I derfynu'ch contract meddiannaeth fel tenant cyngor, defnyddiwch ein ffurflen ar-lein. (Rhaid i chi gofrestru os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes.)
Cyfnod rhybudd o 28 diwrnod
Rhaid i denantiaid rhoi o leiaf 28 diwrnod clir o rybudd i derfynu eu contract meddiannaeth.
Rhaid i’r 28 diwrnod yma ddod i ben ar ddiwedd y cyfnod rhentu llawn yn unol â’r gontract meddiannaeth.
Os ydych yn gwneud camgymeriad wrth lenwi y ffurflen, byddwn yn eich hysbysu ynghylch y dyddiad terfyn cywir yn ysgrifenedig.
Contract meddiannaeth ar y cyd
Os yw’n gontract meddiannaeth ar y cyd, bydd y rhybudd yn dod â’r gontract cyfan i ben hyd yn oed os nad yw’r cyfan o’r cyd-deiliwyr contract yn ei arwyddo. Mae hyn yn golygu y bydd raid i bawb sy’n byw yn yr eiddo adael erbyn y daw’r denantiaeth i ben.
Caniatáu i bobl weld yr eiddo
Os ydych yn fodlon caniatau i ddarpar deiliwyr contract ddod i weld yr eiddo yn ystod y cyfnod rhybudd (gyda Swyddog Tai), bydd gennych hawl i dderbyn talebau siopa gwerth £60 pan fyddwch yn rhoi’r goriadau yn ôl ar ddiwedd y denantiaeth.
Nodwch, os gwelwch yn dda, os oes gennych unrhyw ddyledion tai (ôl-ddyledion rhent, tâl am waith trwsio, costau Llys), bydd y taliad yn cael ei roi yn erbyn y dyledion.