Gweledigaeth Môn
Gweledigaeth Môn yw bod pob disgybl sy’n mynd drwy system addysg yr ynys yn gwbl ddwyieithog erbyn 16 oed, ac yn hyderus i gyfathrebu’n gyfartal yn y ddwy iaith yn y gweithle ac mewn cyd-destunau diwylliannol a chymdeithasol.
Manteision addysg cyfrwng Cymraeg
Nid oes rhaid i chi siarad Cymraeg i’ch plentyn allu fanteisio ar addysg cyfrwng Cymraeg.
Drwy gofrestru eich plentyn mewn ysgol cyfrwng Cymraeg, bydd yn cael mwy o gyfleoedd, profiadau ac yn meithrin sgiliau newydd, waeth pa iaith rydych yn siarad gartref.
Mae dewis addysg cyfrwng Cymraeg yn galluogi eich plentyn i ddatblygu sgiliau dwyieithog, yn greadigol ac yn academaidd.
Mae mwy o fuddion ynghlwm ag addysg ddwyieithog sydd yn gwella sgiliau gwybyddol plentyn, ac mae’r sgiliau hyn yn aros gyda nhw am byth.
Mae sawl mantais i dderbyn addysg cyfrwng Cymraeg.
Yr ysgol a dysgu
- Mae plant ifanc yn dysgu ieithoedd gwahanol yn llawer cynt nag oedolion.
- Gan amlaf, mae plant sy’n siarad dwy iaith yn llwyddo yn yr ysgol.
- Mae siarad dwy iaith yn ei gwneud yn haws i ddysgu mwy o ieithoedd yn hwyrach mewn bywyd.
- Mae plant sy’n dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg hefyd yn gwneud yn llwyddo mewn Saesneg, ac weithiau’n gwneud yn well na phlant sydd ond yn derbyn addysg yn y Saesneg.
Swyddi a’r dyfodol
- Mae gallu siarad Cymraeg yn bwysig mewn mwy a mwy o swyddi.
- Mae dangos eich bod yn siarad dwy iaith yn edrych yn dda ar gais am swydd.
- Mae pobl sy’n siarad dwy iaith yn aml yn ennill mwy o gyflog.
Diwylliant, cymuned a llesiant
- Mae siarad Cymraeg yn helpu pobl i ddysgu mwy am hanes a diwylliant Cymru.
- Mae’n helpu pobl i deimlo eu bod yn perthyn i rywbeth a deall nhw eu hunain.
- Gall newid rhwng dwy iaith wneud i bobl deimlo yn falch a hyderus.
- Mae astudiaethau’n dangos bod siarad mwy nag un iaith yn fuddiol ar gyfer eich iechyd meddwl.
Canllawiau gan Lywodraeth Cymru
Mae gan Lywodraeth Cymru ganllawiau a chynlluniau ar eu gwefan am yr iaith Gymraeg mewn addysg.
Ewch i wefan Llywodraeth Cymru
Cymraeg i bawb
Addysg cyfrwng Cymraeg yw'r dewis gorau os ydych chi eisiau i'ch plentyn fod yn ddwyieithog.
Ewch i wefan Cymraeg i bawb i ddysgu mwy gyfleoedd i chi a'ch plentyn - bydd y ddolen yn agor tab newydd
Rhieni dros addysg Gymraeg (RhAG)
Mae RhAG yn gweithio i gynyddu darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg i blant ledled Cymru yn ogystal â gwneud cyfleoedd addysg yng Nghymru yn hygyrch i bob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru.
Ewch i wefan RhAG - bydd y ddolen yn agor tab newydd