Cyngor Sir Ynys Môn

Cronfa Gwelliannau Amgylcheddol a Chymunedol


Cefndir

Mae'r Gronfa Gwella Amgylcheddol a Chymunedol wedi'i chynllunio i gefnogi prosiectau amgylcheddol sy'n gwneud eich cymuned yn lle mwy diogel, taclus a mwy dymunol i fyw.

Rhaid i chi fod yn denant cyngor neu'n les ddeiliad i wneud cais.

Mae'r gronfa yn caniatáu i chi wneud cais am grant o hyd at £5,000.

Rydym yn cynnig dau gategori cyllid:

  • Categori 1: Cyllid blynyddol o hyd at £500, ar gael drwy gydol y flwyddyn.
  • Categori 2: Cyllid o hyd at £5,000, ar gael unwaith bob 2 flynedd. Mae'r opsiwn hwn ar agor yn ystod mis Chwefror bob blwyddyn. 

Ar ôl i chi gyflwyno ffurflen ymholiad, bydd eich Swyddog Rheoli Tai a'ch Swyddog Cyfranogiad Tenantiaid yn cysylltu â chi i drefnu ymweliad a thrafod eich syniadau. Ar ôl yr ymweliad, bydd y Swyddog Rheoli Tai yn cyflwyno'ch ffurflen gais ar eich rhan. Ar ôl ei gyflwyno, bydd ein Panel Tenantiaid yn adolygu ac yn sgorio'r holl geisiadau yn ystod mis Mawrth.

Os bydd eich cais am gyllid Categori 2 yn llwyddiannus, ni fyddwch yn gymwys i wneud cais eto am gyllid Categori 2 am 2 flynedd.

Gwneud cais

Defnyddiwch ein ffurflen ymholiadau ar-lein.

Gwneud ymholiad

Y Panel Amgylcheddol

Bydd y Panel Amgylcheddol, sef panel cymysg o swyddogion tai a cynrychiolwyr tenantiaid y cyngor, yn cyfarfod o fewn mis Ebrill ar gyfer asesu’r ceisiadau.

Am ragor o wybodaeth, defnyddiwch y manylion cyswllt ar y dudalen hon.

Prosiect cymunedol sy’n elwa cymaint o denantiaid a phrydleswyr a phosibl.

Noder fod y prosiectau hyn ar gyfer ardaloedd cymunedol yn unig ac nid ar gyfer eiddo/gerddi unigol.

Rhai awgrymiadau am gynlluniau posibl

Tirlunio

Unrhyw le a fyddai’n elwa o blannu llwyni i dyfu blodau, ffrwythau a llysiau ac i wella bywyd gwyllt lle y gallai’r gymuned wedyn eu cynnal a’u cadw.

Clirio safle

Cael gwared ar isdyfiant er mwyn gwneud i’r ardal edrych yn fwy taclus ac er mwyn ei gwneud yn fwy diogel.

Llwybrau

Gwella mynediad i adeilad.

Ffensys

Unrhyw newidiadau bach a fyddai’n gwella diogelwch y gymuned.

Goleuadau

Ar adeilad neu mewn ardal dywyll a fyddai’n gwneud i’r bobl leol deimlo fwy diogel.

Arwyddion

Er mwyn ei gwneud hi’n haws i ymwelwyr ddod o hyd i chi.

Ailgylchu

Lle byddai ail-leoli neu gosod ardal benodol yn helpu i gadw’r stad yn fwy taclus ac i wneud ailgylchu yn haws.

Rhaid i gais ddweud wrthom:

  • Am eich syniad neu eich prosiect arfaethedig a beth yr ydych yn feddwl sydd angen ei wneud.
  • Sut bydd yn gwella eich cymdogaeth.
  • Pam fydd eich cymuned yn elwa.
  • Sut yr aethoch o’i chwmpas hi i siarad am y rhai hynny a effeithiwyd gan eich cais.
  • Pwy sy’n cefnogi’r prosiect.
  • Sut gall eich cymuned barhau i gefnogi’r prosiect unwaith y bydd wedi’i gwblhau.
  • Amcan bris o faint y bydd eich prosiect yn ei gostio. Darperwch 3 amcan bris gan wahanol gyflenwyr os yw’r dyfynbris cyntaf dros £3,000.
  • Llofnodion gan o leiaf 80% o’r tenantiaid a’r trigolion yn cytuno i’r gwaith arfaethedig.

Bydd tenantiaid y cyngor, lesddeiliaid neu gynrychiolwyr cymunedol yn gallu gwneud cais y grant o 1 Ionawr tan 31 Mawrth bob blwyddyn.

Os yw eich cais yn llwyddiannus, ni fydd eich stad yn gallu ymgeisio eto am ddwy flynedd.

Mae tri cam:

Cam 1

  • Bydd ceisiadau wedi eu cwblhau yn cael eu cyflwyno i adran tai y cyngor.
  • Bydd y Panel Amgylcheddol, sy’n gymysgedd o denantiaid a swyddogion tai yn asesu’r ceisiadau er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn bodloni’r canllawiau.
  • Bydd y rhai hynny sy’n bodloni’r canllawiau wedyn yn mynd ymlaen i’r cam nesaf.

Cam 2

  • Bydd swyddog tai, archwiliwr technegol a chynrychiolydd tenant yn ymweld â phob prosiect arfaethedig ac yn gwneud siŵr nad oes unrhyw broblemau technegol wrth gyflawni’r cynllun.
  • Bydd y Panel Amgylcheddol yn cyfarfod eto ac yn cadarnhau pa brosiectau fydd yn mynd yn eu blaenau.
  • Unwaith bydd penderfyniadau wedi eu gwneud, bydd yr holl ymgeiswyr yn cael eu hysbysu am y penderfyniad drwy lythyr neu e-bost.

Cam 3

  • Bydd yr holl geisiadau llwyddiannus yn cael eu cyflawni gan gontractwyr a roddodd y dyfynbris gorau am y gwaith a byddant yn cael eu goruchwylio gan y Tîm Cyfranogiad Tenantiaid.
  • Ar ôl cwblhau’r prosiect, bydd y Panel Amgylcheddol yn ymweld er mwyn gwneud yn siŵr bod y prosiect wedi ei gwblhau.