Cyngor Sir Ynys Môn

Gofal plant o safon rhan amser i blant 2-3 oed


Flying Start logo high resolutionOs ydych yn byw mewn ardal Dechrau’n Deg, mae hawl gan eich plentyn i gael lle gofal plant wedi ariannu gan y llywodraeth.

Bydd gofal yn cychwyn ar ddechrau’r tymor ar ôl eu penblwydd yn 2 oed hyd at y tymor ar ôl iddynt droi yn 3 mlwydd oed.

Mae sesiwn gofal plant yn parhau am 2 ½ awr, ac mae ar gael 5 diwrnod yr wythnos am 39 wythnos o’r flwyddyn.

Mae lleoliadau gofal plant Dechrau’n Deg yn cynnig gofal plant o ansawdd uchel a byddant yn gweithio’n agos â chi i hyrwyddo datblygiad eich plentyn.

Gwybodaeth bellach

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â’r uchod cysylltwch â ni.

Am wybodaeth ychwanegol gallwch ddarllen y llyfrynnau gwybodaeth gofal plant i rieni.