Mae pob plentyn a pherson ifanc yn unigryw, ac mae ar bob un angen cefnogaeth i ddatblygu’n unigolyn effeithiol.
Mae rhai plant yn dysgu’n haws nag eraill. Rhaid i ni sicrhau eu bod yn cael y gefnogaeth briodol fel eu bod yn cyrraedd eu llawn botensial.
Os yw plentyn yn cael anhawster i ddysgu, efallai bod ganddo/ganddi anghenion dysgu ychwanegol (ADY). Os credwch fod gan eich plentyn chi anawsterau, mae’n bwysig eich bod yn rhannu’ch pryderon gyda’r gweithwyr proffesiynol priodol.
Os nad yw eich plentyn wedi cyrraedd oedran ysgol, gallwch siarad â’r:
- ymwelydd iechyd
- meddyg
- Ymarferwyr Blynyddoedd Cynnar (yn y cylch chwarae neu’r feithrinfa)
Os yw eich plentyn yn yr ysgol, gallwch siarad â’r:
- athro/athrawes dosbarth
- pennaeth yr ysgol
- neu gofynwch am y Cyd gysylltydd Anghenion Addysgol Arbennig (ALNCO)
Os ydych yn ei chael yn anodd siarad gyda’r ysgol neu bobl eraill sy’n gweithio efo’ch plentyn am unrhyw reswm, yna gallwch gysylltu gyda SNAP Cymru am gefnogaeth a chyngor diduedd drwy ffonio 01248 674 999.
Gwefan ar gyfer y Gwasanaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiant
Mae'r Gwasanaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiant (ADYaCh) yn wasanaeth newydd.
Mae'r wefan hon ar gyfer y gwasanaeth ADYaCh ar y cyd a oedd gynt yn cael ei redeg gan Gyngor Sir Ynys Môn a Chyngor Gwynedd.
Mae gwybodaeth am y broses yn dal ar gael. Fodd bynnag, nid yw'r unigolion a'r manylion cyswllt a ddangosir ar y wefan yn gyfredol.
Cysylltwch â ni ar 01248 751 892 os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os nad ydych yn siŵr am unrhyw beth.
Ewch i'r wefan ADYaCh - Gwynedd a Môn
Cynlluniau datblygu unigol (CDU)
Gallwch gael mynediad at y CDU ar-lein os oes gan eich plentyn gynllun datblygu unigol (CDU).