Er mwyn sicrhau eich bod yn talu'r swm cywir o’r Dreth Gyngor, mae angen i ni wybod pryd mae eich amgylchiadau'n newid.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn dweud wrthym os byddwch yn symud:
- i gyfeiriad gwahanol ar Ynys Môn (gan gynnwys symud i neu allan o gartref eich rhieni)
- i Ynys Môn o fannau eraill
- tu allan i Ynys Môn
Rhowch wybod i ni am newid mewn cyfeiriad
Newid tenantiaeth
Os ydych yn landlord a'ch bod wedi newid eich tenantiaeth mewn un neu fwy o'ch eiddo, rhowch wybod i ni.
Rhowch wybod i ni am newid mewn tenantiaeth