Cyngor Sir Ynys Môn

Ynglŷn â Anghenion Dysgu Ychwanegol


Mae pob plentyn a pherson ifanc yn unigryw, ac mae ar bob un angen cefnogaeth i ddatblygu’n unigolyn effeithiol.

Mae rhai plant yn dysgu’n haws nag eraill. Rhaid i ni sicrhau eu bod yn cael y gefnogaeth briodol fel eu bod yn cyrraedd eu llawn botensial.

Os yw plentyn yn cael anhawster i ddysgu, efallai bod ganddo/ganddi anghenion dysgu ychwanegol (ADY). Os credwch fod gan eich plentyn chi anawsterau, mae’n bwysig eich bod yn rhannu’ch pryderon gyda’r gweithwyr proffesiynol priodol.

Os nad yw eich plentyn wedi cyrraedd oedran ysgol, gallwch siarad â’r:

  • ymwelydd iechyd
  • meddyg
  • Ymarferwyr Blynyddoedd Cynnar (yn y cylch chwarae neu’r feithrinfa)

Os yw eich plentyn yn yr ysgol, gallwch siarad â’r:

  • athro/athrawes dosbarth
  • pennaeth yr ysgol
  • neu gofynwch am y Cyd gysylltydd Anghenion Addysgol Arbennig (ALNCO)

Os ydych yn ei chael yn anodd siarad gyda’r ysgol neu bobl eraill sy’n gweithio efo’ch plentyn am unrhyw reswm, yna gallwch gysylltu gyda SNAP Cymru am gefnogaeth a chyngor diduedd drwy ffonio 01248 674 999.

Gwybodaeth pellach

Mae'r Gwasanaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiant (ADYaCh) yn wasanaeth newydd. Dyma'r wefan ar gyfer yr hen wasanaeth ADYaCh ar y cyd rhwng Cyngor Gwynedd a Chyngor Sir Ynys Môn. Nid yw'r unigolion na'r manylion cyswllt a ddangosir yno yn gyfredol, ond mae gwybodaeth am y broses ar gael o hyd. Os oes gennych unrhyw amheuaeth neu gwestiynau, cysylltwch â ni ar 01248 751892.

ADYaCh - Gwynedd a Môn