar gyfer pob cais.
Am fanylion ar sut i ymgeisio am gyllid i fyfyrwyr, trowch at www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk.
Os oes gennych ymholiad am eich cyfrif cyllid i fyfyrwyr, dylech nawr gysylltu â Chyllid Myfyrwyr Cymru ar 0300 200 4050.
All tudalennau Facebook (facebook.com/SFWales) a Twitter (Twitter.com/SF_Wales) CMC hefyd ddarparu gwybodaeth a diweddariadau rheolaidd.
Mewnrhwyd - dim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd gwe allanol.